Chwilio

Siop y Post tua 2002

‘Roedd sawl siop yn y pentref ers talwm. Cadwai Willam Rowlands y post, a byddai’n danfon nwyddau o gwmpas y ffermydd ac o’r stesion gyda cheffyl a throl. 'Rwy’n cofio brawd Rosie a tad Billy Roberts yn gweithio yno hefyd.

'Roedd gan William Rowlands fferm fechan ar y tir ger y Clawdd Llanw ac roedd wedi ffensio rhan o’r traeth. Ef oedd perchen y modur cyntaf yn y pentref sef Ford ac aeth a ni’r plant i weld ffilm Charlie Chaplin i’r Penrhyn. Drws nesaf yr oedd siop D R Jones ac roedd posib prynu unrhyw beth yn y siop yma. Yng nghefn y siop roedd becws, ac yn yr ardd gefn cadwent ychydig o foch ynghyd a chychod gwenyn. Prynodd D R Jones gar a hwn oedd yr ail gar yn Nhalsarnau, Ford arall fel un William Rowlands. Cyn i D R Jones brynu’r siop yma 'roedd ganddo siop feics mewn sied lle mae garage R J Williams heddiw. Cambrian Stores oedd lle mae’r Capel Newydd heddiw, Edmund Evans oedd y perchennog ar roedd yn siop brysur iawn. Fe ymfudodd Edmund Evans i’r Amerig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Agorodd y Co-op siop mewn hen warws yng nghefn y Ty Stesion cyn symud i Cambrian Stores a bu hon yn agored hyd yn ddiweddar iawn; Mr Palmer oedd y Rheolwr cyntaf gyda Mr Parry yn ei olynu ac arhosai yn Bronwylfa. Gweithiai Tecwyn Rowlands, oedd yn frawd i William Rowlands, yn y siop gydag ef. Roedd Trefor House, y ty drws nesaf i Trefor place yn dy Temperance gyda arwydd mawr yn hongian uwchben y drws. Mrs. Elin Jones oedd yn byw yno a byddai’n gwerthu bara a byns wedi eu pobi yno.

Mrs Mynnot oedd perchen y siop drws nesaf, gwerthai nwyddau groser un ochr ac ar y cownter arall deganau, olew lamp, defnyddiau ysgrifennu a defnyddiau ar gyfer y ty. Byddai’n pobi cacennau sunsur a’u torri’n dafelli i’w gwerthu am swllt y dafell. Byddai’n gwerthu baco a choffi rhydd a the. Roedd ganddi ddwy ferch a byddai un yn rhoi gwersi piano a chwarae’r organ yn yr eglwys. Roedd Mrs Mynnot yn athrawes yn ysgol yr eglwys yn Glanywern ac roedd ei gwr yn brif arddwr ar ystad y Glyn. Cyn ail wneud y ty yma roedd yr un fath a Noddfa, drws nesa, a gelwid ef yn Briws, Brew House yn Saesneg Cafodd ei ail-adeiladu gan Richard Jones a ddaeth i lawr o Cancoed, Llandecwyn. Roedd Swyddfa’r Post yn Noddfa, a trigai Mr a Mrs Evan Williams a’u mab Evan Llewelyn yno. Plastrwr oedd Evan a gwelir llawer o’i waith o gwmpas heddiw. Ef osododd y llechi ar y Coliseum ym Mhorthmadog ac hefyd ar y Pwerdy ym Maentwrog.

Miss Morris oedd yn cadw’r siop gyferbyn a Chapel Bethel a gwerthai ddillad a bwyd yno. Byddai Banc y Midland yn dod o Harlech bob dydd Mercher ac yno y byddain’n rhaid talu biliau misol y Coop gan nad oeddynt yn cymryd arian dros y cownter. Cyn fy amser i roedd dau dy tafarn yn Nhalsarnau – ‘Y Sun’ a’r ‘Prince’ a trigai tad Mr Stanley Humphreys yno. Willie Williams y crydd a drigai yn 12 Stryd Fawr, roedd ei wraig yn gwerthu dillad mewn ystafell uwchben y siop. Byddai gweision ffarmwrs yn prynu llawer yma gan dalu ar y pryd a phrynu mwy pan gawsant eu cyflog bob chwe mis. Byddai’n rhaid iddynt wneud cytundeb newydd gyda’r ffarmwr am chwe mis arall, neu symud at ffarmwr arall os oedd yn barod i dalu mwy iddynt. Sian Jones oedd yn byw yn drws nesa, gwraig weddw oedd yn arbennig am biclo penwaig. Mewn blynyddoedd fe agorodd Humphrey Williams siop gig dros ffordd i swyddfa’r post ac roedd gan William Owen, Penbryn siop gig yn y ty bach gyferbyn a Noddfa. Fe gymrodd Owen Williams y busnes ganddo.

Pen y Gongl (Ty Anarferol heddiw) gyferbyn a’r post. Roedd gan Tom Williams siop gig yma ac yna fe gymrodd J D Roberts y siop gan werthu beics, wirelesses a batteries. Roedd yn fan cyfarfod i weision ffarmwrs, a byddent yn chwarae draughts a darts yno ac roedd ganddo fwrdd billiards uwchben ac roedd yn rhaid dringo ysgol yno gan fod y grisiau wedi ei tynnu i lawr. Byddai hefyd yn gwerthu poteli pop yma.

Strydoedd Talsarnau
Pan oeddynt yn dechrau adeiladu pentref Talsarnau cafodd yr enw ‘Sun Street’ a thros y ffordd i’r Swyddfa Bost yr oedd Lloyd Street. Yn is i lawr yr oedd Jones Street ac fe adeiladodd tad Mrs Grace Owen bedwar neu bump ty a enwyd yn Trefor Place. Dydwi ddim yn siwr o’r flwyddyn ond mae’n debyg mai o gwmpas 1870 oedd hynny.