Mae’n chwith iawn gweld Llandecwyn heddiw gan nad oes nemor ddim pobl yn byw yno. Mae wedi newid cymaint yn yr hanner can mlynedd diwethaf.
Codwyd Capel Llenyrch yn 1867 ac mae Dr Tecwyn Evans yn ei lyfr “Atgofion Cynnar” yn cyfeirio at y ffaith bod tua 80 o bobl yn mynychu’r capel a 50 yn dod i’r Ysgol Sul. Mi fyddai’n braf gweld hynny heddiw – fel byddai hi yn yr hen amser.
Tal Rhos
Dyma restr tai ym Mhlwyf Llandecwyn a Phlwyf Llanfihangel sydd bellach yn furddunod:
Muriau Robin, Llidiart garw, Maes Llan, Mur Mawr, Y Gegin, Ffridd Rasus, Gwastas Annas, Cefn Mine, Capel Newydd, Caebran
Hafod y Mynydd, Capel Bach, Pensarn, Bryn Melyn Garreg Ro Bach Dolorcan Fawr, Hendre Cerrig, Tal Rhos, Penrhyn Uchaf Bryn Eirin, Ty Newydd Breichiau (Mari’r Fantell Wen) Tynffordd Fawr, Llennyrch Bondwll Efaill Bach Castell, Glandwr, Ffatri Eisingrug Talysarnau Ysgoldy Bach, Penybont, Blaenddol, Efail Eisingrug, Aberdeunant Uchaf, Bryn Eglwys, Glanofer (Dorti ) Glasfryn Bach, Muriau Gwyddil, Rhwngyddwybont, Gelli Grin Bach, Llain Wen, Nant Pasgan Cottage House, BeudyBach, Briws, Berthen Gron, Gwrach Ynys, Bracdy.