Chwilio

Llais Ardudwy Rhifyn 29 Rhagfyr 1977

Genedigaeth Arwyn Madog Williams, mab Mr & Mrs GwynforWilliams - y baban cyntaf i gael ei eni yn Ysbyty Madog, Porthmadog.

Llongyfarchiadau i'r garddwyr lleol ar gipio gwobrau mewn sioeau - Mr W. O. Jones, Capel Fawnog, Mr B Roberts, Maes Trefor (Harlech) a Mr R. G. Williams, Garthbyr (cwpan adran llysiau a'r cennin gorau - Sioe Harlech).

Aeth nifer o'r ieuenctid i 'Steddfod Bro Ffestiniog, Tachwedd 4ydd. Bu Heulwen Evans, Cilfor a Heulwen Aubrey, Garthbyr yn cystadlu yno, ond y tro hwn, Carol Evans, Cilfor (unawd dan 16 oed) a Gwen Aubrey, Garthbyr (adran dan 7 oed) a gipiodd y prif wobrau. Llongyfarchiadau i chwi.

Angladd Mrs Hugh John Hughes

Mesur o barch yr ardal gyfan, a mesur o'i hanwyldeb hithau, oedd y ffaith nad oedd digon o le yn Eglwys Llanfihangel y Traethau i'r cyfeillion a ddaeth i 'hebrwng' Mrs Ann Hughes ar ei thath olaf. 'Roedd hi'n brynhawn stormus fel pe bai Natur ei hun am danlinellu tristwch a galar ei theulu, a fu'n gymaint o gefn iddi yn ei chystudd.

Bu hithau'n brwydro'n ddewr a di-rwgnach am flynyddoedd yn erbyn hen elyn erchyll, ond anodd iawn fuasai credu hyn yn ei chwmni. ''Y pethe'' oedd ei byd ac fe fagodd bump o blant yn 'sain cerdd a chân'. A phwy well? 'Roedd canu yn ei gwaed a chwmniaeth draddodiadaol y Cymry wrth ei bodd.

'Roedd hi'n aelod o'r Orsedd ac wedi ennill y wobr gyntaf ddwy waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol am lunio emyn - emyn ar gyfer 'gwasanaeth priodi 'yn y Barri, ac emyn addas i 'wasanaeth mewn Ysbyty' yn Hwlffordd. Lluniodd ambell garol hefyd, ond 'does yr un ohonom yn debyg o anghofio ei dawn ryfeddol i lunio penillion ar y pryd bron. Penillion o bob math, am hynt a helynt y rhai o'i chwmpas a phenillion gogleisiol am droeon trwstan. Ei gweld yn byrlymu o hwyl iach fyddem ni ei ffrindiau, heb sylweddoli'r dewrder diysgog oedd hefyd yn nodwedd ei phersonoliaeth.

Cofiwn am ei phriod a'i phlant yn eu hiraeth, a diolchwn am gael ei chwmni ar ei haelwyd, ac ar y gwibdeithiau hynny led-led gwledydd Ewrop. Heddwch i'w llwch.