Chwilio

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH  20.11.23
 
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Dewi Tudur Lewis, Margaret Roberts.  
 
PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Lisa Birks (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Sian Mai Ephraim, Eifion Williams, Ann Jones, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
 
Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Sian Mai Ephraim i’w chyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunodd y gorau iddi at y dyfodol.
 
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
 
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 18ed 2023 fel rhai cywir.
 
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £7,564.59 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £12,061.52 llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 
 
Camerau CCTV
Adroddodd y Cyng. John Richards a’r Clerc bod problem wedi bod gyda anfonebau BT ag oherwydd hyn, er bod y camerau yn gweithio nid yw yn bosib trosglwyddo gwybodaeth i’r Heddlu oherwydd ydi’r hub BT ddim yn gweithio. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn llythyr gan gwmni Advantis ynglyn ag anfonebau BT. ‘Roedd y Clerc wedi ymateb i’r llythyr hwn ag wedi cynnwys y sgwrs diweddar oedd wedi cael gyda BT ynglyn ar anfonebau ag ‘roedd wedi cael ateb ganddynt yn datgan eu bod wedi cysylltu gyda BT a bod ein cyfrif wedi cael ei roi ar stop  tra mae eu cwsmer yn adolygu y wybodaeth maen’t wedi ei anfon ato. ‘Roedd y Clerc wedi cysylltu gyda BT unwaith yn rhagor yr wythnos diwethaf  a heddiw ar gobaith nawr yw bod y broblem wedi ei sortio. Cytunwyd i roi y wybodaeth bod y Cyngor wedi archebu y camerau hyn yn Llais Ardudwy.
 
Cae Chwarae y Pentre
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks bod cwmni Play Quest wedi cario allan archwiliad o’r offer chwarae yn y cae uchod ag hefyd bod y gwaith o osod “wet pour” gan gwmni Creative Play wedi ei gwblhau ddechrau’r mis hwn. Cytunwyd I dalu y ddwy anfoneb oedd ynghlwm ar materion uchod. Cytunwyd rhoid y wybodaeth bod y Cyngor wedi cario y gwaith hwn allan yn y cae chwarae yn Llais Ardudwy ag hefyd cytunwyd I drin y coed bob blwyddyn a gofyn I Mr. Meirion Griffith wneud y gwaith hyn.
 
LLinellau Melyn
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi trefnu cyfarfod gyda Swyddog o Gyngor Gwynedd I drfod y mater uchod ar y 12ed o mis nesa ag hefyd wedi gwahodd y Cyng. Dewi Tudur Lewis I’r cyfarfod.
 
Seddi Cyhoeddus
Adroddodd y Clerc ei bod wedi gofyn I Mr. Gwiion Roberts am bris I atgyweirio y seddi yn Cilfor ag ei bod wedi cael gwybod ganddo y bydd yn gwneud y gwaith hwn yn y gwanwyn. Adroddodd y Clerc bod Mr. Meirion Griffiths wedi cytuno I dynnu y sedd ger Gwyndy, Ynys a gosod yr un sydd yn y garej yn ei lle.
 
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi bod mewn trafodaethau gyda Mr. Harri Pugh ag eu bod wedi cytuno I adeiladu wal medr/medr a hanner o’r ffordd fawr. Hefyd datganodd y Cyng. Richards bod Mr. Pugh yn fodlon gwerthu y darn tir o dan sylw I’r Cyngor am £7,000 ag ar ol trafodaeth cytunwyd pawb I hyn ag hefyd cytunwyd I dalu costau cyfreithiol Mr. Pugh. Datganodd y Cyng. Gwynfor Owen bod grant PACT ar gael ag bod y posibilrwydd byddai 
 
419.................................................Cadeirydd
y Cyngor yn gallu ceisio am y grant hyn I archebu lloches bws. Cytunwyd I adael y mater hyn am y tro nes byddai pryniant y tir wedi ei gwblhau.
 
HAL
Adroddwyd bod cyfarfod wedi ei gynnal yn y neuadd bentref, Llanbedr ar yr 11eg o fis diwethaf i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL. Cafwyd wybod bod bob Cyngor wedi penderfynnu i dalu y taliad precept bob mis hyd at ddiwedd Mawrth 2024 onibai bod rhywbeth annisgwyl yn digwydd, bod pawb yn gytun bod angen gweld cynllun busnes a rhoid tan ganol mis Rhagfyr i HAL anfon hwn allan, eu bod yn dal i anfon cyfrifon rheolaidd i’r Cynghorau Cymuned a bod y Cynghorau eisiau gweld unrhyw adroddiad arolwg sydd  wedi cael eu derbyn ganddynt. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn copi o’r e-bost oedd Clerc Cyngor Cymuned Llanbedr wedi ei anfon i HAL ag ei bod wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost gan HAL ynglyn ar materion oedd wedi eu codi yn y cyfarfod yn Llanbedr ag ‘roedd wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod. Cafwyd wybod bod cyfarfod rhwng y Cynghorau a HAL yn cael ei gynnal nos Iau y 23ain o’r mis hwn a cytunodd y Cyng. John Richards ei fynychu ag hefyd ‘roedd cyfarfod arall wedi ei drefnu gan Gyngor Cymuned Llanbedr rhwng Cynghorau yr ardal ar y 18ed o fis nesa a cytunodd y Cyng. John Richards fynychu y cyfarfod hwn.
 
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – adroddodd ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. Blow o Ty Crossing Ty Gwyn ynghyd a lluniau yn dangos ysbwriel wedi oedd wedi disgyn o gerbyd casglu gwastraff ag ‘roedd wedi cysyllt gyda’r adran perthnasol yn syth ag ‘roedd yr ysbwriel dan sylw wedi cael ei gasglu yn syth. . Hefyd ’roedd wedi mynyhchu cyfarfod lle bydd yn rhaid i Gyngor Gwynedd ddod o hyd i arbedion/toriadau o £6.5 miliwn yn 2024/25 os yw chwyddiant yn aros ar 6.7%. ‘Roedd wedi cael sawl galwad yn ddiweddar ynglyn ar arwyddion oedd wedi cael eu gosod o amgylch yr ardal yn dynodi bod yr A496 ar gau wrth eglwys Dewi Sant. Er bod hyn yn cyfeirio at y ffordd yn Bermo sydd ar gau am 8 wythnos, ‘roedd wedi cysylltu hefo’r Adran Priffyrdd oherwydd bod yr arwyddion wedi cael eu lleoli mewn safle drwg ar aml I groesffordd ag ‘roedd wedi cael gwybod byddai Arolygwr yn mynd o gwmpas yr ardal ac yn gwirio lleoliadau yr arwyddion hyn a ceisio eu symud I leoliad mwy diogel I ddefnyddwyr ffyrdd os bydd angen. O’r 6ed o fis hwn ymlaen mae’r gwasanaeth bws wedi newid ag yn lle y T38 a 39 mae y bws yn cael ei ail rifo I G23 a bydd yn rhedeg bob awr o ddydd LLun I ddydd Sadwrn ar nifer o deithiau yn cynyddu o 7 I 11.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael gwybod bod Swyddogion o Gyngor Gwynedd wedi colli y papurau ynglyn ar arwydd “dim parcio” ger y cyn Gapel Soar, ei fod ef hefyd wedi mynychu cyfarfod i drafod arbedio/toriadau sydd yn gwynebu Cyngor Gwynedd ag hefyd datganodd bydd yr Awdurdod Tan y codi eu swm ar dreth y Cyngor ag hefyd ei fod wedi bod mewn cyfarfod yn Pwerdy Trawsfynydd fel rhan o’i waith fel cyfieithydd.
 
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
 
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £12,679.31 yn y cyfrif rhedegol, a £39,250.14 yn y cyfrif cadw.
 
Taliadau yn ystod y mis
B.T                                      -  £39.59  -  lein ffon camerau CCTV (11.10.23)
B.T                                      -  £39.59  -  lein ffon camerau CCTV (10.11.23)
Tree Fella                     -  £1,800.00  -  tocio coed yn mynwent Llanfihangel y Traethau
Play Quest                      -  £360.00   -  archwiliad offer cae chwarae
Mr. Meirion Griffiths    -  £225.00  – torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau 
Mr. Meirion Griffiths    -  £395.00  -  torri gwair llwybrau cyhoeddus yr ardal
Mr. Meirion Griffiths    -    £70.00  -  cyfraniad at petrol am dorri gwair cae chwarae ar maes parcio
Mr. Meirion Griffiths    -  £347.00  -  archebu “sleepers” newydd a’i gosod yn cae chwarae
Y Lleng Prydeinig           -    £40.00  -  2 dorchen pabi coch
Creative Play             - £10,308.01  -  gwaith adnewydd cae chwarae Gwynfor John
 
420.................................................Cadeirydd
 
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Eluned Williams a wnaeth y Cyng. Eifion Williams gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod. Cytunwyd I drosglwyddo swm o arian o’r cyfrif cadw I’r cyfrif rhedegol.
 
Adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Allanol am y flwyddyn ariannol 2022/23 wedi ei gwblhau ag ‘roedd yr archwiliad hon yn un llawn a bod rhai materion o bwys yn codi ac fe gafodd y materion hyn eu trafod. 
 
Awgrymodd y Clerc byddai yn well cael agenda ariannol yn unig ar gyfer cyfarfod mis Ionawr fel y gallai trafod materion ariannol yn fwy trylwyr a cytunodd pawb I hyn. Cytunwyd I gynnal cyfarfod ychwanegol o’r Cyngor yn ar y 19eg o Chwefror.
 
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale   -   £25.00  -  rhent garej Capel y Graig (Hydref)
Mr. K. Beale   -   £25.00  -  rhent garej Capel y Graig (Tachwedd)
 
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £357.00 (cyfraniad misol)
 
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod y gwaith canlynol yn mynd I gael ei gario allan yn ystod y mis nesa sef bod torri llystyfiant, gwaith draenio, gwaith walio a gosod 3 giat ceffylau yn mynd I gael ei wneud ar llwybru cyhoeddus rhif 16/23.
 
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi cael ateb ynglyn a casglu gwastraff gardd o fynwent Eglwys Llanfihangel y Traethau ag yn datgan bod hyn ddim yn broblem ond byddai rhaid i’r Cyngor dalu am y gwasanaeth hyn sef £37. Cytunwyd i wneud hyn.
 
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn ateb gan yr uchod ynglyn ag ail beintio araf wrth fynedfa Ystad Cilfor ag yn datgan bod y gwaith ar rhaglen y gweithlu a bydd y gwaith yn cael ei wneud pan fydd cyfle sych yn y tywydd. Hefyd yn datgan oherwydd natur y gwaith llinellau gwyn ar hyd ganol y ffordd ger Cei Newydd bod y gwaith hwn wedi ei anfon at gontractwr allanol pan fyddant yn yr ardal nesa.
 
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd a lluniau ynglyn a gosod arwyddion i leihau y teithio drwy bentref Maentwrog ag yn gofyn am sylwadau y Cyngor ynglyn a hyn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen at bob Aelod yn barod. Cytunwyd byddai y cynllun hwn yn un da ag hefyd eisiau gofyn iddynt wneud yn siwr bod loriau mawr ddim yn teithio ar y ffordd o Landecwyn i Faentwrog.
 
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Ty Mawr o bwynt ger y groesffordd I’r de o Eglwys Crist yn cael ei chau o’r 1af  o Ragfyr ar sail iechyd a diogelwch I’r cyhoedd yn ystod gwaith ar geblau uwchben.
 
Pwyllgor Neuadd Bentref Talsarnau
Wedi derbyn e-bost gan y pwyllgor uchod ynglyn ag adnewyddu hysbysfwrdd y pentref ag yn gofyn am fanylionyr un sydd gan Gyngor Cymuned Harlech. ‘Roedd y Clerc wedi anfon manylion yr hysbysfwrdd hwn ymlaen i’r pwyllgor yn barod. Hefyd ‘roedd y pwyllgor neuadd bentref yn gofyn a fyddai modd i’r Cyngor gyfranu tuag at archebu hysbysfwrdd o’r fath. Cytunwyd bod y Cyngor yn datgan wrth bwyllgor y neuadd eu bod yn barod i archebu yr hysbysfwrdd hyn ar ran y pwyllgor ag hefyd cytunwyd gofyn i Mr. Meirion Evans ei osod.
 
 
 
421.................................................Cadeirydd
 
 
 
UNRHYW FATER  ARALL
Cafwyd wybod bod Owain Aeron yn mynd i wneud y gwaith ffensio o amgylch mynwent Llandecwyn.
Cafwyd wybod bod y tir Rhiw Derwydd byth wedi ei dacluso. Eisiau gofyn i Mr. Meirion Griffiths wneud y gwaith.
Eisiau cysylltu a Mabon Ap Gwynfor i’w hysbysu bod pobl y Sir yn cael hi yn anodd i gael bathodyn glas gan Gyngor Gwynedd.
 
 
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd   
 
DYDDIAD......................................................                   422