Chwilio

Pentref Cymraeg a Chymreig oedd Talsarnau. Pawb yn adnabod ei gilydd, gyda dwy siop gig, Siop y Post yn gwerthu pob dim, Siop D R Jones yn gwerthu bara, Cambrian House in gwerthu papurau newydd, y Co-op yn gwerthu pob dim - yn ogystal â bwydydd anifeiliaid,

Siop Miss Mynott – dwy chwaer yn ei rhedeg. Yr oedd peiriant mawr ar y cownter yn malu hadau coffi a byddai arogl bendigedig yn dod o’r siop. Yno y caed minciag o bob math, llyfrau sgwennu, pensiliau, creons a.y.y.b.

Byddai’r Banc yn dod unwaith yr wythnos, am flynyddoedd, ar ddydd Mercher, i ystafell yn Rhianfa. Yna symudodd i’r adeilad bach ar y chwith, ar ochr y rhiw i lawr at y stesion. Yn yr adeilad bach yma byddai siop chips yn ystod y rhyfel, Bet, fy chwaer yng nghyfraith a’i mam oedd yn ei chadw. Yn ddiweddarach agorwyd siop chips yn Siop Newydd gyda Tom a Maggie Williams yn ei chadw.

Wedi son o’r blaen am Siop Wili crydd yn gwerthu sgidiau, dillad dynion, merched a phlant, gyda’r crydd yno – Griffith crydd - yn brysur yn trwsio, Pengongl yn gwerthu beics ac R J Williams, fy ewythr, yn gwerthu motorbeics a cheir, gwerthu petrol a.y.y.b, yno y byddai llawer yn mynd i ‘chargio batris’ i’w ‘wireless’. Y Ship gyda rhai o’r trigolion yn mynd i gael dropyn a sgwrs. Taid a nain Elfed oedd yn cadw’r Ship ac yn ddiweddarach, ei fodryb Laura.

Capel Bethel y pen arall i’r pentref, Capel y Methodistiaid Calfinaidd a thŷ Gweinidog, Llys Myfyr wrth ei ochr. Yn ystod y rhyfel bu Miss Helen Kidd yn edrych ar ôl llond y tŷ o ifaciwis; byddent yn dod i’r ysgol leol a buan iawn y daeth rhain yn rhugl yn y Gymraeg, gan nad oedd fawr o Saesneg gennym, doedd ganddynt fawr o ddewis.

Byddai’r trigolion yn cael eu llefrith yn ffermdai Brontrefor a Thŷ Mawr. Fel y dywedais, nid oedd angen i neb fynd o Dalsarnau i nôl dim; rhwng y Ship a’r stesion byddai Gefail y Go, John Defi, ei fab John O, a’i nai Meirion fyddai’n cadw’r efail.

Adnabod pawb ers talwm ond erbyn hyn dim ond dyrnaid, estron bron ym mhob tŷ; byddai’r ychydig Saeson yn fuan yn dod i siarad Cymraeg, ond stori wahanol iawn ydy hi heddiw.

Adnabod fawr o neb yn fy mhentref genedigol. Trist iawn.

Byddai’r ‘Mothers Union’ yn eitha’ poblogaidd yn ystod y rhyfel. Mudiad yn cael ei drefnu gan yr eglwys. Byddai pob enwad yn perthyn iddo, byddai’n cael ei gynnal yn yr hen Ysgol Eglwys yn Glanywern rhan amlaf. Mae’n siwr mai unwaith y mis y byddai’n cael ei gynnal,

gyda phawb yn gwneud te yn eu tro, a byddwn yn cael mynd ambell waith hefo mam. Yr oedd yn ‘treat’ mawr i mi, cerdded pob amser, doedd dim ond dwy droed yr adeg hynny.

Mrs Chambers, Miss Kidd a Mrs Jolly byddai’r prif drefnwyr.

Byddai Siop Pensarn gyda nwyddau amrywiol yn cael eu gwerthu. Nans Jones fyddai’n rhedeg y siop. Byddai Mrs Sevage yn byw yn Glanywern (mam Jack Sevage) wedi dod i weithio fel teulu i’r Glyn mae’n siwr. Hefyd Mrs Bowering, mam Dick Bowering, ei dad yn arddwr yn y Glyn. Byddai Mrs Bowering yn gwerthu edafedd yn y tŷ, Fuches Wen Bach, at wneud sanau. Yn Glanywern byddai’r gof golofn, gyferbyn â Siop Pensarn, cyn lledu’r ffordd. Yn y rhes o dai yno, byddai Auntie Sal, wedi colli ei gwr, a’i mab Dick Hughes; Mag a William Jones a’u mab Emrys (gŵr Iris), Ifan Jones a’i wraig a’u plant – Twm Ieu, Mattie, Hefin a Trebor.

Byddem ni o Soar yn cerdded i lawr llwybr coch tros y Wern ac i fyny i Bryn y Felin, hen gartref Gwyneth Vaughan i nôl llaeth enwyn; byddai lympiau bach o fenyn ar ei wyneb ac roedd yn fendigedig. Caem fara llaeth a tatws llaeth, yn ardderchog i’w yfed ac i wneud crempog – dim byd tebyg iddo ac yn hynod llesol. Mae’n siwr mai ychydig geinioigau y byddem yn dalu amdano. Ann a John Williams oedd yn byw yn Bryn y Felin; yno y daeth Norman Kerr fel ifaciwi, ac arhosodd yn yr ardal yn siarad pob gair yn rhugl Gymraeg.

Ymlaen i lawr llwybr coch, dros yr afon, a thrwy’r Wern ac i fyny Rhiw Talar Chwintan a heibio Maesyneuadd, mae son fod Owain Glyndwr wedi aros yno, a’r Kennedys’, o’r America, pan fu angladd yr Arglwydd Harlech. (Dywediad mae lluchio cylchau neu gerrig am y pella oedd yn digwydd ar Rhiw Talar Chwintan a dyna sut y cafodd yr enw.) Ond mae ystyr arall – gwneud tân ar y bryncyn i ddweud fod perygl.

Dyna Afon Wern a Phont Gwyddelod, dim yn siwr pam fod yr enw yma arni – ai’r ffordd mai wedi ei chodi neu bod cysylltiad â Gwyddelod. Mae adfail yn nes ymlaen o’r enw Dolorcan (racs ar lafar). Yn uwch i fyny ar y Fonllech mae cytiau Gwyddelod; mae son fod yr enw Dolorca wedi dod o’r Wyddeleg, rhywun eitha enwog. Ar yr hen ffordd yma byddai’r goets fawr yn trafeilio. Yn uwch i fyny eto yn pentref bach Eisingrug mae Bryn y Felin, Yr oedd tad Gwyneth Vaughan - Bennet Jones, yn felinydd; dros y ffordd i’r tŷ fferm safai’r felin. Byddai’r ffermwyr yn dod â’r ŷd i’w falu, dyna ystyr Eisingrug – esin grug – plisgyn o’r ŷd. Byddai’r olwyn ddŵr yn gweithio’r felin ac yn ymyl yr oedd Maes y Powlio, lle eto i chwarae powlio cerrig tra roedd yr ŷd yn cael ei falu. Tir comin oedd hwn, ond wedi ei golli i ddieithriad ers rhai blynyddoedd. Yn is i lawr y rhiw, roedd Gefail y Gof – lle prysur iawn yn yr hen amser mae’n siwr oedd Eisingrug. Wrth ymyl Maesyneuadd, yng ngwaelod y rhiw, roedd yr hen Ysgol, talu ceiniog i gael addysg.

Bu Richard Hughes, awdur ‘High Winds in Jamaica’ yn ysgrifennu llyfrau, ac ymhen amser daeth i fyw i’r ardal i Môr Edrin.