William Griffith Bryn Moel, - Y Gyrrwr Bws
Mae’n debyg mai ychydig iawn o bobl heddiw sydd yn cofio’r dynion a arferai weithio yn y chwareli. 'Roedd William Griffith, Bryn Moel a arferai yrru bysiau yn yr ardal, yn dweud yr arferai 45 o ddynion fod ar y bws chwarel a chan nad oedd digon o le i eistedd i bawb, byddai’n arferiad i osod plancyn o bren ar hyd canol y bws er mwyn creu mwy o le i eistedd.
Byddai cymeriad o’r enw Charles Jones a ddoi ar y bws yn Cilfor yn aml iawn yn gorfod eistedd ar y set bren. Eironi’r sefyllfa oedd mai Charles Jones a fy nhâd drefnodd y bws ar gyfer y gweithwyr yn y lle cyntaf!
'Roedd yna fws arall o Harlech hefyd. Prynodd rhai o’r dynion foto-beics ac o’r herwydd teimlwyd hwyrach y byddai un bws yn ddigon i gario pawb. Arferent gadw’r bws ar y rhiw yn arwain i fyny at Rhosigor ac roedd yn eitha hawdd cychwyn y bws yn y bore wrth ei rhedeg i lawr y rhiw tuag at y ffordd fawr. William Griffith Bryn Moel oedd y gyrrwr a Richie Pugh o’r Blaenau yn gondyctor. Deuent i nol y bws yn y bore ar gefn moto-beics a swn rheini fyddai’r cloc larwm i lawer. Byddai raid i mi fod yn barod erbyn chwech o’r gloch gan y byddai’r bws tu allan i’r Ship bryd hynny. Byddem yn stopio i godi dynion ar y ffordd ac os byddai lle gallem godi dynion ym Maentwrog a Rhydsarn. 'Roedd gan rai o’r chwarelwyr gryn waith cerdded o’r bws i gyrraedd Maenofferen a’r Graig Ddu ond roeddwn i’n lwcus gan fod y sied ble byddwn i’n gweithio ynddi yn ymyl y ffordd, heb fod ymhell oddi wrth twnel y tren. Chwarel yr Ocli oedd hi bryd hynny. Gweithiem o 7 y bore dan 4 y pnawn.
'Roedd yna ysmygwyr trwm ar y bws, yn eu mysg yr oedd Ellis Owen, byddai’n rhoi ei getyn yn ei geg pan yn cychwyn o Dalsarnau, a byddai’n mynd i gysgu a’r cetyn yn dal yn ei geg! Byddai un arall yn mynd i gysgu a’i lygaid yn agored led y pen, y fo oedd yr unig berson welais i erioed yn gwneud hyn.
'Roedd William Jones, Cei Newydd yn gweithio’n Chwarel Y Lord, byddai’n mynd i lawr oddi ar y bws yn Lord Street a byddai’n mynd i Siop Davies y Barbwr i brynu chwe deg o Woodbines bob bore a mwy ar y penwythnos. 'Roedden ni’n talu un geiniog ar ddeg am y bws, y rhybelwyr yn talu chwe cheiniog ac nid wyf yn cofio i’r pris newid o gwbl yn y cyfnod hwnnw.
Digwyddai llawer iawn o ddamweiniau yn y chwareli ac roedd un chwarel a enwyd y lladd-dy am y digwyddai cymaint o ddamweiniau yno. Dwi’n cofio David Gwilym Williams, Soar yn cael damwain ddrwg yn Yr Ocli, doedd y twll ddim wedi tanio a phan aeth ef yno oriau’n ddiweddarach, fe’i daliwyd yn y ffrwydriad a bu yn ysbyty’r chwarel am gyfnod hir iawn.
Lladdwyd Robert Roberts, gŵr Laura Roberts, 1 Tan y Marian, Soar yn Chwarel y Llechwedd ym 1903 a gan ei fod ef yn aelod o gôr o’r Blaenau, daethant i gyd i’w angladd. Collodd John Jones, Capel Fawnog ei fywyd yn y chwarel yn ystod y rhyfel. 'Roedd yna dri arall o Dalsarnau gollodd goesau drwy ddamweiniau yn y chwarel. Roedd y chwarelwyr yn rhai da iawn am ofalu ar ôl rhai oedd wedi cael damwain neu wedi bod yn sâl. Cynhelid cyngerdd bob mis un ai yn Penrhyn neu’n y Blaenau a byddent yn rhannu’r tocynnau yn y chwareli a byddent yn eu gwerthu am chwe cheiniog yr un. Fyddai neb byth yn gofyn beth oedd yr achos, dim ond prynu tocyn. Byddai penderfyniad wedi’i wneud pwy fyddai’n cael budd o elw’r cyngerdd.
Cafodd Robin John y Garej ddamwain ddifrifol yn ymyl Gelli Grin ar ei feic modur. 'Roedd wedi gwneud tro da â’r gyrrwr bws am fod hwnnw angen i’r beic modur fod yn Nhalsarnau, fel y byddai ganddo fodd i ddychwelyd adref. Yn anffodus bu Robin John mewn gwrthdrawiad â dyn oedd yn cerdded yng nghanol y ffordd a bu mewn cyflwr pur ddifrifol am oddeutu deng niwrnod.