Chwilio

Byddaf yn meddwl yn aml sut le roedd Talsarnau ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Does ond Cefn Trefor Fawr a Cefn Trefor Bach, Draenogau a Penbryn a’r hen le lle mae Caerffynnon rwan, ar y map.

Ble oedd y ‘Talysarnau’? Tyb rhai pobl mai lle saif y Ship heddiw oedd, ond tybed ai ble mae Caerffynnon oedd o, oherwydd mae’n sicr mai fferm oedd ar y safle hon?

Ship Talsarnau 2

Mae’n ddiddorol edrych o gwmpas yr hen adeiladau hyn a’r un tu cefn i’r Ship – hwnnw sy’ a’i wyneb tua’r traeth. Nid cerrig chwarel yw’r cerrig ond rhai mawr crynion wedi eu cloddio o’r caeau, ac maent yno hyd heddiw. Tybiaf fod hynny’n profi ei fod yn adeilad hen iawn. Mae hefyd le tân mawr agored yn y wal oddi mewn iddo. Adeilad arall hen iawn yw Dolorgan, neu o leiaf ran ohono, gan fod y llechi sydd ar y tô, gyferbyn a Glanyrafon, yn dewion iawn ac yn wahanol faint. Tybed a yw Bryn Ffridd, y tŷ olaf yn rhes Bryn Street, hefyd yn un o’r hen gyfnod? Gallsai fod wedi bod yn fferm ac efallai mai’r ‘ffridd’ oedd y tir i lawr i gyfeiriad y stesion gan nad oedd tai na chlawdd llanw yno pryd hynny. Mae’r tŷ wedi cael ei altro ers hynny wrth gwrs. Arferai’r Capel Wesla gynnal cyfarfodydd pregethu a’r Band of Hope yn Bryn Ffridd. Roedd yno ‘stafell fawr yn y llofft. Efallai mai dwy stafell wely oeddynt ond ni fedraf fod yn siwr am hynny. Tu cefn i Bryn Ffridd mae gardd fawr elwid yn ardd Briws, a berthynai, yn ôl fy mam, i’r hen dŷ Briws lle byddai siop Miss Mynnot. Ail adeiladwyd gan Richard Jones, Caenycoed ac enwodd y tŷ yn Caencoed. Yr oedd bwlch rhwng y ddwy dafarn Y Prince a’r Sun a’r ffordd honno yr aethant i’r ardd ond adeiladwyd tŷ yno rai blynyddoedd yn ddiweddarach – ond tŷ bach iawn ydyw. Roedd stablau gyferbyn â’r Capel Methodist i fynychwyr y capel gael cadw eu ceffylau a’u troliau tra roeddynt yn y capel. Dwn i ddim oedd yno le i fyw hefyd ond dywedodd fy mam fod Band of Hope yno pan oedd hi’n blentyn. Yn Tŷ Capel roedd Ann Jones yn byw ac roedd hi’n gyfnither i Bennet Jones Brynfelin. Arferai fod yn wniadwraig a dysgodd y grefft i ferched ieuanc. Roedd gŵr o’r enw Josiah Williams yn byw yn Gwilym House a chadwai siop drws nesa. Aeth i Bwllheli, lle gwnaeth yn dda fel cyfanwerthwr.

Stryd Lloyd Robert Lloyd arferai gadw’r siop lle mae Gwenda rwan (Y Swyddfa Bost) a gelwid y tai gyferbyn yn Lloyd Street gan mai fo a’u hadeiladodd. Byddai’r tenantiaid yn dod i’r parlwr, stafell nesa i’r siop, i dalu eu rhent bob hanner blwyddyn ac fe fyddai te wedi ei baratoi iddynt yno.

Y Ficar - Enw’r Ficar/Person oedd Morfa Hughes a cherddai o’r Ynys i Eglwys Llandecwyn ar brynhawn dydd Sul. Fyddai fawr neb yn mynd i’r eglwys pan oeddym ni’n blant ond, yn aml, fe ai rhywun o’r pentref gyda fo.