Chwilio

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH  18.9.23
 
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
 
PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Margaret Roberts (Is-Gadeirydd), John Richards, Dewi Tudur Lewis, Lisa Birks, Eluned Williams, Ffion Williams, Eifion Williams, Ann Jones, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
 
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
 
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 17eg 2023 fel rhai cywir.
 
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £3,790.01 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £10,780.10 llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 
 
Camerau CCTV
Adroddodd y Cyng. John Richards a’r Clerc bod problem wedi bod gyda anfonebau BT ag oherwydd hyn, er bod y camerau yn gweithio nid yw yn bosib trosglwyddo gwybodaeth i’r Heddlu oherwydd ydi’r hub BT ddim yn gweithio. Ar ol trafodaeth cytunwyd oherwydd bod problemau gyda hyn wedi bod ers peth amser ar mater heb ei ddatrys i gysylltu gyda Mabon Ap Gwynfor a Liz Saville Roberts.
 
Cae Chwarae y Pentre
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn pris gan Creative Play o £10,308.00 I wneud y gwaith a gytunwyd yn y cae chwarae uchod ag hefyd eu bod yn bwriadu cychwyn ar y gwaith ar y 23ain o fis nesa. Adroddodd y Cyng. Lisa Birks byddai yn cysylltu gyda Creative Play I ofyn iddynt ohirio cychwyn y gwaith ag hefyd adroddodd ei bod wedi cael pris am offer I’r parc bach ag y byddai yn ei anfon ymlaen I bawb. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Play Quest yn gofyn iddynt wneud archwiliad o’r parc chwarae.
 
LLinellau Melyn
Oherwydd absenoldeb y Cyng. Gwynfor Owen nid oedd posib cael adroddiad ynglyn ar uchod.
 
Seddi Cyhoeddus
Adroddodd y Clerc ei bod wedi gofyn I Mr. Gwiion Roberts am bris I atgyweirio y seddi yn Cilfor ond nid oedd wedi derbyn ddim byd pellach ganddo. Adroddodd y Clerc bod trefniadau I dynnu y sedd ger Gwyndy, Ynys a gosod yr un sydd yn y garej yn ei lle heb gael ei drafod yn y cyfarfod diwethaf a cytunwyd gofyn I Mr. Meirion Griffith wneud y gwaith hyn.
 
Tir ger Bron Trefor
Oherwydd absenoldeb y Cyng. Gwynfor Owen nid oedd posib cael adroddiad ynglyn ar uchod.
 
HAL
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi mynychu y cyfarfod gyda HAL ar y 27ain o Orffennaf a bod cynrychiolaeth dda yna. Adroddodd y Clerc bod copi o gofnodion y cyfarfod hwn wedi cael ei anfon at bob Cyngor a datganodd bod wedi anfon rhain ymlaen i’r Aelodau yn barod. ‘Roedd hefyd wedi derbyn gwybodaeth ynglyn ar incwm a gwariant wedi cael ei dorri i lawr oedd wedi ei wneud a’i dderbyn yn mis Gorffennaf ag ‘roedd wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod ac ‘roedd hefyd wedi derbyn yr un am mis Awst a wedi anfon hwn ymlaen i bob 
 
 
416......................................................Cadeirydd
Aelod. Adroddodd y Cyng. John Richards ymhellach ei fod wedi mynychu cyfarfod yn y neuadd bentref, Llanbedr ar y 3ydd o Awst i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon cofnodion o’r cyfarfod hwn ymlaen i bob Aelod ag hefyd e-bost oedd Clerc Cyngor Llanbedr wedi ei anfon at HAL. Cafwyd wybod gan y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan HAL nos Iau y 24ain o fis diwethaf yn datgan bod cyfarfod gyda’r Cynghorau Cymuned yn cael ei gynnal mewn awr. ‘Roedd wedi anfon hwn ymlaen i gynrychiolwyr y Cyngor ag hefyd i bod Aelod. ‘Roedd hefyd wedi cael gwybod bydd cyfarfod arall gyda Chynghorau ardal Ardudwy yn cael ei gynnal yn Llanbedr ar yr 11eg o fis nesa am 7.30 o’r gloch a fel o’r blaen bod gwahoddiad i ddau Gynghorydd Cymuned fynychu y cyfarfod hwn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i dalu cyfraniad y 3 mis diwethaf sef y swm o £1,071.00 ag hefyd cafwyd wybod bod neb yn fodlon mynychu y cyfarfod fydd yn cael ei gynnal yn Llanbedr ar yr 11eg o mis nesa ond byddai y Cyng. John Richards yn mynychu y cyfarfod gyda HAL ar yr 28ain o’r mis hwn.
 
Ethol Cynghorydd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan y Swyddog Etholiadol bod ddim enwau wedi eu dderbyn ganddo ynglyn ar sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor ag felly nawr mae gan y Cyngor yr hawl I gyfethol Aelod o’r Cyngor. Cafwyd wybod gan y Clerc bod Mrs Sian Ephraim wedi cytuno dod yn Aelod o’r Cyngor a cytunwyd yn unfrydol I’w chyfethol ag I’r Clerc gysylltu ag hi a’I gwahodd I gyfarfod nesa y Cyngor.
 
Rheolau Sefydlog ag Ariannol
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi y mater hwn ar yr agenda oherwydd bod yr Archwiliwr Mewnol wedi datgan bod yn rhaid i’r Rheolau hyn gael eu adolygu yn flynyddol. Hefyd adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn copi o Reolau Sefydlog Diwygiedig gan Un Llais Cymru ag hefyd ei bod wedi ychwanegu y datganiadau a oedd mewn coch yn y Rheolau Ariannol. Cytunwyd i fabwysiadu y Rheolau Sefydlog Diwygiedig ag hefyd mabwysiadu yr ychwanegiad oedd wedi eu cynnwys yn y Rheolau Ariannol o dan y penawd talu cyfrifon sef - Yn benodol, dylai trefniadau gynnwys gwahannu dyletswyddau yn y broses o gymeradwyo, prosesu ac awdurdodi taliadau ar lein. Yn benodol, dylai’r Cyngor sicrhau bod dau unigolyn yn ymwneud â phrosesu’r taliad; byddai un unigolyn yn prosesu’r taliad, a byddai’r unigolyn/ion arall yn cymeradwyo’r taliad.
 
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Ei bod wedi derbyn e-boat gan Angela Swann ynghyd a manylion Ymddiriedolaeth Goffa Guy Howland Jackson at sylw yr ardal hon ag yn gofyn os oedd rhywun yn gwybod am unrhyw un a fyddai yn gallu cael help o’r Ymddiriedolaeth hon I gysylltu a hi. Mae yr Ymddiriedolaeth hon yn gallu rhoi cymorth gyda grant bychan os ydych yn byw yn ardal Llan Ffestiniog, Maentwrog a Gellilydan,Trawsfynydd a Bronaber, neu Talsarnau a Llandecwyn. ‘Roedd gwair ochor y ffordd o Maes y Neuadd draw am Landecwyn wedi ei dorri yn syth ar ol iddi gysylltu ar Adran Priffyrdd ar ol y cyfarfod diwethaf.
 
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
 
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £46,467.89 yn y cyfrif rhedegol, a £9,211.91 yn y cyfrif cadw.
 
Taliadau yn ystod y mis
B.T                                      -  £39.59  -  lein ffon camerau CCTV (11.8.23)
B.T                                      -  £39.59  -  lein ffon camerau CCTV (11.9.23)
Mr. Meirion Griffiths    -  £420.00  – torri gwair mynwent Llanfihangel y Traethau a Llandecwyn
Mr. Meirion Griffiths    -  £200.00  -  cynnal a chadw Gardd y Rhiw
Cyngor Gwynedd          -  £282.00  -  archwiliad mewnol 2022/23
Mrs Annwen Hughes - £1,438.40  -  cyflog 6 mis (£850) a costau 6 mis (£588.40) = £1,438.40
Cyllid a Thollad              -  £105.00  -  treth ar gyflog y Clerc
 
 
 
417......................................................Cadeirydd
 
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cadeirydd, y Cyng. Owen Lloyd Roberts a wnaeth y Cyng. Lisa Birks gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod. Cytunwyd I drosglwyddo swm o arian o’r cyfrif cyfredol I’r cyfrif cadw.
 
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale          -          £25.00  -  rhent garej Capel y Graig (Awst)
Ms Winifred Davies   -  £236.00 –  claddu llwch y diweddar Mrs Dilys Davies
Cyngor Gwynedd  - £11,000.00  -  hanner y precept
Pritchard a Griffiths   - £236.00  -  claddu llwch y diweddar Mr. Ieuan James Williams
Mr. K. Beale            -        £25.00  -  rhent garej Capel y Graig (Medi)
 
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,071.00 (cyfraniad 3 mis)
 
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi cael llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Ben y Glyn I’r gorllewin I Bont y Glyn, Eisingrug ar gau ar y 27ain o Hydref oherwydd bod gwaith adfer polyn a gweithgareddau ceblau ar ran BT Openreach yn cael ei gario allan.
 
UNRHYW FATER  ARALL
Datganwyd pryder bod yr arwyddion sydd ar ochor y ffordd yn Llandecwyn dal ormod allan i’r ffordd a cytunwyd gofyn a fyddai yn nawr posib symud y goleuadau traffic nesa at y mynedfa a byddai hyn yn golygu byddai’n bosib tynnu rhai o’r arwyddion hyn, yn enwedig y rhai mwy peryg.
Eisiau edrych os byddai yn bosib ymestyn y maes parcio lawr ffordd stesion a cytunodd y Cyng. Dewi Tudur Lewis gael golwg ar y safle. Hefyd cytunwyd bod angen tocio y coed yn y maes parcio
Eisiau gofyn i’r Adran Priffyrdd a fyddai modd symund yr arwyddion 30 m.y.a i’r pendraw ger Tyrpac.
Datganwyd pryder bod y gwaith o ail beintio “araf/slow” bydd wedi cael ei wneud ar groesffordd Cilfor.
Cytunwyd gofyn i Owain Aeron am bris i neud y ffens o amgylch mynwent Llandecwyn a cytunodd y Cyng. John Richards gysylltu ag ef.
Cafwyd wybod bod yr arwydd llwybr cyhoeddus wrth ymyl Penybryn angen ei adnewyddu.
Cafwyd wybod bod yr arwydd llwybr cyhoeddus ger Gwndwn wedi cael ei droi rownd i atal neb rhag defnyddio y llwybr.
Datganwyd bod lloches bws Glan y Wern angen sylw.
Cafwyd wybod bod Treefella yn mynd i gario allan gwaith ar y coed yn mynwent Llanfihangel y Traethau.
Datganwyd pryder bod y llinellau gwyn ger Cei Newydd byth wedi cael eu ail beintio.
Eisiau cysylltu gyda Chyngor Gwynedd i ofyn a fyddai’n bosib iddynt wagio y biniau yn mynwent Llanfihangel y Traethau.
 
 
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd   
 
DYDDIAD......................................................                   418.