Chwilio

Yr hen enw ar Llandecwyn ydy ‘Pentre Bryn y Bwa Bach’ ac rwyf yn cofio y byddai fy nain, pan yn sôn am fynd i fyny i Landecwyn, yn sôn am fynd i Pentre Bryn Bwbach, roedden nhw wedi byrhau’r enw, ac weithiau byddent yn dweud eu bod yn mynd i fyny i Pentre.

Mae fferm i fyny yno a elwir yn Pentre Farm ac roedd un arall – Pentre Bach ger Coedty, ac wrth gwrs roedd Pentref Eisingrug. Rydwi’n siwr fod y lle hwn gyda’r prysuraf yr adeg hynny gan fod y brif ffordd yn rhedeg ar y topiau.

Hwn ac Arall – Pytiau
Pan oeddem ni’n ifanc roedd yr hen bobl yn galw pobl Penrhyn yn ‘Cocos’ a ‘Cockle Town’ am bentref Penrhyndeudraeth, ac yn galw pobl Harlech yn ‘Brain Harlech’.

Rydwi’n cofio fy nain yn sôn wrthym am Dorti yr hen wrach. Yn ôl yr hanes rhoddwyd hi mewn casgen a’i gollwng i lawr y creigiau i Lyn Tecwyn Uchaf, a phan aem ni i fyny fel plant, byddem yn rhoi darn o lechen gyda’n henw arni ar ei bedd sydd heb fod yn bell iawn oddi wrth y gât ac roedden nhw’n dweud na fyddech yn cael lwc dda pe na byddech yn rhoi eich enw ar ei bedd.

Ym 1880 prynodd Porthmadog yr hawl i gael dwr o Lyn Tecwyn Uchaf ac mae’r pibellau’n rhedeg dros Pont Briwet ar ochr y rheilffordd i’r bont.