Yn ystod yr ail ryfel byd, doedd fawr ddim y gallai pobl ieuanc ei wneud, nac yn y blynyddoedd yn syth ar ôl y rhyfel. Yr oedd y Capel a’r Ysgol Sul a’r Band of Hope yn chwarae rhan fawr yn ein bywyd, yn ogystal â dosbarthiadau y Sul yn y Capel. Roedd tri neu bedwar dosbarth yn y galeri a byddai un wrth ben y cloc ac Uncle Dei fyddai’r athro (David Gwilym Williams).
Gan mai Wesleaid oeddem yn Soar, byddai gennym wahanol ardaloedd i fynd i’r Gymanfa bob blwyddyn. Byddai ein tro ni yn dod i gymryd rhan a dechrau cyfarfod y nos. Rhoddodd Uncle Dei oriau i’n dysgu ac roedd rhaid gwneud yn dda er mwyn Soar. Cofio dysgu “Pe llefarwn a thafodau dynion ac angylion”! Mae’n rhaid dweud i ni gael canmoliaeth mawr yn Blaenau Ffestiniog y noson honno ac Uncle Dei wrth ben ei ddigon.
Byddai gennym ein ffefrynnau ymysg yr athrawon – un ohonynt oedd John Gwil, Garth Byr, byddai’n gweithio yn Garej St David’s yn Harlech a byddai’n cael benthyg car ar ddydd Sadwrn a mynd â ni i gael picnic i Gwm Pennant. Dyna drît i blant oedd ddim yn cael mynd llawer i unman. Caem gymaint o hwyl, gyda hogyn ieuanc yn rhoi cymaint o’i amser i ni
blant. Priododd John Gwil gyda Falmai a symud i fyw i Ganolbarth Cymru ond ni fu’n briod yn hir, gan iddo farw o’r TB ar ddiwrnod Nadolig. Yr oeddem i gyd yn crio, methu coelio na fyddem yn gweld John Gwil byth wedyn.
Byddem yn cael mynd i Ynys Gifftan yn blant bach i gael picnic. Cofio bod yno unwaith gyda’m rhieni ac athrawon Ysgol Sul pan aeth Mair Groesnewydd i bwll ac yr oedd ar fin
boddi pan wnaeth y merched gadwyn achub trwy roi ei breichiau am ganol ei gilydd i’w hachub – Bessie Jones, Ty’n y Berth (Bessie Williams wedyn) oedd ar y blaen ac roedd yn arbennig. Achubwyd Mair Groesnewydd a phriododd efo Gwilym Bryn Moel. Bu ei mam weddw yn cofio am y merched tra bu fyw; roedd mor ddiolchgar iddynt – dwi ddim yn meddwl i ni gael mynd i Ynys Gifftan wedyn!
Cyn pob Gymanfa byddai paratoi mawr; byddai Cyfarfod Canu ar ôl pob oedfa nos Sul, neb yn cwyno eisiau rhedeg adref i weld y teledu! Byddai hwyl mawr yn y Capel, Tomi Williams fyddai’r codwr canu, Agnes Evans fyddai’r organyddes, a mynd trwy’r Detholiad Solffa nes ein bod wedi’u dysgu.
Roedd cantorion eitha da yn Soar ar y pryd – Goronwy, baswr, David Elwyn, tenor, Jenny Morris a Bessie Williams, altos, ei chwaer Netta Jones yn soprano a’r gweddill yn dilyn y cantorion gorau! Byddai llawer o hwyl a chwerthin.
Dim yn meddwl fod yr un hwyl diniwed i’w gael heddiw. Byddai dim dilledyn ar y lein ar ddydd Sul, na neb yn gwneud dim gwaith - ond be fyddai rhaid. Byddai pob man yn dawel. Yn yr haf byddai ambell i ddrws yn agored a byddai Caniadaeth y Cysegr i’w glywed dros y lle.
Ar nos Sul byddai rhaid mynd i lawr at ymyl y Set Fawr yn rhes i ddweud ein hadnodau, golygai hyn fod rhaid dysgu adnod newydd at bob nos Sul. Doedd hyn ddim yn plesio llawer – cofio unwaith pan ddaeth tro Elwyn Gwndwn i ddweud ei adnod a dyma beth ddaeth allan ond pennill o Lyfr Mawr y Plant –
Twlcyn a’r Bwli
Blewyn glas sy dros yr afon
Dros y bont af ar fy union
“Twlcyn, Twlcyn paid â chroesi
Ar y bont y mae y Bwli.”
“Lle rwyt ti am drotian Twlcyn?”
“Tros y bont i nôl y blewyn.”
“Cer di’n ôl mewn hanner eiliad
Neu mi’th lyncaf di mewn chwinciad.”
“Bwli wnei di wrando stori?”
“Gwnaf os yw yn stori ddigri,”
“Dyma hi, Twlc, twlc a thwlcan
Hip hip hwre, wel blewyn rwan!”
Erbyn heddiw does dim gwahaniaeth rhwng dydd Sul a gweddill yr wythnos; roedd yn bwysig adeg hynny rhoi parch i’r Sul – dim yn meddwl iddo wneud drwg mawr i ni!
Frances Griffith