Chwilio

Sefydlu Cangen Merched y Wawr - Talsarnau

O ganlyniad i gyfarfod cyhoeddus ym mis Tachwedd 1967 daeth sefydlwyr y Mudiad o’r Parc, Y Bala i annerch a phenderfynwyd sefydlu cangen yn Nhalsarnau a’u gweithgareddau i ddechrau yn Ionawr 1968. Cyfarfod i ddewis Swyddogion a threfnu rhaglen a gafwyd yn Ionawr.

Y Swyddogion ddewiswyd oedd :-

Llywydd: Miss Mair Wyn Jones, Eiriannedd, athrawes ym Mhenrhyndeudraeth

Is-lywydd: Mrs Annie Davies, Draenogan Mawr, gwraig fferm

Trysorydd: Miss Gwenda Jones, Cilfor, merch ieuanc yn gweithio mewn siop

Ysgrifennydd: Mrs Ella Wyn Jones, Ty’n y Bonc, gwraig ty

Is-ysgrifennydd: Miss Gwenda Jones, Capel Fawnog, athrawes yn Harlech.

Cynhaliwyd y cyfarfodydd ar nos Lun cyntaf o bob mis yn y Neuadd Bentref yn Nhalsarnau. Roedd yr aelodaeth bron a chyrraedd hanner cant ac yn dod o Harlech a phentrefi eraill cyfagos yn ogystal ag o Dalsarnau a Llandecwyn. Y cyfarfod cyntaf i gael siaradwr oedd ym mis Chwefror, pryd y daeth y cyn-heddwas, Arthur Rowlands i roi sgwrs ar ‘Cwn y Deillion’.

Anrhydeddwyd y Gangen ym Mawrth gyda phresenoldeb y Llywydd Cenedlaethol (a ddaeth yn ddiweddarach yn Llywydd Anrhydeddus), sef Miss Gwyneth Evans.

Dathlwyd Noson Gwyl Dewi gyda Te Cymreig a baratowyd gan dair o’r aelodau. Cyfarfod agored oedd yn Ebrill pryd y cafwyd y fraint o groesawu Mr John Gwilym Jones, Groeslon a chael darlith odidog ar Y Dramodydd gan yr arbenigwr. Ym Mai treuliwyd noson yng nghwmni Mr Dafydd Jones Ellis, Rhosigor, un o ddoniau talentog yr ardal, ffermwr sydd yn ymddiddori mewn llenyddiaeth a barddoniaeth. Paratowyd cwestiynau gwybodaeth gyffredinol ganddo.

Ym Mehefin manteisiwyd ar dalentau dwy o’n haelodau sydd wedi arbenigo mewn coginio a chafwyd arddangosfa odidog gan Mrs Nelta Roberts a Miss Lona Jones, y naill yn wraig ty a’r llall yn athrawes goginio.

Paratowyd taith ddirgel gan ddwy o’n haelodau ar gyfer Gorffennaf. Trefnodd Mrs Annie Jones, prifathrawes wedi ymddeol, a Mrs L Davies o Benrhyndeudraeth i’r daith gychwyn am 6 o’r gloch a chael swper yn ystod y gyda’r nos.

Yn ogystal a’r cyfarfodydd rheolaidd, cyfarfu’r Pwyllgor o chwe aelod, ynghyd a’r Swyddogion, ddwy waith yn ystod y tymor a threfnodd saith o aelodau Noson Goffi i godi arian i’r Gronfa.

Wedi gwyliau’r haf, ym Medi, bwriadwyd cael dosbarthiadau o dan y Pwyllgor Addysg.