Chwilio

CYMANFA GANU

Roedd y Gymanfa Canu yn boblogaidd iawn yn yr hen amser. Gallaf gofio pan oeddem yn ifanc, i fy mam fynd â ni i le bynnag y cynhaliwyd y Gymanfa, gan y cynhaliai'r Wesleiaid y Gymanfa mewn lle gwahanol bob blwyddyn, ac yn parhau i wneud felly ar raddfa lai.

Y gymanfa orau y gallaf i ei chofio oedd yn y Capel Methodist yn Nhalsarnau. Gofynnodd y Wesleiaid am gael defnyddio'r Capel am y diwrnod, gan nad oedd digon o le parcio yn Soar. Yr arweinydd oedd Dr Leslie Wyn Evans ac roedd y gynulleidfa yn dal i ganu wrth adael y Capel. Braf oedd clywed y bobl yn canu'r emynau wrth gerdded ar y ffordd am wythnosau wedyn.

EISTEDDFOD TALSARNAU

Roedd gennym ddwy eisteddfod yn Nhalsarnau. Eisteddfod Soar, fel y'i gelwid, ac Eisteddfod y Pasg. Roedd hon yn cymryd lle yn Soar bob Pasg, a'r llall oedd Eisteddfod yr Eglwys a gynhaliwyd yn yr ysgol (yr hen Neuadd Bentref erbyn hyn). Roedd yna hefyd Eisteddfod fach yn Peniel yn Eisingrug ac yn yr Ynys, yn fwy arbennig ar gyfer pobl leol.

DRAMAU

Roedd dramau yn boblogaidd iawn rhwng y ddau ryfel byd a byddem yn cerdded i Harlech nos Galan i wrando ar ddrama yn Neuadd y Dre'. Caem lot o hwyl wrth gerdded adra' yn ystod oriau mân y bore, gyda llawer o hen bobl yn ein mysg.

GYRFAOEDD CHWIST

Cynhaliwyd Gyrfaoedd Chwist yn Neuadd Eglwys Glanywern ac roedd rhai bobl yn eiddgar iawn fel na fyddent yn methu unrhyw yrfa chwist mewn pentrefi eraill.

CYFARFOD PREGETHU

Cynhaliwyd y Cyfarfod Pregethu yn Soar unwaith y flwyddyn; ar un adeg gwahoddwyd dau weinidog i Soar i bregethu ar ddydd Sul ym Medi. Byddai un yn pregethu yn y bore a'r llall yn y prynhawn, a gyda'r nos pregethwyd gan y ddau.

COLISEUM PORTHMADOG

Yn y tridegau cynnar agorwyd sinema ym Mhorthmadog - y Coliseum, a gallaf gofio dau ohonom yn mynd o amgylch y pentref i ofyn i bobl arwyddo petisiwn fel y gallem ei anfon at bobl y rheilffordd i ofyn iddynt redeg trên hwyr ar ôl i'r pictiwrs orffen; buom yn llwyddiannus a bu i'r trên redeg am flynyddoedd nes i bobl ddechrau prynu ceir. Os oeddem am fynd i'r ail sesiwn, byddai rhaid i ni gael car Robert John o'r Garej i fynd â ni a byddai'n costio 2 swllt yr un i fynd a byddem yn talu 9 ceiniog i fynd i'r pictiwrs a 2 swllt os oeddem am fynd i'r balconi.