Chwilio

Parch Garret Roberts

Pan ddaeth Y Parch Garret Roberts i Dalsarnau fel gweinidog y Wesleaid, dwi’n meddwl mai yn y tridegau oedd hynny, ac roedd yn actor arbennig yn y pwlpud.

Capel Soar ac YsgoldyUn bore Sul fe gadwodd ddiddordeb y plant pan yn sôn wrthynt am y ddafad golledig drwy blygu i lawr pe pe bai yn chwilio am y ddafad, ac roedd un bachgen bach o Penrhyn yn y capel y bore hwnnw, wedi cynhyrfu gymaint fel y gwaeddodd, “Mae o wedi ei dal hi o’r diwedd!” Roedd gan Mr Roberts dri o feibion, roedd un yn gapten llong ac fe ddysgodd ef lawer ohonom yn y pentref sut i nofio. Roedd un arall yn brif drydanwr ar long y Queen Elizabeth, a’r mab ieuengaf yn swyddog tollau.

Gorsaf Trenau Harlech

Roedd gwyl ganu yn cael ei chynnal yng Nghastell Harlech ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a bu iddyn nhw sylweddoli nad oedd y platfform ar orsaf drenau Harlech yn ddigon hir ar gyfer y trenau arbennig oedd yn mynd i gyrraedd i’r canu, a dyna pam mae’r ddau blatfform mor hir.

Un flwyddyn roedd dau dren yn yr orsaf ac roedd un yn cychwyn i gyfeiriad Tywyn. Roedd Wil Capel Graig yn y tren arall oedd yn dal yn llonydd, roedd dyn a’i ben allan, ac fel roedd yn mynd heibio tynnodd Wil ei getyn o’i geg.

Pan yn Blant eto

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y plant yn yr ysgol yn cogio gwerthu y ‘Liverpool Echo’ a byddent yn gweiddi “Echo, Echo, last edition.” Yr unig newyddion bryd hynny oedd am y rhyfel yn Ffrainc ond roedd y plant yn meddwl ei fod yn hwyl er y byddai telegramau yn cyrraedd yn ddyddiol yn rhoi gwybodaeth i deuluoedd am brofedigaethau. Mi fyddwn i’n dymuno iddyn nhw dynnu pob gwn a phopeth yn ymwneud a rhyfel o’r siopau.