Chwilio

MYND I’R YSGOL AM Y TRO CYNTAF

(Atgofion Frances Griffith, Bryn Môr, Soar, Talsarnau)

Yn Soar roeddwn yn byw pan ddaeth yr amser i fynd i’r Ysgol. Doeddwn i ddim tamaid o awydd mynd yno gan fy mod gymaint o ofn. Byddai’r plant hŷn yn dod a dweud eu bod yn cael eu curo, felly roedd yn llawer gwell bod adref yn saff, ond bu rhaid mynd rhag torri’r gyfraith neu fe fyddai fy rhieni’n cael eu cosbi.

Rhaid mentro a bod yn ddewr. Miss Lewis, yn ddiweddarach Mrs Steward, oedd yn dysgu y plant lleiaf. Dysgais i fawr iawn yno, dysgu ‘tables’ fyddai’r peth cyntaf heb eglurhad pam. Byddai Miss yn eistedd wrth danllwyth o dân a byddwn yn cael mynd i gribo ei gwallt. Ymhen rhyw ddwy flynedd symud i Standard I a run oedd yr hanes, byddwn ofn am fy mywyd gan y byddai’n reit gâs am y peth lleiaf, Yna daeth Miss Annie Davies Jones ac roeddwn yn hoff iawn ohoni. Doedd dim ffafriaeth yno a dosbarth hapusach. Miss Ellis (Catherine Jane) oedd yn Standard 3, Ystafell y Gloch. Roedd Miss Ellis yn iau a ffordd wahanol o ddysgu.

Pan ddechreuais, Edmwnd Williams oedd yr ysgolfeistr, ond roedd yn ymddeol yn fuan ar ôl i mi ddechrau. Yna daeth Dewi Williams yn ysgolfeistr i Dalsarnau ac roedd mwy o hwyl. Bu farw ymhen ychydig yn ddyn ifanc iawn. Buom heb ysgolfeistr wedyn am beth amser tan y daeth Mr Jones o Lanfrothen dwi’n meddwl, ac yna daeth Mathew Griffith atom ac yr oeddem i gyd yn cael gafael ar ddysgu gan ei fod yn athro da.

I lawr y Gelli i’r Ysgol gyda Claudia, pum mlynedd yn hŷn na mi ac yn gwmni da. Mr J Williams oedd yn gwneud tân a llenwi bwcedi efo glo. Ysgol hen ffasiwn oedd gyda tân agored ym mhob ystafell a man cadw côt – y ‘cloakroom’ – un i’r merched ac un i’r hogia, toiledau yn gwaelod yr iard chwarae. Byddem yn cael potel fach o lefrith yn y bore, amser chwarae. Byddai’r deintydd yn dod i edrych ar ein dannedd ac ymadawai ‘Mr Jones’ i dynnu, hefo cadair fawr hen ffasiwn iawn byddai’n cael ei rhoi yn nosbarth yr ‘infants’. Deuai nyrs hefyd i’n gweld. Byddai’n edrych gwallt pob un hefo ei phensel, ei godi ac edrych am chwain a dyna be fyddai’n cael ei galw ‘Nyrs chwain’.

Gan mai yn ystod y rhyfel oedd hyn roedd rhaid cario ‘gas mask’ a byddai rhain yn cael eu rhannu yn yr Ysgol i’r plant lleiaf; roedd rhai fel ‘Micky Mouse’ a rhai gwahanol i’r plant mawr. Roddwn yn sicr y byddwn yn mygu ac felly penderfynais na fyddwn ar unrhyw gyfri, yn ei gwisgo. Rhedwn o’u blaen a doedd dim siawns iddynt fy nal. Diolch na fu rhaid eu gwisgo yn Nhalsarnau a Soar.

Yn fuan ar ôl y rhyfel cawsom ginio Ysgol, cinio ardderchog, gwnaed y gegin o un o ystafelloedd yr hen dŷ Ysgol a byddem yn bwyta ar fyrddau ar ben y ‘stage’. Jennie Roberts oedd y gogyddes ac Elizabeth Edwards yn helpu. Byddai bwyd arbennig o dda yn Nhalsarnau a byddem yn parhau i gael y botel fach o lefrith yn y bore (1/3 peint). Credaf ein bod yn talu ychydig am y cinio, ddim yn siwr faiant.

Daeth ychydig o ifaciwis atom ond cawsant eu haddysg gan athrawes Saesneg. Gan nad oedd fawr o Saesneg gennym, arhosai rhai yn Llys Myfyr, tŷ’r gweinidog Methodistiaid Calfinaidd gyda Miss Kidd yn edrych ar eu hôl. Ȃ’r plant bach i Glan y Wern, hen Ysgol a berthynai i’r Eglwys. Buan daeth y plant i siarad Cymraeg, biti nad yw’r un peth yn digwydd heddiw.

Mae’r plant yn deiwis siarad Saesneg ac nid y Gymraeg!

Cofio gweld Claudia yn cael y gansen a’r ysgolfeistr yn dweud ‘there only be one Claudia May’. Byddem yn cael Gwasanaeth yn y bore yn yr ystafell fawr Standard 5 ac yna galw’r ‘register’ a’r athro yn galw enw Gwyndaf Cefngwyn a dim ateb yn dod. Yna gofyn i’w frawd, Ieuan James “where is your brother today” a’r ateb “he’s got hot water syr”.

Adeg y rhyfel oedd hi a byddai milwyr yn mynd drwy’r pentref mewn confoi a byddem yn mynd ar ben y wal yn gweiddi “any gum chums”. Un tro daeth y Dywysoges Elizabeth trwy’r pentref. Yr oedd yn aros yn Glyn Cywarch, cartref yr Arglwydd Harlech ac wrth gwrs roeddem yn sefyll ar ben y wal i’w chroesawu – doedd dim dewis. Yr unig beth dwi’n gofio oedd y paent yn dew ar ei hwyneb!

Mr Williams oedd yn glanhau’r Ysgol, (tad Las, gŵr Eirlys Draenogau bach). Ef fyddai’n gwneud tân yn y bore ac yn llenwi bwcedi glo yn barod am y dydd. Rwyf yn meddwl ei fod yn byw yn Lerpwl cyn dod i Dalsarnau.

Byddem yn cael cyngerdd blynyddol a byddai pobl y pentref yn cael dod i wrando arnom. Dynwared ‘y co bach’ oeddwn i, gwrando ar y Noson Lawen ar y radio a dynwared Richard Hughes, y Co Bach ei hun. Byddwn yn cofio yr hanes y byddai ef yn ei ddweud.