Chwilio

COFNODION PWYLLGOR ARIANNOL CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD  YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH  15.01.24
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Margaret Roberts, a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
 
PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Lisa Birks (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Sian Mai Ephraim, Dewi Tudur Lewis, Eifion Williams, Ann Jones, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
 
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 20ed 2023 fel rhai cywir.
 
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Adroddodd y Clerc ei bod wedi archebu bin brown ynghyd a sticer i fynwent Llanfihangel y Traethau
Adroddodd y Clerc ei bod wedi archebu yr hysbysfwrdd ar ran pwyllgor y neuadd ag hefyd wedi trafod gyda Mr. Meirion Evans ynglyn a’i osod.
 
MATERION YN CODI
Panel Cyfrifiad Annibynnol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni  a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau.
 
Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2023 ers dechrau Ebrill 2023 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol.  Adroddwyd bod £21,627.78 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn  £3,529.64 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.
 
Polisi Asesiad Risg Ariannol y Cyngor
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arno ei drafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisi hwn. Cytunwyd i gynnwys enw Play Quest yn yr adran archwilio y parc chwarae.
 
Prosiectau y Cyngor 2024/25
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoid yr uchod ar yr agenda er mwyn cael rhyw syniad o brosiectau a fyddai angen sylw yn ystod y flwyddyn ariannol newydd ag hefyd er mwyn cynnwys amcangyfrif o’r gost yn y gyllideb. Cytunwyd i rhoid “wetpour” ar darn arall y parc chwarae ar gost o £18K os na fydd hyn wedi ei gario allan cyn diwedd mis Mawrth eleni a cytunodd y Cyng. Lisa Birks wneud ymholiadau ynglyn a hyn, datblygu safle lloches bws Bron Trefor ar gost o £15K a cario allan archwiliad o’r maes parcio ar gost o £1k ag hefyd cytunwyd i gynnwys rhain yn precept y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa.
 
HAL
Adroddodd y Cyng. John Richards a Lisa Birks eu bod wedi mynychu y cyfarfod rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal yn neuadd bentref Llanbedr ar y 18ed o’r mis hwn ag ‘roedd yr Is-Gadeirydd wedi ymddiheuro na fyddai yn gallu mynychu y cyfarfod hwn. ‘Roedd trafodaeth wedi bod ynglyn a cario ymlaen i dalu cyfraniad ariannol i HAL ar ol diwedd mis Mawrth eleni a bod datganiad wedi cael ei greu a bod y Cynghorwyr wedi cytuno bod Clerc bob Cyngor yn anfon hon allan i bob Cynghorydd a gofyn iddynt bleidleiso erbyn nos Iau yr 21ain gyda’i penderfyniad, ‘roedd yr e-bost a anfonwyd at bob Cynghorydd gyda chopi o’r datganid yn gyfrinachol a datganwyd bod Aelodau y Cynghorau eraill yn datgan siom bod y wybodaeth hon wedi cael ei datgelu i aelod o Fwrdd HAL ag oherwydd hyn eu bod o’r farn bod y Cynghorydd hwn wedi torri Cod Ymddygiad y Cyngor. ‘Roedd y Clerc wedi anfon copiau o gyfrifon HAL i fyny at ddiwedd mis Tachwedd y llynedd i bob Aelod ac hefyd adroddodd bod cyfarfod arall yn mynd i gael ei gynnal rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal yn neuadd bentref Llanbedr ar y 14eg o Chwefror ag hefyd bod cyfarfod rhwng y Cynghorau Cymuned a HAL yn cael ei gynnal ar y 18ed o’r mis hwn. Cytunwyd ar ol trafodaeth i beidio a cario ymlaen i rhoid cyfraniad ariannol i HAL ar ol diwedd mis Mawrth eleni oherwydd bod gan y Cyngor gostau sylweddol ei hun i wneud gyda gwahanol brojectau yn yr ardal ag hefyd oherwydd sefyllfa ariannol y Cyngor.
 
Cyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2024/25
Dosbarthodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2023 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Fe gafwyd trafodaeth ynlgyn ar mater uchod a penderfynwyd fod amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa - insiwrant y Cyngor £800, cyflog y Clerc £2,100, costau y Clerc £1,500, costau swyddfa £400, treth ar gyflog y Clerc £420, Cyfrifydd y Clerc £216, cyfraniadau £8,000, pwyllgor neuadd bentref £2,000,  costau fynwent £2,000, torri gwair y mynwentydd £2,000, torri gwair y llwybrau £1,200, cynnal a chadw Gardd y Rhiw £400, biniau halen £1,000, meinciau £1,000, Un Llais Cymru £150, llogi ystafell bwyllgor £150, archwilwyr £650, amrywiol £1,000, camerau CCTV £500, cynnal a chadw cae chwarae £5,000, costau banc £150. 
 
Precept y Cyngor am y flwyddyn 2024/25
Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod.  Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y precept  ar £22,000. 
 
ADRODDIAD Y TRYSORYDD 
Adroddodd y Trysorydd bod £11,174.86 yn y banc, £29,405.76 yn y cyfrif wrth gefn.
 
Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf 
B.T                           -  £39.59  -  lein ffon camerau CCTV (10.12.23)
B.T                           -  £39.59  -  lein ffon camerau CCTV (10.01.24)
Mr. Owain Aeron - £750.00 -  ffensio o amgylch mynwent Eglwys Llandecwyn
Cyllid a Thollad     - £105.00  -  treth ar gyflog y Clerc 
Greenbarnes      - £2,776.87  -  hysbysfwrdd newydd i’r pentre
Mr. Kevin Jones - £1,000.00  -  taliad terfynol gosod camerau CCTV
 
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf 
Mr. K. Beale       -        £25.00  -   rhent garej Capel y Graig (Rhagfyr)
Cyllid a Thollad  -  £1,964.79 –   ad-daliad T.A.W.
Mr. K. Beale       -       £25.00  -    rhent garej Capel y Graig (Ionawr)
Cyngor Gwynedd -   £479.95  -  ad-daliad torri gwair llwybrau cyhoeddus
 
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy - £357.00 – cynnig precept (taliad misol)
 
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan yr Is-Gadeirydd, y Cyng. Dewi Tudur Lewis a wnaeth y Cyng. John Richards gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
                  
‘Roedd yn rhaid gwneud rhai o’r taliadau uchod mewn dau daliad oherwydd uchafswm y Cyngor i dalu taliadau ar lein yw £4,000.
 
1....................................................Cadeirydd
MATERION A DRAFODWYD AR OL Y PWYLLGOR CYLLID
GOHEBIAETH 
Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2024/25 fydd £10.81 yr etholwr.  Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 441 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £4,767.21 i gyrff allanol.
 
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd ffordd yr A496 yn Nhalsarnau o bwynt ger ei gyffordd gyda’r B4573 gan deithio mewn cyfeiriad gogledd orllewinol hyd at bwynt ger y gyffordd i’r de ddwyrain o’r eiddo a adwaenir fel Drŵs y Nant, Ynys, Talsarnau. Mae angen y gwaharddiad ar sail iechyd a diogelwch i’r cyhoedd yn ystod gwaith ar ran Network Rail.
 
Oherwydd na ddim ond materion ariannol oedd yn cael eu trafod yn y cyfarfod hwn i gynnal cyfarfod arall o’r Cyngor ar y 19eg o fis nesa am 7.30 o’r gloch yn y neuadd.
 
 
ARWYDDWYD..................................................Cadeirydd
 
DYDDIAD..........................................................            2.