Chwilio

Garddwest Medi 1979

Llwyddiant ardderchog fu hanes Garddwest Talsarnau eto eleni. Cafwyd tywydd ardderchog a thyrrodd rhai cannoedd o bobl yno i fwynhau eu hunain ar y stondinau ac yn gwrando ar y gwahanol artisiaid yn perfformio yn y Pnawn Llawen.

Croesawyd yn gynnes iawn cyn Brifathro'r ysgol leol a'i wraig - Mr a Mrs Bennet Williams. Cafwyd sgwrs agoriadol ddiddorol a hwyliog fel arfer gan Mr Williams, a bu'r ddau yn mwynhau eu hunain drwy'r pnawn yn cyfarfod a hwn a'r llall.

Derbyniwyd dros £1,000 a mawr yw diolch y pwyllgor am bob cymorth a phob cyfraniad tuag at lwyddiant y diwrnod.