Bob tro yr af am dro i lawr i gyfeiriad Traeth Cocos mi fyddai’n dod ar draws lwmp o lo yn aml iawn a byddaf yn cael fy hun yn meddwl tybed o ble daeth hwn a byddaf yn cofio fy nain yn sôn yn aml am enwau llongau a ddrylliwyd wrth groesi’r bar, rhai ohonynt yn siwr o fod yn cario glo.
A chan fod teidiau cryfion yn corddi’r tywod a’r afonydd Glaslyn a’r Ddwyryd yn gorlifo yn ystod stormydd gaeafau, mae hynny wedi achosi i gwrs yr afon Ddwyryd newid o fod yn llifo o ochr Yr Ynys i’r ochr arall, ochr y Penrhyn, sawl gwaith yn ystod y ganrif hon. Fe allai fod gan y clap glo dipyn o hanes.
Mi fyddai wedi bod yn braf cael gweld yr hen gychod cludo llechi yn dod i lawr y Ddwyryd. Mae’n siwr bod rhwyfo’r cychod hynny yn waith caled iawn. Yr enw a roed ar y dynion hyn oedd ‘Philistiaid’ gan eu bod yn ddynion tal, cryf ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn dod o blwyfi Llandecwyn a Llanfihangel. Pan ddechreuodd rheilffordd Ffestiniog redeg a chario’r llechi i lawr i Borthmadog daeth y diwedd i’r cychod cario llechi.
Byddai’n ddiddorol gwybod ble yn union oedd y sarn oedd yn croesi’r afon Ddwyryd cyn codi’r bont gan nad oedd ffordd yn arwain i lawr at ble mae’r bont heddiw. Rydwi’n credu iddynt groesi’r traeth gyferbyn a Borth Las gan fod y ffordd yn gorffen yno, a hon yw’r unig ffordd oedd yn dod i lawr o’r brif ffordd yn Llandecwyn gan nad oedd ffordd o gwbl yn rhedeg ar hyd y gwaelodion bryd hynny. Byddai’r ffermwyr yn hebrwng eu hanifeiliaid ar draws y Traeth Bach ac yna yn gwneud eu ffordd ar draws y Traeth Mawr. Mae’r cyngor yn dal i gynnal a chadw’r ffordd i lawr hyd at Borth Las ble arferai’r hen sarn fod.
Dywedwyd wrthyf fod y bont yn cael ei galw’n ‘Pont y Briw Fad’ ac nid Pont Briwet. Ym 1809 cafwyd Cadarhad Brenhinol i adeiladu ffordd o Bermo i’r Traeth Mawr a hefyd i godi pont dros Y Traeth Bach ond ni ddaeth y rheilffordd dan 1867.