Dave Curtis - ei enw fel canwr proffesiynol
Ganwyd David Glyn Williams yn y Gwndwn, Soar, Talsarnau. Mab ieuengaf Dafydd Elwyn a Katie Williams, brawd Megan ac Elwyn. Roedd y teulu yn arbennig o gerddorol - byddai canu yn y Gwndwn yn aml iawn.
Roedd clust dda gan y fam at fiwsig, byddai’n clywed rhyw fiwsig ar y radio a byddai’n gallu ei gofio a’i chwarae ar yr organ yn syth. Nid oedd modd iddi gael mynd ymlaen gyda’i dawn gerddorol yr adeg hynny. Llais tenor arbennig o swynol oedd gan ei gŵr Dafydd Elwyn.
Daeth telyn i’r Gwndwn yn rhodd gan y Telynor Dall – Dafydd Roberts, Telynor Mawddwy. Byddai’n dod i bregethu yng Nghapel Soar ar adegau ac yn aros yn y Gwndwr. Un tro daeth â’r delyn gydag ef ar fws a’i gadael yn y Gwndwn a buan iawn y daeth Auntie Katie i feistrioli’r delyn.
Byddai Uncle Defi, Goronwy a Dafydd Owen (DO) yn driawd hynod boblogaidd yn yr ardal yn ystod yr ail Rhyfel Byd ac wedyn. Byddai’r tri yn ymarfer yn y Gwndwn ac Auntie Katie
yn cyfeilio ar yr organ. Magwyd y plant yn swn canu a buan iawn y daeth y ddau fab i ganu a dechrau fel deuawd.
Ond doedd dim yn well gan Glyn ond canu gyda’r gitâr. Priododd a ganwyd tri o blant iddo ef a’i wraig. Ymfudodd y teulu i Awstralia a thra yno ganwyd merch fach iddynt a’i galw’n
Melanie. Ond methu setlo’i lawr yno wnaeth y teulu a dod adre’n ôl ac ymgartrefu yn ochr yr Amwythig, ac yn Lloegr y cafodd waith fel canwr ac ennill ei fywoliaeth. Erbyn hyn roedd wedi cael asiant i drefnu ei waith a daeth yn fwy adnabyddus. Erbyn ymddangos ar ‘New Faces’ – rhaglen Hughie Green, gwnaeth yn dda iawn wedyn.
Deuai i Gymru ar ei dro i weld y teulu ac wrth gwrs roedd y gitâr wrth ei ymyl bob amser.
Byddai’n dod i gymryd rhan mewn cyngherddau ac roedd yn boblogaidd iawn. Roedd gwên ar ei wyneb bob amser a Glyn Gwndwn oedd o’n naturiol i ni.
Daeth salwch cas i’w ran pan ballodd y cof a dirywio wnaeth yr iechyd. Mynd i gartref gofal
a’r gitâr hefo fo, a bu’n diddori yr hen bobl yno a byddent wrth eu bodd yn canu hefo Glyn.
Cyn hir daeth hyn i ben fel y dirywiodd y cof fwyfwy a thrist iawn oedd hyn i’r teulu – ei weld wedi colli pob diddordeb yn y canu a’r gitâr. Afiechyd creulon yn wir.
Bu rhai o’r teulu a’i ffrindiau yn dathlu ei fywyd ym Mron Eifion, Cricieth yn 2022, ac wrth gwrs roedd canu yno, gyda Dylan a Neil Parry (Traed Wadin), a fu’n canu gyda Glyn ar un adeg.
Braint oedd cael adnabod Glyn Gwndwn a braint o gael dweud ei fod yn perthyn. Diolch Glyn.
Dy gyfneither Frances.