Chwilio

Pan ddeuthum a’m gwraig yma i Dalsarnau yn 1946, roedd hi’n teimlo’n rhyfedd ar y cychwyn, am nad oedd hi’n deall Cymraeg. Rhoddodd mam lawer o gymorth iddi am y siaradai â hi yn Gymraeg bob amser ac roedd hynny am nad oedd ei Saesneg hi’n dda iawn.

Aeth Eleanor i ddosbarthiadau dysgu Cymraeg ond buan y deallodd fod ganddi lawer o eiriau nad oeddem ni’n eu defnyddio yn ein hiaith bob dydd ond pan gawsom y plant fe ddysgodd hi lawer drwyddynt hwy. Dwi’n bendant mai dyma’r ffordd orau i bobl fel hi i ddysgu’r iaith.

Rydwi’n cofio mynd drwy holl gartrefi Talsarnau a Llandecwyn yn fy meddwl, cyn imi ymuno â’r fyddin ar ddechrau’r rhyfel,a dim ond deuddeg o dai oedd yna a Saesneg yn iaith yr aelwyd ond erbyn heddiw mae’n hanner a hanner. Roedd Mrs Syn Hughes, gwraig Hugh Owen Hughes, yn dod o Newlyn yng Nghernyw, ble cyfarfu’r ddau tra roedd ef yn forwr. Roeddynt yn byw yn Bryn Street a gallai Mrs Hughes siarad Cymraeg gystal a dim un ohonom ac roedd yn falch iawn o hynny, a heddiw mae Mrs Orton a Mrs Harper yn gweithio’n galed ac rwy’n siwr y byddant yn rhugl mewn ychydig fisoedd, a rhai eraill hefyd.

Rydwi’n cofio pan oeddwn i’n fachgen ac yn gweithio yng Nghaeffynnon i Mr Haigh, ofyn un diwrnod i Dafydd Jones y garddwr i fynd i nôl ei “Gaberdeen”, ond doedd gan Dafydd ddim syniad beth oedd peth felly, felly cydiodd mewn can dyfrio, a gallaf weld y ddau ohonynt y funud yma a Mr Haigh yn dweud, “Nid dyna’r peth iawn David Jones.” Roedd o angen ei gôt!


Un diwrnod roedd yn bwrw glaw ac roeddwn ar fin mynd adref i nol cinio a hithau wedi dod i fwrw glaw, roedd Mr Haigh yn awyddus i mi gymeryd benthyg y gôt gabedeen rhag i mi wlychu. Cymerais y gôt ond cuddiais i hi yn ymyl “Y Lodge” gan y gwyddwn ei bod yn amser cinio ar blant yr ysgol ac y byddent yn gwneud hwyl am fy mhen yn y gôt pe byddent yn fy ngweld.