Ty Gwyn y Gamlas
Mi fyddai’n meddwl yn aml am Yr Ynys ac yn ceisio gwneud llun yn fy meddwl. Mae’n rhaid bod hi’n ardal brysur o gwmpas Ty Gwyn a Garreg Ro ac wrth gwrs, Clogwyn Melyn – Y Ferry Arms fel y’i gelwid bryd hynny a chyda’r holl longau yn cael eu hadeiladu mae’n rhaid ei fod yn lle diddorol, ac mae hanes fferi yn suddo yn 1860 gyda wyth o bobl yn colli eu bywydau.
Yn y tridegau roedd angen gosod dorau llanw newydd yn Nhy Gwyn ond roedd gormod o ddwr ar ochr Harlech i’r clawdd llanw a phenderfynodd W T Williams, Llanfair dorri drwy’r clawdd gyferbyn â’r llyn a gosod peipiau mawr er mwyn gwagio dwr y llyn ond daeth y llanw cyn iddynt orffen y gwaith ac roedd gofyn iddyn nhw ganfod rhywbeth i lenwi’r bwlch gan ei fod yn lledu gyda phob llanw. Fe osodwyd rheiliau tren bychan ar ben y clawdd llanw a dymchwel Ty Gwyn Gamlas a’i gario i lenwi’r bwlch gan gymysgu’r cerrig gyda chlai o’r traeth. Buont yn gweithio bob awr a gellir gweld rhai o’r cerrig yn ymyl y llyn. Roedd yr hen dy ger yr afon gyda lle chwech wrth y dwr.
Pan yn Blant
Pan oeddwn yn blentyn, rydwi’n cofio mynd i whanol ffermydd i fy mam i nôl gwahanol bethau. Cofio mynd i Ty Mawr bod dydd Sadwrn i nôl menyn a phe bai mam ond yn gwybod roeddwn i’n cicio’r hen fasged fel yr awn ar hyd y ffordd. Cofio mynd hefo Dei, fy mrawd i Draenogau Mawr i nôl llaeth a cholli pisyn deuswllt yn ymyl Caerffynnon, roedd hynny’n arian mawr bryd hynny, ac mi fyddai’n dal i chwilio amdano pan af heibio ar fy ffordd. Roedd blas arbennig ar y llaeth hefo tatws newydd o’r ardd.
Roedden ni hefyd yn mynd i Fuches Wen i nôl maidd ar ôl i Mrs Evans fod yn gwneud caws ac ar y ffordd adref roedden ni’n tynnu’r caead ac yn pigo’r darnau caws oedd yn nofio ar yr wyneb. Cofio hefyd mynd i Trem yr Wyddfa, bryd hynny Snowdon View oedd yr enw, a byddai Jonathan Parry yn rhoi digon o eirin ac afalau i mam wneud jam. Gwnai jam mwyar duon a gwin, a mi fyddem ni’n casglu blodau sgawen iddi ac mi roedd hi hefyd yn gwneud diod dail. Roedd digon o gnau i’w cael bryd hynny, dwi ddim yn siwr os ydy’r wiwer lwyd yn mynd a nhw ond does yna ddim cymaint i’w gweld y dyddiau hyn.
Yn y gaeaf byddem yn brysur iawn yn casglu coed tân. Roedd hi’n braf iawn cael mynd ar y fferm, fe fyddem ni’n mynd at Anti Mary oedd yn ffermio yn Hafod talog yn Penrhyn, roedd hi’n chwaer i fy mam ac yn wraig garedig iawn. Cyn gynted ag y byddem ni’n cyrraedd byddai’n estyn am ddarn mawr o gig moch cartref a hongiai oddi ar fachyn mawr a chyda tafell o fara cartref roedden ni’n cael gwledd. Roedd popty mawr yn un o’r tai allan ac mi fydden nhw’n cynnau andros o dân yn y popty a phan oedden nhw’n meddwl fod y popty’n ddigon poeth, cai’r tân ei grafu allan a rhoi’r bara i mewn a rhai cacenau hefyd. Ar ôl cinio byddem yn eu helpu i gorddi yn yr hen ddull. Roedd yna le yn y cefn ble byddai’r ceffyl yn gwneud y corddi, byddai yn mynd rownd mewn cylch oedd wedi ei glymu i bolyn hir a hwnnw wedi ei gysylltu i’r ty llaeth. Byddai’n troi am awr neu ddwy, a braf oedd cael eistedd ar gefn yr hen geffyl fel yr oedd yn gweithio.