Chwilio

Dirgelwch Ceunant Llenyrch


Llenyrch

 

Hanesyn 1 (ar ffurf nodiadau) Llais Ardudwy Medi Rhif 37

W.E. - ffermio hefo'i frodyr - teulu cefnog - perchenogion amryw dai - Pendryn, Porthmadog.  Adeg ffair Pendryn - bustych gan W.E. - hel rhenti yr un amser. Ceffyl ganddo. Ar ei ffordd adre yn llwythog o sofrenni - aros ym Maentwrog - torri'i syched mewn tÿ tafarn.  Dau wr amheus yn ei weld yn talu o gwdyn hefo sofrenni. Cynllwynio mynd o flaen W. E. - cuddio a lladrata - ymosodwyd arno o'r cefn - yntau'n ddyn cryf hoyw - andros o waith ei daflu i'r ceunant - ei draed yn suddo i'r clai wrth iddo geisio arbed ei hun. (Mae'r olion yno hyd heddiw).  Ceffyl W.E. yn mynd adref heb ei feistr (cymharer ceffyl y Wernddu - nofel Gwen Tomos gan Daniel Owen) - morwyn yn aros am y meistr - yn amau bod rhywbeth o'i le - chwilio mawr - dod o hyd i'r corff yng ngwaelod y Ceunant - y ddau lofrydd wedi i heglu hi hefo'r arian.

Hanesyn 2

Dim ffair na bustych. W.E. yn hel rhenti - cerdded - dim ceffyl - troi i'r dafarn wrth ddod adref - sialens gan un o'r yfwyr "I ddyn go gefnog lenwi'r jwg (h.y. jwg cwrw) hefo aur."  W. E. yn tywallt ei sofrenni i'r jwg.  Bore trannoeth bu'n rhaid 'sgota' ei gorff o'r afon yng Ngheunant Llennyrch.

Hanesyn 3

Does dim sail i'r gred bod ganddo frodyr, nac ychwaith i deulu Llenyrch, drwy'r blynyddoedd, ymweld a'r fangre ble y llofruddiwyd William Evans. Yn ôl un traddodiad dwedir bod y teulu yn arfer cymhennu a chadw trefn ar y lle.

Hanesyn 4

Ymhen tipyn o amser a'r ôl y digwyddiad aeth dau ddyn i ffwrdd i'r America (Canada yn ôl rhai) ac aethant tipyn yn ddistaw.  Bu i'r ddau ohonynt gyffesu ar eu gwelyau angau iddynt lofruddio W. Evans.

Hanesyn 5

Bod "dyn hysbys" wedi 'i gyrchu o'r Bala - iddo sefyll wrth adeilad fferm - pwyso ar bostyn drws beudy ac yn dweud, "Dyn fel a'r fel ydi o."  Mewn ychydig, daeth y dyn - hwythau'n godro - mynd yno ac oddi yno - dyn o Lenyrch y Moch oedd o meddan nhw - coel gwerin i hwn altro ei ffordd ar ôl cyrraedd America - eithriadol o gryf - bu'n focsiwr yno.

Hanesyn 6

Dwedir i'r ceffyl daflu W.E. i'r afon wrth i'r lladron weiddi - mai ol traed y ceffyl sy' ar y llawr a rhisgl y goeden.

Hanesyn 7

Bod olion ewinedd W.E. ar risgl y goeden.