Chwilio

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH  16.01.23
 
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd). 
 
PRESENNOL
Cyng. Margaret Roberts (Is-Gadeirydd), John Richards, Lisa Birks, Eluned Williams, Ffion Williams, Ann Jones,  Gwenda Griffith, Eifion Williams, Dewi Tudur Lewis, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
 
Yn absenoldeb y Cadeirydd cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd ag ar ran y Cyngor dymunodd yr Is-Gadeirydd wellhad buan i’r Cadeirydd.
 
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
 
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 21ain 2022 fel rhai cywir.
 
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2022 ers dechrau Ebrill 2022 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol.  Adroddwyd bod £15,163.56 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £17,640.86 llai o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.
 
Cyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2023/24
Dosbarthodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2022 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Fe gafwyd trafodaeth ynlgyn ar mater uchod a penderfynwyd fod amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa - insiwrant y Cyngor £800, cyflog y Clerc £2,000, costau y Clerc £1,500, costau swyddfa £400, treth ar gyflog y Clerc £400, Cyfrifydd y Clerc £204, cyfraniadau £2,500, Hamdden Harlech ac Ardudwy £4,412.22, pwyllgor neuadd bentref £1,500,  pwyllgor Cylch Meithrin £1.500, costau fynwent £2,000, torri gwair y mynwentydd £2,000, torri gwair y llwybrau £1,200, cynnal a chadw Gardd y Rhiw £400, biniau halen £1,000, meinciau £1,000,Un Llais Cymru £150, llogi ystafell bwyllgor £150, archwilwyr £650, amrywiol £1,000, camerau CCTV £5,000, cynnal a chadw cae chwarae £5,000, costau banc £150. Cytunwyd i dynnu allan y £10,000 i ddatblygu y maes parcio yn Cilfor a rhoi £5,000 yn y gyllideb ar gyfer y camerau CCTV a rhoi y £5,000 yn y cyfrif cadw.
 
Precept y Cyngor am 2023/24
Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod.  Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y precept  ar £22,000.
 
Polisi Asesiad Risg y Cyngor
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arno ei drafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisi hwn. Cytunwyd i roi seddi cyhoeddus ar agenda mis Mawrth.
 
Effeithiolrwydd Rheola Mewnol
Trafodwyd yr uchod yn fanwl eto eleni a penderfynwyd bod y drefn bresennol yn foddhaol lle mae y Trysorydd yn rhoi adroddiad ariannol ynghyd a chopi o gysoni banc y Cyngor i’r Aelodau bob mis ag hefyd yn cofnodi y taliadau ar derbyniadau sydd yn cael eu gwneud ynghyd ar sefyllfa ariannol bob mis.
 
 
404…………………………………………….Cadeirydd
 
 
Panel Cyfrifiad Annibynnol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni  a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau.
 
Camerau CCTV
Adroddodd y Cyng. John Richards ar Clerc bod y gwaith o gael y yr offer yn Llandecwyn yn fyw byth wedi cael ei gwblhau oherwydd problemau hefo BT. Adroddwyd bod peiriannwyr Openreach wedi bod ar y safle bedair gwaith a bod y broblem o gysylltu y wifren fibr byth wedi ei wneud ganddynt. Cytunodd y Cyng. John Richards a Lisa Birks wneud ymholiadau ynglyn ar mater hwn a cytunwyd bod y Clerc yn anfon rhif archebu y gwaith i’r Cyng. Birks.
 
Cae Chwarae y Pentre
Adroddodd y Cyng. Lisa Birks ei bod wedi gwneud ymholiadau hefo’r Grid Cenedlaethol ynglyn a chael grantiau ag ei bod wedi cael ateb yn datgan eu bod yn barod I rhoi grantiau I ddatblygu y safle ar yr amod bod ddim cysylltiad gyda’r Cyngor Cymuned. Oherwydd yr amod hyn cytunwyd I chwilio am grantiau o ffynonellau eraill a peidio gwneud cais I’r Grid Cenedlaethol. Cytunwyd bod angen trwsio o dan yr offer cyn gynted a phosib.
 
LLinellau Melyn
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu ymhellach a Chyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod a bod Swyddog wedi anfon cynllun diwigiedig iddi gyda dau opsiwn arno ag ei bod wedi anfon hwn ymlaen I’r Aelodau yn gofyn am eu barn o pryn opsiwn fyddai orau. ‘Roedd rhai wedi ymateb ag yn datgan mae opsiwn 2 fyddai orau. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon y wybodaeth hyn ymlaen I Gyngor Gwynedd ag ei bod wedi derbyn ateb yn datgan eu bod yn gwneud y trefniadau arferol gyda’r mater yma. 
 
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi siarad a Mr. a Mrs Harri Pugh ynglyn ar mater uchod ond eu bod angen gwybod yn iawn faint o dir oedd ei angen a bod ddim mwy o wybodaeth ar gael ynglyn ar mater hwn.
 
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi wedi derbyn sawl cwyn bod y biniau halen o gwmpas yr ardal wedi cael eu gwagio ag ‘roedd wedi cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i ofyn iddynt ail lenwi y biniau halen yn dilyn y tywydd oer diweddar a bod wedi cael gwybodaeth bod rhai biniau yn yr ardal heb gael eu llenwi ag ei bod wedi cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd yn syth a bydd y gwaith hyn wedi ei gwblhau yr wythnos hon. Datganwyd pryder gan yr Aelodau bod rhai pobl lleol yn dwyn halen o rhai lleoliadau ag hefyd gofynnwyd i’r Cyng. Hughes a fyddai yn cysylltu gyda Chyngor Gwynedd yn gofyn a fyddai modd cael bin halen wedi ei gosod ger Capel Soar ag wrth y tro uwchben ystad dai Bryn Eithin. Hefyd cafwyd wybod bod Swyddog o’r Tim Tacluso Ardal wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn a fyddai modd iddi adael iddo wybod lle sydd angen sylw yn y pentref ag ei bod yn barod wedi gofyn iddynt lanhau y ffordd o Bont y Glyn i fyny am Eisingrug.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod ymgynghoriad ynglyn a chyflwyno cyflymder 20 m.y.a yn cael ei gynnal a cytunwyd bod angen dod ar cyflymder drwy’r pentre i lawr i 20 m.y.a, hefyd adroddodd ei fod wedi cwyno bod yr eithin ar hyd ochor y ffordd i lawr am Bont Briwet byth wedi cael ei dorri ag hefyd ei fod yn mynd i gysylltu gyda’r Swyddog sydd yn gyfrifol am finiau baw cwn i ofyn iddo osod un ger orsaf dren Llandecwyn. Cafwyd wybod ganddo ei fod wedi ymweld ar Capel Newydd yn dilyn eu agoriad fel lleoliad croeso cynnes.
 
CEISIADAU CYNLLUNIO
Adeiladu estyniad unllawr cegin/ystafell fwyta i ochr/cefn y bwthyn - Cynefin, Llandecwyn (NP5/77/115J)
Cefnogi y cais hwn.
 
Cais ôl-weithredol am estyniad unllawr yn cynnwys rhodfa wydrog a chanopi yn y cwrt cefn - Caerffynnon Hall, Talsarnau (NP5/77/311)
Cefnogi y cais hwn.
 
 
405.....................................................Cadeirydd
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £41,845.60 yn y cyfrif rhedegol, a £4,165.26 yn y cyfrif cadw.
 
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad               - £100.00 – treth cyflog y Clerc
G. D. Roberts a’i Fab    -   £500.00 -  agor bedd y diweddar Mrs Doreen Jones
 
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale                    -    £25.00  - rhent garej Capel y Graig (Rhagfyr)
Mr. K. Beale               -         £25.00  - rhent garej Capel y Graig (Ionawr)
Cyngor Gwynedd            - £479.95 – ad-daliad am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus
Morris Hughes for Poor - £452.08 – trosglwyddo’r arian o’r cyfrif hwn a’i gau.
 
Adroddodd y Trysorydd bod yr arian o gyfrif Morris Hughes for Poor wedi cael ei drosglwyddo i gyfrif y Cyngor oherwydd bod ddim defnydd yn cael ei wneud o’r cyfrif hwn ers blynyddoedd lawer a bod y Cyngor wedi penderfynnu i gau y cyfrif. Cytunwyd i drosglwyddo yr arian oedd y Cyngor wedi ei dderbyn o’r cyfrif hwn i Eglwys Efengylaidd Ardudwy er mwyn helpu gyda’i cynllun croeso cynnes.
 
Adroddodd y Trysorydd bod y Cyngor wedi dan wario £17,640.86 ers cychwyn y flwyddyn ariannol hon hyd at y 31ain o Ragfyr 2022 ag ei bod yn rhagweld byddai £41,010.86 yn cael ei gario drosodd ar y 31ain o Fawrth 2023. Rhaid cofio hefyd bydd o leiaf £5,936.00 o wariant angen ei wneud erbyn diwedd Mawrth 2022 a ddim ond £931 i ddod i mewn (ar hyn o byrd), ag byddai gan y Cyngor wariant sylweddol i’w wneud yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf 2023/24 oherwydd bod £4,412.22 wedi cael ei glustnodi ar gyfer Hamdden Harlech ac Ardudwy heb gynnwys ddim gwariant arall fyddai y Cyngor yn ei wneud. Felly wrth gofio y byddai hwyrach £41,010.86 yn cael ei gario drosodd a bod y precept  yn aros ar £22,000 (£41,010.86 + £22,000 = £63,010.86 - £5,630.00 = £57,010.86) hwyrach bydd y Cyngor yn iawn gyda’i gwariant am y flwyddyn ariannol 2023/24.  Bydd yr Aelodau yn gallu gweld y rhagolygon ariannol am y flwyddyn i ddod yn well diwedd Mawrth 2023. 
 
GOHEBIAETH
Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2023/24 fydd £9.93 yr etholwr.  Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 441 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £4,379.13 i gyrff allanol.
 
Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod y ffordd rhwng Meas Gwndwn a Pengelli yn Soar yn cau ar y 3ydd o Chwefror oherwydd bod angen adnewyddu polyn diffygiol a cheblau ar ran Openreach. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon y llythyr hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod.
 
UNRHYW FATER  ARALL
Datganwyd pryder bod dwr yn sefyll ar y ffordd ger y groesffordd am Cefn Gwyn ag hefyd ger Stabl Mail a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd ynglyn a hyn.
Cafwyd wybod bod taith gerdded yn cael ei chynnal rhyw dro rhwng Mehefin a Gorffennaf a bod y trefnwyr yn gofyn am ganiatad i ddefnyddio maes parcio y pentre os bydd angen. Cytunwyd i hyn gael ei wneud.
Eisiau gofyn i’r lori glanhau ochrau ffyrdd fynd i fyny y ffordd o ystad Bryn Eithin ag hefyd i fyny y ffordd am Soar.
Cafwyd wybod bod y goleuadau traffic oedd wedi cael eu gosod yn y pentre yn ddiweddar ddim yn gweithio dydd Iau diwethaf a bod hyn yn creu sefyllfa reit beryg.
Cafwyd wybod bod twll yn y ffordd ger Bryn Golau, Soar unwaith eto.
Cytunwyd i gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda HAL  i drigolion Talsarnau am 6.30 o’r gloch nos Lun yr 20ed o Fawrth.
 
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd   
 
DYDDIAD......................................................                   
406.