Chwilio

Byw yn y Barics - Llygod Mawr a Chwain

'Rydwi wedi clywed llawer o hanesion am chwarelwyr o Dalsarnau a arferai aros yn y “barics” ar hyd yr wythnos a dim yn dod adref dan bnawn Sadwrn. 'Roedden nhw’n teithio i lawr i Penrhyn neu Minffordd ar Dren Bach Ffestiniogac os nad oedd yna dren ar lein y Cambrian byddai raid iddynt gerdded gweddill y ffordd.

Byddai raid iddynt wrth gwrs ail wneud yr un daith eto fore Llun ond i’r cyfeiriad arall. 'Roedd gan bob un ohonynt  fasged ar ffurf sgwar gyda’r pedair congl yn creu caead a thrwyddynt roedd polyn i wneud y gwaith o'i gario’n haws. Yn y rhain y byddai eu bwyd am yr wythnos ond yn aml byddai llygod mawr yn helpu eu hunain, a rheini yn fawr o faint yn ogystal, yn codi o’r ddaear gan nad oedd dim arall ond canhwyllau yno iddynt i’w bwyta.

Byddai’r dynion yn cael pryd o dafod gan y gwragedd am ddod a chwain yn ôl gartref gyda nhw, ond 'roedd yn rhyfeddod na ddeuent a dim gwaeth o gofio eu cyflwr byw yn y “barics”. Arferai un hen wag ddweud fod y chwain yn mynd a’r gwelyau allan yn y Rhosydd i’w haerio. Yr oedd hi’n galed iawn ar y gwragedd hefyd gan eu bod ar eu pennau eu hunain gyda’r plant drwy’r wythnos, ac wrth gwrs doedd y plant ddim yn gweld eu tadau ond ar ben wythnosau. Er ein bod ni heddiw yn cwyno ei bod hi’n galed, mae’n rhaid ei bod yn well na phan oeddem ni’n ifanc.

Barics Cwm Orthin

Er y caledi, roedd y chwarel yn lle hwyliog i weithio. 'Roedden ni yn un teulu mawr a phawb yn barod i helpu’r naill a’r llall, ac os oedd angen help i godi rhywbeth trwm, a dim ond o dan y ddaear yr oedd y craeniau bryd hynny, byddem yn gweiddi “BANDO” – 'roedd hynny’n fyr am ‘Band of Hope’ ac 'roedd un dyn o hyd yn gweiddi “BANDO” ac o’r herwydd fe gafodd y ffug enw ‘Bando’. Mae ei deulu yn dal i gael eu galw yn ‘Bandos’ hyd heddiw ar ôl yr holl flynyddoedd. 'Roedd dyn arall yn dechrau gweithio, felly dywedodd y dynion oedd yn gweithio gydag ef, iddo fod yn wyliadwrus pan oedd yn siarad rhag ofn y byddai’n cael ffug new. Ei ymateb oedd ei fod yn ormod o sgolar iddynt. O hynny ymlaen ‘sgolar’ fu ei enw. 'Roedd un arall yn cwyno’n rheolaidd fod ei draed yn oer a chafodd yr enw ‘Robin Traed Oer’. Pan ddechreuai hogiau ifanc yn y chwarel 'roedd yn arferiad i farcio eu trwyn gyda blaen pin nes y gwaedai yna byddent yn rhoi olew peiriant arno. 'Doedd hynny ddim yn beth clen i’w wneud ond wedi hynny cai’r bechgyn eu derbyn yn ddynion.

Clywais fy nhad yn sôn am Richard Williams Ty’n Fron oedd yn gweithio’n Yr Ocli, roedd yn disgwyl wrth geg yr agoriad am bartner i gerdded y rheiliau gydag ef. Cerddent fesul dau – un ar bob rêl ac yn dal côt y naill a’r llall fel y cerddent ymlaen, gan y byddai mor dywyll. 'Roedd hi bron yn llwyr dywyll, a doedd ganddynt ond cannwyll mewn tun ‘corned beef’ i roi golau iddynt, gofynodd y gŵr arall, gan ei bod yn ddydd Llun, “Pwy oedd yn pregethu hefo chi ddoe?” Atebodd Richard williams, “Roedden nhw’n ei alw’n Spurgeon ac un gwael oedd o hefyd.” A phan ddaethant allan i’r golau yn y pen arall canfu mai Spugeon oedd yn cyd gerdded ag ef!

Mae “Celcio” yn derm a ddefnyddid yn y chwarel. 'Roedd y rhan fwyaf o’r chwarelwyr ar rhyw fath o gontract. Weithiau byddai cyfle yn codi ble gallai’r chwarelwr wneud ychydig mwy o arian na’i gyflog gwarantiedig, a chan mai yn fisol y doi y mymryn ychwanegol, byddai cyfle i ‘gelcio’ sef cyfle i gadw ychydig o bres poced na wyddai’r gwragedd amdanynt. Rydwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o’r dynion yn rhoi’r arian hwnnw i’w gwragedd hefyd ond dim bob un. Mae hanes am hen wreigan yn Nhanygrisiau yn canfod hen gôt yn y shed a berthynai i’w gŵr ac mewn un poced cafodd hyd i’w gelc – papur degswllt ac yna fe guddiodd y gôt. Pan holodd y gwr am ei gôt, dywedodd wrtho ei bod hi wedi ei llosgi! Cafwyd modd i fyw yn adrodd y stori. Mae’n resyn nad ydym yn cael hwyl fel hyn heddiw. Credaf ein bod ni ormod o ddifrif – mae chwerthin yn gwneud lles.

'Roedd un arall y gwn amdano yn byw yn Harlech, oedd yn hoff o’i ddiod ac arferai guddio sawl darn hanner coron mewn twll yn y wal, ond roedd ei wraig wedi ei weld ac wedi mynd yno a rhoi ceiniogau yn eu lle. Mae’n rhaid bod yr hen Ned wedi mynd yn wallgo’. Gwnaeth fy mam barsel Nadolig un tro ar gyfer ei brawd a weithiai yn yr un chwarel â mi. Roedd ef yn gweithio mewn sied wahanol i mi a bu raid i mi roi’r parsel i ŵr a weithiau yn ei ymyl ond gwrthodai dderbyn y parsel ganddo gan yr amheuai eu bod nhw’n tynnu ei goes.Gan iddo wrthod agorwyd y parsel a bwyta’r mins peis a phob peth arall y gellid ei fwyta. Ond roedd yno hefyd bar o sannau ar gyfer fy nghefnder a bu raid iddo fynd a hwy adref a gyrru ei wraig i weld fy modryb i ymddiheuro!