Chwilio

Atgofion Frances Griffith

Byddai ychydig o hwyl ac edrych ymlaen at y diwrnod arbennig yma - a’r Nadolig oedd hwnnw. Byddai addurno’r tai hefo’r “trimings” a byddai cerdded trwy’r coed i chwilio am gelyn, a bron yn ddiffael byddai pawb wedi cael ambell frigyn i’w tai – ni fyddai’n Nadolig heb y celyn.

Doedd dim llawer o anrhegion i’w cael yn ystod y Rhyfel; ond os oedd gennych Dad yn dda ei law roedd gwell siawns, ond doedd pawb ddim mor lwcus. Byddem yn siwr o gael llyfr ‘Darllen a Chwarae’, ‘Difyrrwch y Plant’ a.y.y.b. ond y ffefryn oedd ‘Llyfr Mawr y Plant’.

Cefais oriau o bleser o’r llyfrau yma; mae ein dyled yn fawr iawn i’r bobl a’u hysgrfennwyd.

Ond yr oedd un diwrnod arall, neu’n hytrach, hanner diwrnod, a’r hwnnw oedd diwrnod cyntaf y flwyddyn, diwrnod hel calennig, a byddai edrych ymlaen mawr at yr amser yma.

Byddem wedi hel at ein gilydd ac yn mynd o amgylch y tai i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda gan weiddi “Calennig, Calennig a Blwyddyn Newydd Dda, i Mr a Mrs os gwelwch yn dda”. Caem ambell un yn gofyn – canwch unwaith eto! Caem ambell geiniog, afal neu gyflaith, a gweiddi “Blwyddyn Newydd Dda” ac os byddai neb yn agor y drws, “Llond y tŷ

o fwg” a rhedeg i ffwrdd.

Pan aethom yn hŷn, mor ddigywilydd yr oeddem yn begera, ond ar y pryd yr holl hwyl a gaem. Roedd rhaid darfod erbyn 12 o’r gloch. Rhedeg o le i le i wneud yn siwr ein bod yn gorffen, mynd i lawr Rhiw Mawr cyn belled â’r Ship ar garlam, ac yn ôl i Soar a mynd cyn belled â Dolorcan a Glan yr Afon. Yno y byddai hen wraig Seisnig yn byw, Mrs Jolly, a byddai wedi gwneud ‘peppermint creams’ i ni a blasus iawn oeddynt hefyd. Dim llawer o finciag i’w cael yn ystod y Rhyfel gan fod rhaid cael ‘coupons’ ar eu cyfer.

Byddem yn canu i’r ychydig Saeson “I wish you, I wish you a Happy New Year and hope you’ll be here next year”.

Byddai 12 o’r gloch yn dod rhy fuan o lawer, yna byddai rhaid gweld faint o bethau roeddem wedi’u cael, ychydig o sylltau, ar ôl yr holl redeg, a minciag, afal a.y.y.b. ond yr holl hwyl a gaem, yn llawer mwy o werth na’r calennig. Cymaint mae plant heddiw wedi ei golli gyda’r holl hwyl diniwed yma.