Chwilio

Doedd pentref Talsarnau, fel ag yr ydym yn ei adnabod, mewn bod tan tua 1821-1825.

Cafodd y tir ei sychu a’i draenio ac enillwyd aceri o dir ac adeiladwyd tai a siopau. Enw ar ffermdy oedd a daeth yn enw ar Bentref Talsarnau yn ddiweddarach. Daeth y Ship Aground i fod ond fel ‘tŷ uchaf’ adeiladwyd tua 1819-21. Capten William Jones, a’i wraig Gwen oedd y perchnogion. Byddai teithwyr yn galw am lymad, porthmynn hefyd wrth groesi. Yn 1862, boddwyd 8, achubwyd 2 wrth groesi’r Traeth Mawr. Yn 1866 daeth y rheilffordd a’r orsaf trên – nid oedd angen cwch bellach. Roedd Tŷ Tafarn arall yn y pentref – y ‘Sun Inn’