COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH 15.5.23
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Margaret Roberts (Is-Gadeirydd), Dewi Tudur Lewis,
PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), John Richards, Lisa Birks, Eluned Williams, Ffion Williams, Gwenda Griffith, Eifion Williams, Ann Jones, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 20ed 2023 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2023/24:-
Cadeirydd:- Cyng. Owen Lloyd Roberts
Is-Gadeirydd:- Cyng. Lisa Birks
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan y Cyng. Margaret Roberts yr Is-Gadeirydd yn datgan ei bod ddim isio cael ei ethol yn Gadeirydd na bod yn Is-Gadeirydd a byddai yn well ganddi os byddai rhywun arall yn ymgymeryd ar swydd.
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £25,954.34 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol diwethaf i fyny at 31ain o Fawrth 2023 a bod hyn yn £15,283.08 llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Rhannodd y Clerc gopïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2023/24 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.
Camerau CCTV
Adroddodd y Cyng. John Richards ar Clerc bod y gwaith o gael yr offer yn Llandecwyn yn fyw wedi cael ei gwblhau o’r diwedd gan BT. Cytunwyd i dal y gweddill oedd i fod i Mr. Kevin Jones am y gwaith o osod y camerau heblaw am £500 oedd yn cael ei gadw’n nol nes fyddai y gwaith i gyd wedi cael ei gwblhau. Cytunwyd bod angen i’r Cyngor gael gweld y camerau hyn yn gweithio a penderfynwyd trefnu bod PCSO Paula Stewart neu Elliw Williams yn dod i gyfarfod nesa y Cyngor am 7.00 o’r gloch.
Cae Chwarae y Pentre
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks bod ddim byd pellach I’w adrodd ynglyn ar uchod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.
LLinellau Melyn
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod ddim byd pellach I’w adrodd ynglyn ar uchod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.
Seddi Cyhoeddus
Oherwydd absenoldeb y Cyng. Margaret Roberts nid oedd yn bosib cael diweddariad ynglyn ar uchod.
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi cael sgwrs hefo Mr. Harri Pugh ag yn addo y bydd wedi cael barn cyfreithiol ar y mater uchod erbyn cyfarfod nesa y Cyngor. Cafwyd wybod bod Cyngor Gwynedd heb gytuno i arianu y cynllun uchod ond bod yn gyfrifol am y gwaith papur.
410.................................................Cadeirydd
HAL
Adroddwyd bod cyfarfod wedi gael ei gynnal rhwng aelodau o Fwrdd yr uchod a cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned yr ardal ar y 27ain o fis diwethaf. ‘Roedd y Cyng. John Richards, Eluned Williams a Lisa Birks wedi mynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor ynghyd ar Cyng. Annwen Hughes ac adroddwyd ei fod wedi bod yn gyfarfod buddiol iawn a bod Aelodau o’r chwech Cyngor i gyd yn gytun hefo sut fydd angen cario ymlaen. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd ynghyd a chopiau o gyfrifon elw y cholled y ganolfan am y 4 mis diwethaf, enwau rhai maen’t yn gobeithio fydd yn ymuno ar Bwrdd yn fuan ag hefyd chopi drafft o’r cynllun busnes. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Cytunwyd yn unfrydol ar ol trafodaeth i dalu cyfraniad y Cyngor am y 6 mis nesa bob mis yn lle yn un taliad.
Adroddiad Blynyddol
Adroddodd y Clerc ei bod hi yn ofynol bellach bod y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn ariannol sydd wedi bod ag felly I’r perwyl hyn mae hi wedi anfon copi o’r Adroddiad ‘rwyf wedi ei baratoi ar gyfer y Cyngor i bob Aelod er mwyn iddynt gael rhoi sylwadau arni os bydd angen. Cytunwyd pawl bod yr uchod yn dderbyniol.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cysylltu gyda’r Tim Tacluso Ardal yn gofyn iddynt lanhau yr arwyddion yn yr ardal a cario allan gwaith tacluso cyffredinol. Hefyd ei bod wedi cael gwybod yn dilyn ymweliad aelodau o’r grwp POBL o Llanbedr a’r Dirprwy Weinidog dros newid hinsawdd Lee Waters yn Gaerdydd ar y 26ain o fis diwethaf ei fod wedi cytuno cyflwyno pecyn teithio (transport) ar gyfer y pentref a fydd yn cynnwys ffordd osgoi cyflymder isel ynghyd a datblygu palmentydd, maes parcio a chamau eraill.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi derbyn cwynion bod tyllau yn y ffordd, ag ei fod wedi cael gwybod bod rhai pobl sydd yn byw mewn tlodi yn yr ardal ddim yn hawlio yr hyn sydd yn ddyledus iddynt a bod cymorth cartref yn cael ei redeg gan gwmni preifat yn lle Cyngor Gwynedd.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Caniatâd Adeilad Rhestredig i frwsio, tynnu gorchuddion gwyn asbestos ac ail-orchuddio adeilad fferm modern mewn llarwydd o darddiad lleol gyda tho dalennau dur ac i lefelu’r llawr gyda phas concrit, gan ddefnyddio ffrâm ac ôl troed presennol y sgubor - Llenyrch, Llandecwyn, Talsarnau (NP5/77/LB330)
Adroddodd y Clerc mae heddiw oedd wedi derbyn y cais cynllunio uchod ag felly byddai yn anfon ymlaen i’r Aelodau yfory er mwyn iddynt roi sylwadau arni.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £38,641.36 yn y cyfrif rhedegol, a £9,180.99 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
B.T - £33.54 - lein ffon camerau CCTV (11.4.23)
B.T - £39.59 - lein ffon camerau CCTV (11.5.23)
E. W. Owen & Co - £216.00 - cwblhau ag anfon PAYE y Clerc ar lein
Un Llais Cymru - £132.00 – tal aelodaeth
BHIB Insurance Ltd - £680.11 - insiwrans y Cyngor
Mr. Meirion Griffith - £200.00 - cynnal a chadw Gardd y Rhiw
Archwiliad Cymru - £305.00 - cwblhau archwiliad allanol 2020/21
Llais Ardudwy - £20.00 - hysbyseb torri gwair
Mr. Kevin Jones - £500.00 - gosod camerau CCTV
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Ebrill)
Cyngor Gwynedd - £11,000.00 – hanner y precept
Mr. K. Beale - £25.00 - rhent garej Capel y Graig (Mai)
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £357.00 (cyfraniad misol)
411......................................................Cadeirydd
Rhannodd y Trysorydd gopïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2023 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc ynghyd ar Ffurflen Flynyddol.
GOHEBIAETH
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod yr Awdurdod yn dechrau adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol 2016-2031 yn swyddogol ag yn gofyn a oes gan rhywun ddiddordeb i fynychu gweminar dros zoom gyda Swyddogion y Tim Polisi nos Iau Mehefin yr 8ed am 7.30 o’r gloch. Cytunodd y Cyng. John Richards fynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor os bydd yn gallu.
Cwmni Egnio
Wedi cael copi o adroddiad diweddaraf y Cwnni uchod ac adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod.
Grid Cenedlaethol
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu yr Aelodau bod cyfarfod nesaf y Grwp Cyswllt Cymunedol yn cael ei gynnal yn y Neuadd yma yn Talsarnau ar yr 21ain o Fehefin am 6.00 o’r gloch ag angen gwybod pwy fydd yn bresennol o’r Cyngor hwn. Cafwyd wybod gan y Cyng. John Richards a Lisa Birks eu bod yn mynd i fynychu y cyfarfod hwn.
UNRHYW FATER ARALL
Cytunwyd i gynnal cyfarfod mynwentydd blynyddol ar y 5ed o Orffennaf am 7.00 o’r gloch.
Datganwyd pryder bod yr arwyddion 20 m.y.a newydd yn rhy agos at yr ysgol.
Datganwyd pryder bod yr eithin ar hyd ochor y ffordd o groesffordd Llandecwyn lawr am Bont Briwet byth wedi cael ei dorri.
Datganwyd pryder bod arwydd llwybr cyhoeddus wedi cael ei dynnu ger Trem y Garth a’r llwybr wedi cael ei gau. Cytunodd y Cyng. John Richards ddelio gyda’r mater hwn.
Datganodd y Cyng. Gwenda Griffith ei bod yn ymddiswyddo fel Aelod o’r Cyngor a diolchodd y Cadeirydd iddi ar ran y Cyngor am ei holl waith diflino i’r Cyngor dros y blynyddoedd. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Swyddfa Etholaeth yn Gaernarfon yn eu hysbysu bod sedd wag yn bodoli ar y Cyngor.
Cafwyd wybod bod darn o lwybr cyhoeddus y wern angen sylw.
Datganwyd pryder bod y llwybr ger Llyn Tecwyn Uchaf byth wedi cael ei drwsio ag os na fyddai y gwaith hyn yn cael ei wneud ni fyddai yn bosib cynnal Ras Llandecwyn ar y 27ain o fis nesa.
Datganwyd pryder bod y llinellau gwyn ar ganol y ffordd ger Cei Newydd byth wedi cael eu ail beintio.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 412.