Cofiaf, pan oeddym yn yr ysgol, byddai dyn y School Board yn dod o gwmpas pe bai rhywun yn aros adref o’r ysgol, ac roedd gennym oll ei ofn. O Penrhyn oedd yn dod. Hefyd, byddai nyrs yn dod o gwmpas i archwilio ein gwallt, i wneud yn siwr ei fod yn lân ac nad oedd dim byd yn symud ynddo!
Daeth fy ffrind Trefor o Cefn Trefor â hoelen finiog o’r Efail i’r ysgol hefo fo rhyw dro ac, wrth chwarae hefo hi fe rwygodd nifer o dudalennau allan o lyfr. Cafodd y gansen am hynny wrth gwrs ac, ar ôl cinio, rhedodd i Glanywern i Ysgol yr Eglwys at Person Hughes ac aeth yno’r diwrnod canlynol hefyd. Roedd nifer fawr o blant yn yr ysgol bryd hynny oherwydd maint y teuluoedd – mwy na deg mewn dau neu dri teulu – ac roedd rhaid i ni aros yn yr ysgol nes bod yn 14 oed.
Dim ond y sgolars gorau a gai fynd i Bermo i’r County School a hynny ddim ond os gallai’r rhieni ei fforddio. 'Roedd pobl yn dlawd iawn ac yn dibynnu ar gyflog y tad yn unig. Yr athrawon oedd Miss Lloyd, Tŷ Gwyn – yr ‘Infants’, Mrs Rowlands – Standard 1 a 2, Parry Williams – Standard 3 a 4 ac Edmund Williams, y prifathro - Standard 5.
Capel Soar
Pan oeddym yn mynd i Soar i’r Band of Hope yn y gaeaf, byddem yn mynd dros Y Foel tu ôl i Ysgoldy ac yn rhoi matsian i’r rhedyn sych ac, yn ein cyffro, yn mynd ar goll yn y mŵg a’r tân ac yn ffodus iawn o fedru cyrraedd y Band of Hope mewn pryd. Yn yr haf byddem yn mynd i Soar i chwilio am nythod jacdôs ac yn mynd â rhai bach adref hefo ni i’w cadw fel byjis. Byddent yn hedfan dros ben y tai ymhobman ac os caent ffenestr yn agored yn rhywle, fe aent i fewn a dwyn unrhyw beth gloyw, ac roeddym mewn trwbwl!
Wrth son am y jacdos, mae rhain yn mynd ar wyliau pan fydd y llus yn barod ar y Rhinogau ac nid ydynt i'w gweld o gwmpas am tua mis. Os ydych am weld glas y dorlan yn cerdded o Glanywern at Bont y Glyn, ac yn mynd ar y llwybr o bont i bont, ac os ydych yn ddigon sydyn, fe allech fod yn lwcus o weld un o'r rhain.
Mae Pont Gwyddelod ger Dolorcan ar ffordd Maesyneuadd, ac os ewch o dan y bont, cewch weld bod y bont gyntaf yn gul iawn gyda dim ond digon o le i geffyl ac i bobl gerdded drosti - efallai eu bod wedi cerdded drwy'r afon!