Chwilio

Traeth

 Traeth Talsarnau - glaswellt yn peri pembleth.

Ers dros ugeiniau o flynyddoedd mae'r glaswellt yn aber yr afon Ddwyryd ger Llanfihangel y Traethau wedi bod yn atyniad i'r ardalwyr. Tir y Goron ydyw ac fe gofrestrwyd union hawliau'r cyhoedd arno yn yr hen Gyngor Dosbarth ym Mhenrhyndeudraeth. Fodd bynnag, ymddengys bod gwrthwynebiad i'r ffensio a ddigwyddodd yn ddiweddar. Er hynny, mae olion hen ffensiau yma ac acw ar y glastraeth. Bu ffensio yma yn y gorffennol. Ffermwyr lleol sy'n defnyddio'r tir fel porfa i'w defaid.

Yn ôl y ffermwyr mae gosod ffens yn ei gwneud yn haws hel a didol defaid - mater o synnwyr cyffredin yw hynny. Mae rhai o drigolion y plwy' o'r farn bod y ffensiau yn dramgwydd ac nad ydy bellach yn hawdd cerdded yn rhwydd o un pegwn i'r llall ar y glastraeth. Ateb y ffermwyr i'r ddadl hon ydy bod llidiart ger y clawdd llanw - mater o benderfynnu ydy hi wedyn i ba ran o'r traeth mae un am gyfeirio ei draed neu'i bram. Ar ben hyn, mae'r ffermwyr yn fodlon gosod camfeydd, ond i ddefnyddwyr nodi'r mannau mwyaf rhwydd.

Ond nid yw gwrthwynebwyr y ffensiau yn fodlon ar hyn gan fod y ddeddf yn nodi yn blwmp ac yn blaen bod hawl gan ardalwyr i gerdded yn rhydd ar yr aber glaswelltog. Yr hyn sy'n ddiddorol ydy bod y ddeddf hefyd yn caniatau prynu Tir y Goron ac ar yr un pryd yn annog defnydd cyhoeddus.  Tipyn o bembleth - tipyn o anghydfod, ond fe roddwyd ar ddeall i'r Llais fod y mater dan sylw gan Gyngor Cymdeithas Talsarnau. Amser a ffeithiau yn unig a ddengys os fydd datrys ar y broblem.