Chwilio

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH  20.3.23
 
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Ann Jones,  
 
PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Margaret Roberts (Is-Gadeirydd), John Richards, Lisa Birks, Eluned Williams, Ffion Williams, Gwenda Griffith, Eifion Williams, Dewi Tudur Lewis, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
 
Cyn cychwyn ar gyfarfod cyffredinol y Cyngor cytunwyd i drafod yr hyn oedd wedi cael ei ddweud yn y cyfarfod cyhoeddus oedd y Clerc wedi ei drefnu ar ran y Cyngor gyda Aelodau o Fwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy. Bu trafodaeth ynglyn a ddylai’r Cyngor gario ymlaen gyda’r cynllun precept i gyfranu swm penodol o arian i’r ganolfan hon yn benodol tuag at gynnal a rhedeg y pwll nofio ar taliad eleni am y flwyddyn fyddai £4,412.22. Cytunwyd i dalu hanner y swm hwn yn unig er mwyn i’r Bwrdd gael amser i dderbyn y grant £100k ‘roeddynt wedi rhoid cais i mewn am ag hefyd i gael amser i weld a oeddynt wedi bod yn llwyddianus i gael paneli solar. Cytunwyd bod eisiau datgan byddai’r Cyngor angen gweld yr amodau canlynol yn eu lle cyn y byddant yn barod i dalu yr hanner arall o’r arian, sef y canlynol 1) Cael mwy o aelodau ar y Bwrdd a rhai hefo arbennigedd mewn meusydd penodol, 2) Bod cynllun busnes yn cael ei greu, 3) Bod y Cyngor yn cael adroddiad misol ynghyd a mantolen ariannol gan y Bwrdd a 4) Bod y Cyngor yn gallu penodi un Aelod i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd.
 
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
 
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 16eg 2023 fel rhai cywir.
 
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £16,249.80 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £19,177.62 llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 
 
Camerau CCTV
Adroddodd y Cyng. John Richards ar Clerc bod y gwaith o gael yr offer yn Llandecwyn yn fyw byth wedi cael ei gwblhau oherwydd problemau yn dal hefo BT a bod y gwaith hwn i fod i gael ei gwblhau ar yr 28ain o’r mis hwn. Cytunwyd i dal y gweddill oedd i fod i Mr. Kevin Jones am y gwaith o osod y camerau heblaw am £500 oedd yn cael ei gadw’n nol nes fyddai y gwaith i gyd wedi cael ei gwblhau.
 
Cae Chwarae y Pentre
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks ei bod wedi cael cwmni Creative Play I ymweld ar safle uchod I gario archwiliad allan ag y byddai yn anfon yr adroddiad ymlaen I bawb. ‘Roedd y cwmni hwn yn awgrymu tynnu y darnau rwber a gosod llawr rwber caled o dan y gadair siglen a chytunodd pawb I hyn.
 
LLinellau Melyn
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu ymhellach a Chyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod a bod Swyddog wedi anfon cynllun iddi yn gofyn a diddymu’r llinellau melyn dwbl presennol a gosod mannau parcio y neu lle a chynnig llinellau melyn newydd ar weddill y ffordd oedd hyn beth oedd y Cyngor eisiau ag ei bod wedi anfon hwn ymlaen I’r Cyng. Dewi Tudur Lewis yn gofyn am ei farn. ‘Roedd wedi ymateb ag yn datgan bod y cynllun hwn yn iawn. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon y wybodaeth hyn ymlaen I Gyngor Gwynedd ag ei bod wedi derbyn copi o lythyr a fydd yn ymddangos yn y papurau ynglyn a hyn a bod gan rhai tan yr 31ain o’r mis hwn I anfon sylwadau I mewn. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael amryw o wrthwynebiadau I’r cynllun hwn a bod ef hefyd wedi anfon gwrthwynebiad I mewn ag ei fod wedi awgrymu cael cyfarfod ar y safle a cytunodd pawb I hyn ag hefyd bod y Cyng. Dewi Tudur Lewis yn cynrychioli y Cyngor yn y cyfarfod hwn.
 
 
407............................................Cadeirydd
Seddi Cyhoeddus
Adroddodd y Cyng. Margaret Roberts ei fod wedi cychwyn mynd o amgylch y seddi cyhoeddus ag ei bod wedi bod yn tynnu lluniau.
 
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi derbyn cynllun o’r uchod ag ei fod wedi ei basio ymlaen i Mr. a Mrs Harri Pugh a bod hwy yn mynd i gael barn cyfreithiol ar y mater.
 
Agor Tenderau Torri Gwair
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn un tender  ynglyn a cario allan y gwaith uchod gan Mr. Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau am £14.00 yr awr i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a un am £14.00 yr awr i dorri gwair mynwentydd Llanfihangel y Traethau a Llandecwyn. Cytunwyd i dderbyn tender Mr. Meirion Griffith.
 
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi cael gwybod bod hwb wedi cael ei sefydlu ar gyfer y Timau Tacluso sydd wedi ei leoli o fewn y Porth Aelodau a bod hwn nawr yn fyw. Bydd yr hwb hwn yn ein galluogi i greu cais am waith, gael mynediad at raglen waith/cylchdeithiau’r Timau, derbyn manylion ynglyn a chynnydd/gwaith y Timau a cyflwyno adborth ar waith y Timau. Dod o hyd i arbedion effeithlonrwydd o £11 miliwn oedd y flaenoriaeth mewn pryd ar gyfer y gyllideb ar yr 2il o Fawrth. Fe nodir bod £2 miliwn yn cael ei dynnu allan o gronfeydd wrth gefn i leihau'r cynnydd yn y dreth gyngor. Cytunwyd yn derfynol mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor a gynhaliwyd ar yr 2il o Fawrth ar gynnydd treth cyngor o 4.95% sy'n golygu cynnydd wythnosol i eiddo Band D o £1.45 yr wythnos neu £76 y flwyddyn.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod ddim yn hapus bod y gwaith ar y llwybr cyhoeddus lawr Ffordd y Stesion heb gael ei gwblhau er bod Cyngor Gwynedd yn dweud ei fod yn iawn. Gofynodd lle fyddai yr Aelodau, heblaw am y stryd fawr eisiau gweld 20 m.y.a yn cael ei osod ag awgrymwyd yn Llandecwyn ar Ynys.
 
CEISIADAU CYNLLUNIO
Adeiladu tŷ fforddiadwy, creu cwrtil, ymestyn trac mynediad, a newidiadau i’r fynedfa cerbydau presennol - 
Tir ger Tŷ Mawr, Talsarnau (NP5/77/347)
Cefnogi y cais hwn ar yr amod y bydd yn gartref i rhywun lleol, i'w brynu neu i'w osod ar gyfer pobol lleol
 
Caniatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer ail-doi arfaethedig o Gapel Soar (Rhestredig Gradd II) ynghyd ag adeiladu storfa coed fel rhan o fesurau lliniaru ecolegol - Capel Soar, Soar (NP5/77/LB65B)
Cefnogi y cais hwn.
 
Caniatâd Adeilad Rhestredig i newid y tulathau to diffygiol ar adeilad iard - Glyn Cywarch, Talsarnau (NP5/77/LB230B)
Cefnogi y cais hwn.
 
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £37,340.44 yn y cyfrif rhedegol, a £4,165.26 yn y cyfrif cadw.
 
Taliadau yn ystod y mis
B.T                                      - £14.16  -  lein ffon camerau CCTV (10.2.23)
B.T                                     -  £33.54  -  lein ffon camerau CCTV (13.3.23)
Cyllid a Thollad               - £100.00 –  treth cyflog y Clerc
Mrs Annwen Hughes - £1,398.00 –  cyflog a chostau 6 mis
Mr. M. J. Kerr                   - £90.00  -  agor bedd y diweddar Mr. Lenard Brittland Horne (llwch)
Pwyllgor Neuadd          -  £180.00  -  llogi ystafell bwyllgor am 2 flynedd
Mr. Meirion Griffith   -    £200.00 -   cynnal a chadw Gardd y Rhiw
Mr. Kevin Jones          - £1,475.00 -   gosod camerau CCTV
 
 
 
 
408............................................Cadeirydd
 
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale             -     £25.00  - rhent garej Capel y Graig (Chwefror)
Pritchard a Griffiths - £223.00 – claddu y diweddar Mr. Lenard Brittland Horne (llwch)
Mr. K. Beale               -   £25.00  - rhent garej Capel y Graig (Mawrth)
 
Ceisiadau am gymorth ariannol
Pwyllgor Neuadd Bentref                -  £1,500.00
Pwyllgor Cylch Meithrin Talsarnau - £1,500.00
Ysgol Ardudwy                    -                 £1,000.00
Ysgol Hafod Lon                  -         £1,000.00 
Ambiwlans Awyr Cymru    -                 £1,000.00
CFFI Meirionnydd               -                    £200.00                
 
Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i hyn.
 
Adroddodd y Trysorydd bod yr arian o gyfrif Morris Hughes for Poor bellach wedi cael ei drosglwyddo i gyfrif Eglwys Efengylaidd Ardudwy a bod y cyfrif bellach wedi cael ei gau. Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi cwblhau y ffurflenni perthnasol ag ei bod wedi cael gwybod bod yr elusen hon wedi cael ei thynnu o’r gofrestr elusenau er y 13eg o fis diwethaf.
 
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
Wedi derbyn ateb gan yr uchod ynglyn a materion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ag yn nodi os yw y Cyngor eisiau biniau halen newydd bod rhain ar gael am gost o £400 yr un i’r Cyngor Cymuned ag os bydd y Cyngor yn cytuno i dalu y swm hwn bydd Swyddog o’r Adran yn mynd allan i’r safle wedyn i sicrhau fod y lleoliadau yn addas. Cafwyd wybod bod yr Arolygwr Priffyrdd yn mynd i ymweld ar lleoliadau lle oedd dwr yn sefyll ar y ffordd sef groesffordd am Cefn Gwyn ag hefyd ger Stabl Mail ag yn trefnu gwaith maes  o law, bydd yr Arolygwr Priffyrdd yn trefnu bod y peiriant ysgubo ffordd yn mynd i fyny i lanhau ochrau ffyrdd o ystad Bryn Eithin ag hefyd y ffordd i fyny am Soar. ‘Roedd y twll yn y ffordd ger Bryn Golau, Soar wedi cael ei lenwi ag hefyd erbyn hyn mae y twll yng nghilfan Glan y Wern wedi ei lenwi. Cytunwyd i archebu dwy bin halen a’i gosod ar y tro uwchben ystad Bryn Eithin ag wrth Capel Soar.
 
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn a pwyntiau gwefru i gerbydau trydan ag yn gofyn os byddai cyfle i ddenu arian grant yn y dyfodol ar gyfer cyflwyno rhagor o bwyntiau gwefru ar lecynnau tir sydd o dan cyfrifoldeb y Cyngor Cymuned neu y gymuned leol byddant yn hynod ddiolchgar os fyddai y Cyngor Cymuned yn gallu enwebu rhain. Cytunwyd bod ddim lle addas i’w gael.
 
Ysgol Ardudwy
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gymorth ariannol tuag at uwchraddio y cwrt tenis presennol sydd yn yr ysgol trwy osod ffens newydd o’i amglych a datblygu cae aml bwrpas yna. Cytunwyd i gyfranu £1,000 tuag at y gwaith hwn.
 
Ms Rachel Heal
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod sydd yn riant i blentyn sydd yn mynychu Ysgol Hafod Lon yn gofyn a fyddai y Cyngor yn fodlon rhoid cyfraniad ariannol tuag at archebu beic arbennig i blant yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth. Cytunwyd i gyfranu £1,000 tuag at archebu beic.
 
UNRHYW FATER  ARALL
Datganwyd siom bod yr arwydd “dim parcio dros nos” byth wedi cael ei osod ger Capel Soar.
Diolchodd y Cyng. Dewi Tudur Lewis i’r Cyngor am eu cyfraniad i’r Capel Newydd tuag at eu cynllun Croeso Cynnes.
 
 
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd   
DYDDIAD......................................................                   409.