Chwilio

Daeth y llanw drosodd ym 1927 ac aeth â balast y rheilffordd gydag ef, roedd y lein yn hongian mewn gwagle a thyllau mawr ble’r arferai’r lein fod.  Roedd yna tua wyth troedfedd neu fwy o ddwr yn ein selar ni ac fe aeth a phopeth rhydd allan i ganol y caeau.

Llanw Mawr002Chwythodd y gwynt bopeth i gyfeiriad Barcdy. Dwi’n cofio trol Humphrey Owen yno ac roedd wedi dod yr holl fordd o Draenogau ac roedd yno hefyd lawer o gasgenni tar ac anifeiliaid marw. Fe fuon ni’n lwcus iawn na chafodd neb ei foddi, ond roedden nhw’n poeni am Wil John a oedd yn gweithio yn Draenogau Mawr, roedd o newydd fynd adref, ond wedi cyrraedd y ty yn ddiogel a sych cyn i’r llanw ddod dros y clawdd llanw. Roedd y morglawdd, neu’r clawdd llanw fel y galwem ni ef, wedi methu dal y straen ac fe dorrodd ger Draenogau Bach ac roedd y bwlch yn mynd yn fwy bob amser. Mae’n rhaid ei bod yn don llanw gan iddi ddod mor sydyn ond roedd y tywydd wedi bod yn stormus am rai dyddiau ac roedd rhai o’r ffermwyr wedi symud eu defaid a’u gwartheg i dir uwch.

Roedd William Owen Penbryn yn y cae yn ymyl yr ysgol yn paratoi i symud gwartheg ond roedd yn rhy hwyr a bu raid iddo ddianc. Roedd yna bolyn lamp yn ymyl yr ysgol a dringodd i’w ben ac mewn dim gallai weld y gwartheg yn nofio heibio. Roedd John Jones Cambrian yn glanhau’r ysgol, bu raid iddo neidio i ben un o’r cypyrddau a dringo ar ben un o’r trawstiau ac yn y bore aeth cwch i weld a oedd yn iawn. Aeth y cwch wedyn draw i Draenogau – aeth dros y rheilffordd ac nid oedd y ffens na’r waliau yn y golwg. Bu raid mynd drwy’r Gelli o Gefntrefor Isa er mwyn cael y cwch o Caerffynnon gan fod coed mawr wedi dymchwel yn ymyl Y Lodge, ac roedd tas fawr gyferbyn a Noddfa, daeth honno o ble mae’r ysgol heddiw.

Claddwyd yr holl anifeiliaid yn Barcdy, yr ochr yma i ble mae’r carafannau heddiw. Bryd hynny roedd pedwar o ddynion o Ynys Gifftan yn gweithio yn y chwareli a phan fu iddynt gyrraedd y clawdd llanw am chwech o’r gloch y bore ar eu ffordd i’r gwaith, allen nhw ddim mynd ymhellach gan fod y dwr wedi ei ddal ac yn ddwfn iawn ar ochr y tir tra ar y traeth roedd y llanw wedi mynd i lawr. Dechreuwyd cronfa i helpu pobl gollodd ddodrefn ac eiddo, ac i’w helpu i atgyweirio’u tai ar ol y llanw mawr, a chafodd rhai ffermwyr arian o’r gronfa yn ogystal. Roedd John Bull yn boblogaidd iawn bryd hynny, ac fe wn i gyda’r yswiriant a gawsant fe lwyddodd rhai pobl i adfer y sefyllfa.