Chwilio

Eisteddfod Talsarnau 1978


Cafwyd Eisteddfod gofiadwy eleni eto gyda chystadleuwyr o bob cwr o'r wlad ar y llwyfan.  Nos Wener roedd y plant ar eu gorau yn ceisio am y medalau a'r cwpanau hardd.  Sonnir yn hir am gystadleuaeth yr Emyn i rai dros 50 oed, gyda tri ar ddeg o ddatgeinwyr ar eu gorau, gwledd yn wir o wrando arnynt.

Gwelwyd chwech enillydd cenedlaethol ar y llwyfan a gwnaeth Mr Geraint Lloyd Owen, beirniad adrodd a llên, a Mr T J Williams, beirnaid cerdd, sylw arbennig at safon uchel yr adrodd, unawd Gymraeg a'r her unawd, gan roddi her i bobl y radio a'r teledu i ddod allan o'u swyddfeydd yng Nghaerdydd i gefn gwlad Cymru gan fod digon o dalentau ar gael.

Roedd safon arbennig o uchel hefyd i gystadleuaeth y Gadair a gipiwyd gan Medwyn Jones, Rhuthun am awdl 'Moliant Tyddynwr'.  John Griffith Jones, brodor o Lyn, a briododd un o enethod Ardudwy, sydd ar hyn o bryd yn byw yn Abergele, aeth a Medal hardd y Prif Lenor am ysgrif i'r 'Sarn'.

Cafwyd hefyd dros yr Wyl groesawu dau o blant yr ardal gartref i lywyddu yn yr eisteddofd.  Nos Wener, Margretta Jones, athrawes o'r Bermo, gynt o Lety'r Fwyalch, a nos Sadwrn - Gwyndaf Williams, Lerpwl, Cefngwyn gynt.  Mae'n siwr y bydd y ddau ar eu mantais o droi'n ôl i'r hen fro a chwrdd a hen gyfoedion, a chael pymtheg awr o Eisteddfota dan arweiniad Gwynfor Williams, Celt Roberts ac Evie Morgan Jones.  Cyfeiliwyd yn fedrus iawn gan Mrs Byron Howells nos Wener a Mrs Sol Owen nos Sadwrn, a theylynores Aran.  Cloriannwyd adran y Cerdd Dant yn ei ffordd hynaws fel arfer gan Selyf.

Erthygl o Llais Ardudwy mis Ebrill 1978 - Rhifyn 33.