Chwilio

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH  20.5.24
 
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Dewi Tudur Lewis, Margaret Roberts, Sian Mai Ephraim.
 
PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Lisa Birks (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Ann Jones, Eifion Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
 
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
 
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 18ed 2024 fel rhai cywir.
 
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Nid oedd unrhyw fater yn codi o’r cofnodion.
 
MATERION YN CODI
Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2024/25:-
Cadeirydd:-     Cyng. Lisa Birks
Is-Gadeirydd:- Cyng. Dewi Tudur Lewis
Cytunwyd, yn absenoldeb y Cyng. Dewi Tudur Lewis bod y Clerc yn cysylltu gyda ef i ofyn a yw yn fodlon cymeryd y swydd o Is-Gadeirydd
 
Wrth ymadael ar Gadair diolchodd y cyn Gadeirydd, y Cyng. Owen Lloyd Roberts i’w gyd Aelodau am eu cefnogaeth yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.
Diolchodd y Cyng. Lisa Birks am y fraint o gael ei hethol yn Gadeirydd y Cyngor am y flwyddyn i ddod a diolchodd i’r cyn Gadeirydd am ei waith i’r Cyngor.
 
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £56,058.82 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £21,200.82 yn fwy o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn yn bennaf am bod y Cyngor wedi gwario ar osod “wetpour” o dan yr offer yn y cae chwarae a nid oedd y gwariant hyn wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb. Rhannodd y Clerc gopïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2024/25 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.
 
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Clerc ei bod wedi mewn trafodaethau gyda Cadeirydd Cyngor Tref Penrhyndeudraeth ynglyn ar lloches bws oedd ger safle Hochtief ag ei bod wedi cael gwybod eu bod yn barod I’r Cyngor hwn gael y lloches bws dan sylw. Cytunodd y Cyng. Lisa Birks a John Richards wneud trefniadau I gael y lloches bws hwn I’r pentref.
 
Adroddiad Blynyddol y Cyngor
Adroddodd y Clerc ei bod hi yn ofynol bellach bod y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn ariannol sydd wedi bod ag felly I’r perwyl hyn rhannwyd copi o’r Adroddiad ‘roedd wedi ei baratoi ar gyfer y Cyngor i bob Aelod er mwyn iddynt gael rhoi sylwadau arni os bydd angen. Cytunwyd bod yr adroddiad hon yn iawn.
 
 
429................................................Cadeirydd
 
 
 
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael cwynion bod tyllau mewn gwahanol leoliadau yn y ffordd i fyny o Gesail y Cwm hyd at Moel Glo ag ei bod wedi cyfeirio y cwynion hyn i’r Adran Priffyrdd yn Nolgellau a wedi cael ateb y byddant yn trefnu i’r Arolygwr ymweld ar ffordd hon a trefnu i unrhyw 
waith gael ei gario allan. Mae y gwaith hyn wedi cael ei wneud bellach. ‘Roedd wedi anfon y rhybudd oedd wedi ei dderbyn ynglyn a bod y ffordd ger ystad Bryn Eithin ar gau ar y 6ed o’r mis hwn ag hefyd y ffordd i fyny o Dolorgan ar gau heddiw yr 20ed i bob Aelod yn barod. Hefyd adroddodd ei bod wedi cael cwynion o or-yrru drwy’r pentref ag ei bod yn mynd i gysylltu gyda’r Heddlu i ofyn iddynt fonitro y sefyllfa ag hefyd wedi derbyn cwynion am y “manhole” sydd ger gwesty’r Ship Aground ag ei bod yn mynd i gysylltu gyda’r adran berthnasol ynglyn ar mater hwn.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod eisiau llongyfarch pwyllgor y neuadd am drefnu cyngerdd gwych gyda’r grwp Pedair yn ddiweddar. Datganodd bryder bod neb o Aelodau y Cyngor Cymuned yng nghyfarfod diweddar Ardal Ni, pryder ynglyn a’r penderfyniad i symud yr ambiwlans awyr o Gaernarfon a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Vaughan Gethin A.S ynglyn a hyn, pryder bod ddim busoddiad o osod SMR yn gorsaf pwerdy Trawsfynydd ar pryder bod cynlluniau i dorri y nifer o drenau ar lein y Cambrian yn ystod y misoedd rhwng Rhagfyr a Mawrth.
Ni chymerodd y Cadeirydd ran yn y drafodaeth ynglyn ar mater i wneud gyda pwerdy Trawsfynydd.
 
 
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
 
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £8,003.51 yn y cyfrif rhedegol, a £7,537.16 yn y cyfrif cadw.
 
Taliadau yn ystod y mis
E. W. Owen a’i Chwmni                      - £228.00 –  cwblhau P.A.Y.E ar lein
Un Llais Cymru                                     - £141.00  -  tal aelodaeth am y flwyddyn
Clear Insurance Management Ltd    - £878.19 –  insiwrans y Cyngor
Mr. Meirion Griffiths                      -     £450.00  -  torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau x 2
Mr. Meirion Griffiths                      -     £205.00  -  torri gwair mynwent Llandecwyn
Mr. M. J. Kerr                                     -   £460.00  -  agor bedd y diweddar Mrs Betty May Evans (ail agor)
Mr. Meirion Evans                             -   £300.00  -  gosod hysbysfwrdd newydd ger yr Ysgol Gynradd
Cyng. John Richards                          -      £42.88  -  trwsio hysbysfwrdd Llandecwyn
 
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. John Richards gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
 
Rhannodd y Trysorydd copïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2024 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc.
 
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale                -   £25.00  -  rhent garej Capel y Graig (Ebrill)
Cylliad a Thollad     - £3,642.60 –  ad-daliad T.A.W.
Mr. K. Beale                -   £25.00  -  rhent garej Capel y Graig (Mai)
Cyngor Gwynedd - £11,000.00 –  hanner y precept
 
 
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod yn cario allan y gwaith o godi waliau sych, draenio a ffensio ar llwybr ceffyl 16/23 yn ystod y mis hwn.
 
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi cael ateb gan yr adran uchod i’r materion oedd wedi cael eu codi gyda nhw yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn datgan eu bod yn mynd i drefnu i’r Arolygwr ymweld ar safleoedd a threfnu unrhyw waith angenrheidiol gyda eu gweithlu. Datganwyd pryder bod y gwaith hyn heb gael ei wneud.
 
430........................................Cadeirydd
 
SARPA 
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn i’r Cyngor gysylltu hefo Trafnidiaeth Cymru ynglyn ar toriadau arfaethedig i wasanaethau ar lein y Cambrian maen’t yn ei fwriadau ei wneud trwy dorri allan gwasanaeth 4 tren rhwng Rhagfyr a Mawrth. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
 
Ambiwlans Awyr Cymru
Wedi derbyn llythyr gan Brif Weithredwr yr uchod ynglyn ag adolygiad o’r gwasanaeth EMRTS a gynhaliwyd yn annibynnol ddod i ben. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod. Cytunwyd i anfon llythyr at Vaughan Gethin A.S yn gofyn iddo rwystro hyn rhag digwydd.
 
UNRHYW FATER  ARALL
Datganwyd pryder bod brwyn yn tyfu ar ochor y ffordd i lawr o Soar o dan Snowdon View a bod hyn yn creu peryg i deithwyr.
Datganwyd pryder bod y goleuadau traffic ger Stabl Mail ddim yn gweithio yn iawn ag hefyd eisiau gwybod beth sydd yn digwydd gyda’r cynlluniau i drwsio y ffordd dan sylw.
Datganwyd pryder bod y llinellau gwyn byth wedi cael eu hail beintio ar y ffordd ger Cei Newydd er bod y Cyngor wedi gofyn am hyn gael ei wneud sawl gwaith.
Cafwyd wybod bod y gamfa sydd ar y clawdd llanw lawr wrth y stesion byth wedi cael ei thrwsio.
Datganwyd pryder bod ddim signal ffon symundol yn Glan y Wern na Llandecwyn
Cafwyd wybod bod mainc ger Llechollwyn wedi malu a cytunwyd gofyn i Mr. Meirion Griffiths ei chlerio o’r safle.
Cafwyd wybod bod llwybr cyhoeddus rhif 1 angen sylw.
Cafwyd wybod bod y grid gwartheg sydd yn mynd o Aberdeunant i Tallin angen sylw
Datganwyd pryder ynglyn a chyflwr y llwybr cyhoeddus sydd yn cael ei alw yn llwybr coch.
Cafwyd wybod bod dwy sedd wag yn bodoli ar Gorff Llywodraethwyr Ffederasiwn Afon Dwyryd sef 1 sedd rhiant a 1 sedd i aelod cymunedol a gofynnwyd a oedd gan yr Aelodau enw i rhoid ymlaen ar gyfer y sedd aelod cymunedol.
Cafwyd wybod bod estyniad wedi ei adeiladu yn Borth Las, Llandecwyn heb ganiatad cynllunio.
Ar ran y Cyngor diolchodd y Cadeirydd i’r Cyng. John Richards am drwsio yr hysbysfwrdd yn Llandecwyn.
Eisiau diolch i Gyngor Gwynedd am osod y gatiau newydd i fyny yn Llandecwyn.
Cytunwyd rhoid y mater o wefan y Cyngor ar agenda mis Gorffenaf.
Cytunwyd cynnal cyfarfod mynwentydd ar yr 17eg o Fehefin ag i bawb gyfarfod ger Eglwys Llanfihangel y Traethau am 7.00 o’r gloch.
 
 
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd   
 
DYDDIAD......................................................                   431