Chwilio

‘Rwyn cofio Kelt Edwards, yr Arlunydd, oedd yn trigo yng Nghei Newydd, yn dod yma a rhoi sialens i’r dynion oedd yno y gallai ferwi dwr mewn tecell papur. Gwnaeth decell papur a’i lenwi hefo dwr a gosod cannwyll odditano a gallaf dystio fod y dwr wedi berwi gan fy mod yno.

 

Fe naddodd Dkelt023draig Goch ar y wal hefo cyllell boced, bechod ei fod wedi ei orchuddio gan ei fod yn cyrraedd y nenfwd.

Byddai Kelt yn peintio enwau’r tai wrth ben y drws ac 'roedd mor ddawnus byddai’n plethu llun aderyn yn yr enw. Nid oedd yn ddyn iach and 'roedd wedi teithio Ewrop a phan ddaeth yn ol i Lundain fe agorodd stiwdio yno. Un diwrnod, ac yntau’n teimlo’n ddigalon, daeth Ramsey Macdonald, oedd yn gweithio fel gohebydd y pryd hynny, i fewn gan ei gynorthwyo i werthu ei luniau. Pan ddaeth yn ol i Gei Newydd cafodd lythyr o Leeds yn gofyn iddo wneud gwaith uwchben siop yno. Ei ateb oedd “No more work this side of the Jordan”.