Chwilio

RHAI O DRIGOLION TALSARNAU YN YSTOD Y RHYFEL

Cychwyn o waelod Rhiw Mawr a Phenygongl, troi i’r dde i Bryn Street – ‘Stryd Gefn’ fel y byddai’n cael ei hadnabod yn lleol – Miss Christopher oedd yn byw yn y tŷ cyntaf; daeth hi o Lerpwl. (Hwn oedd hen gartref J H Jones, Golygydd y Brython);

Drws nesaf roedd Joe Owen a’i wraig, eu dau blentyn, Peggy a John Phillip. Morwr oedd Joe ac yn wreiddiol o Sir Fôn, ei wraig o ochr Lerpwl; bu eu merch farw yn ifanc iawn.

Yn y trydydd tŷ roedd Mrs Mayberry a’i thair merch, ei mab Bunny Mayberry a’i ddau fab yntau, Derek a Richard. Bu farw Bunny yn y rhyfel a magwyd ei ddau fab gan Nain. Roeddynt yn dod i’r Ysgol, ac roedd Derek yn yr un dosbarth â fi.

Yn Rhif 4 roedd Griffith Roberts ac Aunty Nell a’u plant Dilys a John Henry. Gweithiau Dilys yn y Gwaith Powdr a John Henry yn cadw tŷ tafarn yn Manod. Un o deulu’r gof oedd Griffith Roberts.

Llwybr yn mynd i’r gerddi cefn cyn dod i’r rhes nesaf. Yna Jane Jones – collodd hi ei gŵr yn ifanc trwy iddo foddi yn y traeth. Roedd ganddi 4 o blant, Maggie Jane, Katie, Wil Dei a Bob Jones. Ganwyd Bob ar ôl i’w tad foddi.

Huw Owen Hughes a Syn ei wraig oedd drws nesaf (morwr arall oedd H O Hughes). Daeth Syn Hughes o Gernyw dwi’n meddwl, ac wedi dysgu Cymraeg.

Trydydd tŷ roedd Maggie Esther a Ben Bowen (o Dde Cymru roedd Ben yn dod); byddai ganddo gi bach o’r enw Penny a chariai Penny o dan ei gesail pan fyddai’n mynd i lawr y rhiw am y ‘Ship’ am beint.

Yna byddai Elizabeth Edwaads, ei gwr Richard Lloyd Edwards yn byw – Fred, Wil a Nancy Lloyd oedd y plant. Byddai gan Richard Lloyd gôr plant ac roedd yn hoff iawn o ganu; byddai Elizaebth Edwards yn gweithio yn y Cantin yn yr Ysgol a byddai bwyd da iawn i gael i’r plant.

Y tŷ olaf yn y rhes roedd Owen a Jennie Morris yn byw (un arall fyddai’n gweithio yn y Cantin) a Gwyndaf eu mab.

Dros y ffordd roedd ystafell fach lle byddai’r Seiat a’r Band of Hope, ar yn ail â Soar. Doedd dim Neuadd yma’r adeg hynny. Byddai ambell i bwyllgor yn cael ei gynnal yno. Cofiaf y byddai’r British Legion yna.

Yn y selar, enw’r tŷ oedd Ty’n Ffridd, byddai Mary a Huw Edwards a llu o deulu’n byw. Bu Huw Edwards yn y rhyfel gyntaf ac yr oedd ganddo batch gwyn ar gefn ei wallt a byddant yn dweud ei fod wedi ei glwyfo yn y rhyfel – ddim yn siwr. Yno y byddai Gwladys, John, Richie, Dafydd ac Ann yn byw, Kenneth, Jackie Puw ac Em a hefyd Lizzie Mary, hen bobl iawn.

Cychwyn i fyny’r rhiw mawr Ty’n Bryn – yn y tŷ cyntaf yno byddai Bessie a Johnny Williams a’u plant Eirlys, Valmai ac Emyr. Roedd Johnny Williams yn ddyn eitha’ gwael a bu farw’n ifanc ar ddydd Nadolig. Byddai’n eistedd ar glustog ar ben y wal i gael ychydig o awyr iach os yn ddiwrnod braf.

Ty’r Rhiw oedd Elizabeth ac Owen Williams yn byw – roedd teulu mawr ganddynt. Enillodd dau o’r hogia’ – Evie ac Arthur, y Ruban Glas, Byddai Owen Williams yn hoff iawn o bysgota.

Yn wynebu - Trem yr Wyddfa, byddai Ted Puw Parry, ei wraig, a’i ferch Gwyneth yn byw.

Prifathro Ysgol y Bermo oedd Ted Parry.

Ochr arall y ffordd, cwt yr hers yn cysgodi o dan wal Capel Graig, Capel y Bedyddwyr. Byddai sexton, ar ben y staer, yn llawn dŵr i fedyddio’r aelodau a byddai dwy chwaer yn byw yn y tŷ capel, Annie a Laura Roberts ac yn achlysurol deuai eu brawd atynt, Wil Capel Graig (tad Bili Teiars). Credaf fod rhai o’r plant wedi marw’n ifanc iawn pan gawsont diphtheria.

Yna Ceinfro byddai Willie Williams a’i wraig Madryn yn byw, a’u plant Gerwyn ac Eleri. Cadwai Willie Williams y siop crydd a gwerthai pob math o ddillad.

Derwydd oedd y tŷ ar ôl y Rhiw ac yno byddai Mrs Madge Williams a’i merch Rhiain; (Rhiain Phillips yn ddiweddarach). Roedd ei mab Bob wedi mynd i’r rhyfel ac wedi ymuno â’r awyrlu. Aeth ei awyren ar goll ac ni ddaeth Bob yn ôl. Byddai Mrs Williams, ei fam, yn gofyn i ni blant wrando ar Lord Hawhaw ar y radio gan y byddai yn enwi yr hogiau a fyddai wedi’i cymryd yn garcharorion rhyfel yn yr Almaen, ond ni fu son am Bob. Mae ei enw ar y gofeb yn Runniemead gyda channoedd o rai eraill na ddaeth adref yn ôl..

Yn Gwelfor dros y ffordd byddai Maggie a John Defi Roberts, Gof a’u mab John Osborne ac fel John Defi’r Go’ byddai John O yn cael ei adnabod; aeth i’r un busnes â’i dad. Cadwent fusnes glo a charient flawdiau anifeiliaid ac ati. Gyda gwaith cario allan a’r gwaith yn yr Efail roeddynt yn bobl eitha’ prysur.

Yn raddol daeth oes y ceffyl a throl i ben. Roedd son fod Gwelfor wedi bod yn Stiwdio Tynnu Lluniau cyn ei droi yn dŷ. Ymhen amser priododd John O hefo Beryl, merch o’r Penrhyn. Gweithiau hi fel nyrs ym Mhwllheli a rhoddodd help i lawer un yn y gymdogaeth. Roedd ganddynt bedwar o blant yn Gwelfor – y mab hynaf oedd David Vaughan, yna Ann, Ian a Margaret Wyn.

Bronwylfa yw’r tŷ nesaf lle roedd Mrs Lloyd a’i merch Nelta yn byw. Boddwyd gŵr Mrs Lloyd, Capten llong, ar y môr. Priododd Nelta efo Owen Roberts, yntau ar y môr hefyd, a’u mab Owen Lloyd sy’n byw yno nawr.

Tŷ drws nesaf yw Bryn Awel, tŷ gweinidog Wesla. Trefn y Wesleaid oedd newid ardal pob pum mlynedd. Y Parch R H Pritchard a Mrs Pritchard oedd yn byw yno yn ystod y rhyfel.

Gyferbyn bron â Bryn Awel mae Bryngolau, yno roedd Mrs Spoonley, gwraig weddw, yn byw. Daeth i fyw i’r ardal trwy bod ei gŵr yn gweithio ar y Rheilffordd. Cadwai’r teulu y gatiau rheilffordd yn Ty Gwyn ac yna adeiladau’r bungalow. Nain a thaid Rhiannon oedd rhain ac ymhen rhai blynyddoedd daeth Rhiannon a Meirion Jones i fyw yno, a’r plant Marnel, Brymor a Marian.

I fyny’r rhiw ar y chwith mae Tremeifion; yno roedd R R Jones yn byw; gweithiai yn Nolgellau; roedd ganddo ‘housekeeper’ Miss Kate Roberts, chwaer i Bob Roberts, Glasfryn. Ymhen blynyddoedd priododd R R gyda gwraig weddw ysgolfeistr Talsarnau, Edmwnd Williams a symud i fyw i’r Rhyl. Daeth ysgolfeistr newydd, Dewi Williams, a’i wraig o’r ardal yma, Katie, sef chwaer Mair Wyn o Rhes Tai Tŷ Gwyn, yr Ynys. Yr oeddem feddwl y byd o Dewi Williams a phan fu farw ymhen ychydig o flynyddoedd ar ôl dod yma, roeddem i gyd yn crio ar ei ôl.

Ymhellach ar ôl Tremeifion, mae ffermdy Cefntrefor Isa’, lle roedd Williams Evans, ei wraig Agnes a’u merch Hilda yn byw. Yno byddem yn mynd i nôl llefrith bob nos ar ôl iddynt odro’r gwartheg, y llefrith yn llawer iachach yr adeg honno. Byddem ni blant wrth ein bodd yn helpu nôl gwair hefo cribinnau bach a Loffti yn y drol, hen gaseg fawr nobl.

Dros y ffordd i Cefntrefor Isaf mae Bertrhen Gron, tŷ’r Prifathro. Adeiladwyd tua 1933. Cofio ychydig am Edmwnd Williams a’i wraig, Dewi Williams a’i wraig Katie, Mathew Griffith a’i wraig Janet a’u plant – Gareth a Susan. Ganwyd y ferch Olwen Medi ar ôl iddynt symud o Dalsarnau. Mr Williams a’i wraig ddim wedi aros yn hir. Ben ac Enid Williams a’u plant – Ann a Glyn, ac yna Celt a Meira Roberts a’u plant – Dyfed a’r efeilliaid, Gwynedd a Meirion.

I fyny ar y chwith heibio Berthen Gron mae’r ffordd fach gul yn mynd i Fronyw (Fron Newydd mae’n siwr) – y ddau dŷ cyntaf – Pengelli a Bwthyn, wedi cael eu codi tua 1923 ar gyfer gweithwyr ar y tir. Yn Pengelli, cofio Robin a Malan Williams yn byw (dodo Malan i bawb), mam a thad John, Gwynfor ac Iona. Symudodd y teulou ymhen blynyddoedd i Coedty Bach, yna i Garth Byr. Yn Bwthyn yr oedd Dodo (Ceinwen Jones, Cwm yr Afon, Llanbedr gynt) yn byw. Priododd Ceinwen Johnny Jones, Capel Fawrnog. Cafodd ei ladd yn y chwarel. Bu Dodo, pan yn weddw, yn rhoi cartref i ‘evacuees’ adeg y rhyfel. Cofiaf ddwy ohonynt, Mary ac Olive a hefyd merched y Land Army. Arhosodd dwy ohonynt yn yr ardal a priodi bechgyn lleol, Lyn yn priodi Wil Dei a Mair ei chwaer yn priodi Griff Mog. (Griffith Morgan).

Rhes Tai Fronyw – bu’r tŷ cyntaf yn wag am flynyddoedd a’r perchennog yn byw yn Llŷn, Sir Gaernarfon. Pan aeth ar werth prynodd Ian ac Alison Rayner y tŷ a bu’r ddau yn byw yno am ychydig flynyddoedd cyn symud i Bryn Eithin, Llandecwyn. Mae wedi newid dwylo lawer ers hynny. Miss Maggie Williams, Maggie Moel Geifr oedd yn byw yn yr ail dŷ. Sue Green sydd yno ar hyn o bryd, a’r trydydd tŷ, Mr a Mrs Willimas, Lil, teulu Tyrpeg, ac are u hôl hwy daeth eu mab Meirion a Florence a’u plant Dilys, Arwyn, Hefin a Meirionwen. Symudodd y teulu i Minffordd, Penrhyn. Daeth Saeson wedyn, Sid Harris.

Yn wynebu’r rhes yma roedd rhes o dri tŷ arall. Nid wyf yn cofio pwy oedd yn byw yn y tŷ cyntaf, Mary Williams, Garth Byr oedd yn byw yn yr ail. Gwisgai ddillad hir at ei ffêr, cerddai, gan roi ei braich tu ôl i’w chefn a gafael yn y fraich arall.

Leusa Jones oedd yn y trydydd, dynes fach ddel iawn, gwallt gwyn, ei hwyneb yn llwyd, bron yn wyn, a giwsgai hithau ddillad at ei thraed – du bob amser – gyda het fach ddel ar ei phen, du wrth gwrs.

Wedi dyddiau Mary Williams a Leusa Jones, daeth Miss Kate Roberts yn berchennog ar y tŷ canol a bu Hubert, fy mrawd a Bet ei wraig, yn byw yn y trydydd tŷ gyda Rhiannon eu merch fach, tan yn 4 oed ac yna adeiladwyd Maes y Gwndwn a symudodd y teulu yno cyn i Gareth gael ei eni.

Ar ôl i Meirion a Florence a’r teulu symud, daeth Emrys Roberts a’i wraig a’r plant, Jean ac Edmund yno i fyw. Gweithiau Emrys Roberts yn y Co-op. Erbyn heddiw does dim Cymry yn byw yn Fronyw – Saeson ymhob tŷ. Mae un rhes o dri tŷ wedi eu gwneud yn un, ac mae Richard a Janet Williams yn byw yno.

Yn y pumdegau adeiladwyd Maes y Gwndwn gan y Cyngor Sir.

Ymlaen at ffordd Soar, cofio Beudy Bach (Bryn Môr heddiw, lle mae Elfed a Frances Griffith yn byw), dim ond camfa yn fynedfa. Yr oedd y tŷ yno wedi mynd yn furddun a bu fy Nain a’m Taid yn byw ynddo ar ôl iddynt briodi cyn symud i’r Gwndwn, a hefyd teulu John a Beti Jones, Gwndwn. Wrth ochr Beudy Bach yn y cae roedd lladd-dy yn perthyn i Cefntrefor Isaf.

Yn y pumdegau roedd Cymry yn byw yn y pedwar tŷ ym Maes Gwndwn – Huw a Lucy a Dafydd Llew yn Rhif 1, Ted a Bronwen Rayner, Rhif 2, Hubert a Bet Jones yn Rhif 3 a Wil Lloyd Evans a Nerys yn Rhif 4. Yna Gwndwn ei hun lle roedd fy hen, hen Daid a Nain yn byw – Betty a John Jones. Aeth fy Nain a Taid, Marged ac Ifan Williams, o Beudy Bach i’r Gwndwn i edrych ar eu hôl. Yno ganwyd fy mam Elizabeth Jane, ei chwaer, Maggie Gwyneth a’r tri brawd, Robert John, Efan (Evie) Bryn Môr, a David Elwyn. Yno hefyd y ganwyd fy mrawd Hubert, fy nghyfneither Jennie Gwyneth a’m cefnder Emrys.

Ar ôl dyddiau fy nhaid a nain, David Elwyn, yn ddibynnol ar y pryd a’r ieuengaf o’r plant, arhosodd yn Gwndwn. Priododd hefo Katie Davies. Yno ganwyd tri o blant – Megan, Elwyn a Glyn – y tri plentyn wedi priodi a symud o’r ardal. Wil a Janet Price a’u dwy ferch, Elenid ac Areina, ddaeth i fyw i’r Gwndwn wedyn. Moderneiddwyd Gwndwn – nid yw’n debyg i’r hen dŷ erbyn hyn. Pedwar bungalo i bensiynwyr sydd i’r chwith o Gwndwn. (Gyferbyn â’r rhain mae Llwyn Dafydd, mae byngalo’r Parch Dewi Tudur Lewis a’i wraig Siriol)

Bron wedi cyrraedd pentref bach Soar, ar ben y rhiw, ar y chwith, mae’r Garth. Yn y pedwardegau, byngalo bach sinc oedd yno – lliw gwyrdd a tho coch – hen wraig o’r enw Laura Williams, gwraig weddw, ei gŵr Huw Williams wedi marw yn ddyn ieuanc. Lol Lol oedd hi i bawb ohonom, gwisgai hithau ddillad tywyll hir at ei thraed, roedd ganddi dresel yn llawn o lestri a dwy iâr fach degan, un binc ac un ddu. Byddwn yn dotio atynt; bwrdd wedi ei sgwrio yn wyn a byddwn yn mynd i weld Lol Lol a chael bechdan wen a menyn ffarm yn dew arni, gwledd i hogan fach adeg y rhyfel.

I’r chwith heibio’r Garth, mae Capel Fawnog; cof bach o John Jones (Taid Gwenda a Noel), Lowri ei ferch bu farw’n ieuanc, Jennie yn ferch arall. Byddai Jennie yn gweithio yng Ngwaith Powdwr, Penrhyn ac yn mynd ar bob tywydd hefo beic; dod adref o’r shifft olaf tua 11 o’r gloch y nos, haf a gaeaf. Drws nesaf roedd Annie Owen a Tommy Wyn yn byw, a Dafydd Owen ei gŵr, yn filwr yn yr Eidal. Bu William Jones a’i wraig, Annie, yno am gyfnod. Athrawes oedd Mrs Jones yn Ysgol Llandecwyn. Bu Lewis a Jennie Roberts Lewis, Glasfryn a Jennie Pensarn a’i merch Brenda yn fabi yno am ychydig. Wil a May Jones ddaeth wedyn a Gwenda, tua blwydd oed, ac yno y buont am weddill eu bywyd ac mae’r ddau Gapel Fawnog yn dal gan y teulu.

Lled cae, mae’r Ysgoldy lle bu Wil Williams a’i chwaer Annie yn byw, a’i nith Claudia. Bu Wil yno tan roedd yn ei nawdegau, yr hen Ysgol wedi’i droi yn dŷ. Tom ac Annie Jones fyddai’n byw yno – gŵr gweddw oedd Tom o Bwllheli. Yr oedd ganddo 3 o blant o’r briodas gyntaf - roedd Dic yn yr Army, John ar y môr, a Beryl yn dod i Ysgoldy yn aml. O’r ail briodas, daeth Mair Wyn, Elfyn ac Ieuan. Symudodd y teulu i fyw i Bwllheli a ganwyd un ferch arall iddynt, Eurwen. Bu llawer un yn byw yno wedyn. Yng ngwaelod stepiau Ysgoldy byddai secston llechen yn dal dŵr yfed i drigolion Soar. Yno y byddwn yn mynd i nôl dŵr. Nid oedd dŵr yn y tai, na charffosiaeth, na thrydan yn Soar.

I fyny’r rhiw o Ysgoldy i gyfeiriad y Capel, mae Penrallt. Byddai’r tŷ cyntaf yn wâg, telid rhent amdano gan Miss Laura Williams oedd yn bwriadu dod yno i fyw, ond aeth i gadw tŷ i’w brawd Bobi Pengarreg, ar ôl iddo golli ei wraig ar enedigaeth Ifan Defi. Rhoddodd y tŷ i fyny ac yna daeth Bert a Cassie Wyatt i fyw yno. (Cassie yn ferch Capel Fawnog) Roedd tŷ bach wedyn wedi bod yn siop, flynyddoedd maith yn ôl, ond yr oedd Robert Hughes a’r teulu yn ei gadw wedi colli ei wraig, Elin Hughes. Roedd ei ferch, Jennie Roberts, wedi dod ato i fyw, nid wyf yn siwr os cofiaf enwau’r plant i gyd – Jennie, Nellie, Ann Dora, Lowri, David Huw, Tecwyn, Hywel, Bobby, Dic (Dic Stesion). Dodo Sydna oedd yn byw yn y tŷ nesaf; Tŷ Capel. Mrs Sydna Mary Williams, wedi colli ei gŵr yn ieuanc, mam Johnnie Williams (tad Eirlys, Valmai ac Emyr) a’i merch Jennie. Dodo Sydna fyddai’n glanhau’r Capel. (Tŷ Capel oedd enw’r tŷ). Dwi’n siwr fod Dodo Sydna wedi bod yn mynd o amgylch yr ardal fel bydwraig.

Dros y ffordd i’r Ty Capel mae Capel Soar, Capel Wesla. Mae son fod yr achos wedi dechrau yn Soar tua 1824. Yn yr hen amser byddai’r pulpud yn y canol rhwng y ddwy fynedfa a rhaid cerdded i mewn i wynebu’r gynulleidfa, ond yn 1839 ail-wneud y capel fel bod y pulpud yn y pen blaen. Dros y ffordd i’r capel, mae’r fynwent – yr hen a’r newydd. Mae’r newydd bron yn llawn bellach. Yno mae Utgorn Meirion (Edmwnd Evans) wedi’i gladdu. Bu yn y gell hefo Dic Penderyn.

Ty agosaf i’r fynwent, 1 Tanymarian, roedd Mrs Laaura Roberts (Anti Laura Cricieth), cyfneither fy Nain. Cadwai’r ty ond yn Cricieth yr oedd yn byw gyda’i merch a’r teulu rhan helaeth o’r flwyddyn. Byddai’n dod i Soar pob gwyliau’r Ysgol a dod â thri o’i wyrion gyda hi – Hugo, Bob ac Ieuan.

Yn 2 Tanymarian – Goronwy ac Audrey Roberts a’u merch Margaret. Aeth Audrey a Margaret i America i fyw. Saer coed oedd Goronwy a’i weithdy yn ymyl Ysgoldy. Roedd yn grefftwr da iawn.

Yn 3 Tanymarian David a Winnie Williams gyda 4 merch – Jennie a aeth i fyw hefo’i nain i’r Brithdir, Gwyneth, yn nyrs, Grace yn nyrs, ac Annie aeth i fyw i’r Ysgoldy ar ôl priodi.

Yn 4 Tanymarian, Dafi Gwilym a Rosie Williams a’u mab Islwyn. Uncle Dei ac Auntie Rosie i bawb. Capel yn bwysig iawn iddynt, dosbarth Ysgol Sul gan Uncle Dei a dosbarth plant bach gan Auntie Rosie.

Bron y Garth yw’r ddau dy nesaf. Yn Rhif 2, roedd fy nhad a mam yn byw; R E (Ebie) ac Elizabeth Jones – Auntie Lizzie ac Uncle Ebie i bawb, hefo 3 o blant – Hubert, Gwilym a Frances. Yno’m ganwyd a bum yn byw yno am tua 10 mlynedd cyn symud i Pengelli. Aeth Hubert i’r rhyfel yn 1939, Gwilym i Ysgol Bermo ac yna i weithio ar fferm gan fod y rhyfel ar ei hanterth a llythyrau yn dod oddi wrth Hubert i Gwilym i wneud yn siwr o aros ar y fferm. Un o Bwllheli oedd fy nhad ac wedi bod ar y môr. Nid oedd modd cael gwaith ond cafodd fy nhaid waith iddo yn y chwarel. Roedd fel pysgodyn allan o ddwr – roedd yn hoff iawn o griw y chwarel ond yn casau mynd i grombil y ddaear bob dydd. Wedi fy ngeni i nid aeth i’r chwarel.

Byddai gan mam ddosbarth Ysgol Sul am flynyddoedd o dan y Galeri yng Nghapel Soar ac Autnie Rosie yr ochr arall. Roedd y Capel yn bwysig iawn i ni fel teulu.

Yn Rhif 1 Bron y Garth byddai Dic a Ceridwen Williams a’u dau fab – Merfyn a Gareth yn byw. Uncle Dic ac Auntie Ceridwen i ni i gyd. Ceridwen yn chwaer i Uncle Dei (Defi Gwilym). Are u hôl hwy daeth Llew ac Annie Jones – o Lanbedrog daeth Llew Jones i’r

ardal. Gweithiau mewn garej yn Harlech; Annie yn dod o Dalsarnau, Tra’n Bron y Garth bu’n hynod o wael, credaf iddi gael TB, a bu farw yn ifanc. Nid oedd dim cyfleusterau i gael yn y tai pryd hynny, dim dwr glân, dim toiledau, ond ty bach yn yr ardd. Roedd yn amser anodd iawn i unrhyw un gwael.

Bu Ifor a Maggie Williams yn byw drws nesaf a’u merch Rhiannon – Ifor Ysgoldy a Maggie Spoonley. Symudodd y teulu i Trefriw neu’r cyffiniau. Yr oedd tai Tanymarian a Penrallt a’r 2 Ysgoldy yn perthyn i’r Capel – 10 ty i gyd. Gwerthwyd y tai i gyd i’r tenantiaid tua 1961-62 gan fod costau na allai’r Capel fforddio gwario arnynt.

Daeth trydan, dwr a charffosiaeth i Soar. Erbyn heddiw trist iawn i’r dweud mae tai haf yw mwyafrif o dai – pentref bach Soar, tai Tanymarian, dau dy wedi eu gwneud yn un – Rhif 1 a 2 - gan John Davies; Rhiaf 3 a 4 yn dai haf ac yn perthyn i deulu o Dde Cymru, Mr Gareth Ll Jones s’t teulu. Ty Capel – teulu o Fanceinion; Penrallt – teulu o Dde Cymru; 1 Ysgoldy – teulu o Fanceinion, 2 Ysgoldy – teulu o gyfeiriad Derby; 1-2 Bron y Garth – Miss Liz Fisher o Birmingham; Mrs Joyce Wood yn Garth.

Nid oes ond 3 yn byw yn Soar bellach. Mae’n anodd dod i ddygymod (trwy’r flwyddyn). Pentref bach bywiog, cymdogaeth dda, pob ddrws yn agored yn barod eu cymwynas, Capel ar y Sul, Seiat ganol yr wythnos, a’r Band of Hope – dyddiau difyr.

Bu llawer un yn meddwl adeiladu yn Beudy Bach. Newidiodd ddwylo sawl gwaith. Prynwyd i ddechrau gan David Hughes – yna gan William Davies Cefntrefor Isaf, yna Johnnie Jones, Bwthyn, wedyn Williams Evans, Cefntrefor Isaf, yna Evie a Bronwen Williams, fy ewythr a’m modryb, ac yn olaf Frances ac Elfed Griffith yn 1961-62 a daeth Bryn Môr i fod. Rydym wedi byw yma dros hanner can mlynedd i fyny i rwan.