Chwilio

COFNODION CYNGOR CYMUNED TALSARNAU A GYNHALIWYD YN Y NEUADD BENTREF, TALSARNAU AM 7.30 O’R GLOCH  18.03.24
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Dewi Tudur Lewis, Ann Jones.
PRESENNOL
Cyng. Owen Lloyd Roberts (Cadeirydd), Lisa Birks (Is-Gadeirydd), John Richards, Eluned Williams, Ffion Williams, Sian Mai Ephraim, Eifion Williams, Margaret Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 19eg 2024 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Nid oedd unrhyw fater yn codi o’r cofnodion.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £50,794.83 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £22,154.61 yn fwy o wariant na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 
Tir ger Bron Trefor
Adroddodd y Cyng. John Richards ei fod wedi bod yn trafod y mater uchod gyda Mr. Harri Pugh a bod angen prisiau am lochesi bws a cytunwyd bod y Clerc yn edrych am rhain. Hefyd cafwyd wybod bod angen lloches bws gyferbyn ar un presennol yn LLandecwyn.
Agor Tenderau Torri Gwair
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn un tender  ynglyn a cario allan y gwaith uchod gan Mr. Meirion Griffith, Islwyn, Talsarnau am £14.00 yr awr i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus a un am £14.00 yr awr i dorri gwair mynwentydd Llanfihangel y Traethau a Llandecwyn. Cytunwyd i dderbyn tender Mr. Meirion Griffith.
Adolygu Cyflog y Clerc
‘Roedd y Cyngor yn eu cyfarfod mis Mawrth 2021 wedi cytuno i adolygu cyflog y Clerc yn flynyddol ag felly cytunwyd codi cyflog y Clerc i £2,310 y flwyddyn a chadw y costau ar £1,500 ar costau swyddfa ar £400.  Nid oedd y Clerc yn bresennol pan drafodwyd y mater hwn.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – ei bod wedi derbyn gwybodaeth ynghyd a lluniau yn dangos bod y gwaith ail wynebu ar groesffordd LLandecwyn yn ddiffygiol ag ei bod wedi anfon y wybodaeth hyn ymlaen I’r Adran Priffyrdd ag ‘roedd wedi cael ateb yn datgan eu bod wedi anfon y mater yma I sylw Gwaith Stryd yn Gaernarfon yn eu hysbysu eu bod yn siomedig iawn gyda cyflwr y gwaith hyn ag yn disgwyl I Gwaith Stryd orfodi’r cwmni I ail wneud y gwaith hyn I safon. ‘Roedd wedi cael cwyn bod y ffordd I fyny am Eglwys Llanfihangel y Traethau angen ei glanhau ag ‘roedd wedi anfon at yr Adran Priffyrdd I ofyn a fyddai y gwaith hyn yn gallu cael ei wneud oherwydd bod sawl angladd yn cael ei gynnal yna yn ystod y mis hwn. ‘Roedd wedi derbyn llythyr gan yr Adran Amgylchedd yn hysbysu y Cyngor eu bod yn bwriadu treialu y defnydd o sachau hesian yn lle y cartiau glas ailgylchu ag eisiau barn y Cyngor ynglyn a hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd nid oedd y sachau hyn yn addas a byddai yn well cario ymlaen gyda’r cartiau glas ailgylchu am eu bod yn haws i’r henoed eu defnyddio ag ni fyddai y 
426.............................................Cadeirydd
sachau hesian yn addas i’w cadw allan yn bob tywydd oherwydd diffyg lle tu mewn i dai. Hefyd ‘roedd angen tynnu sylw yr Adran y rheswm bod y cartiau glas ailgychu yn cael eu difrodi oedd am eu bod ddim yn cael gofal gan y gweithwyr wrth eu casglu ag eu bod yn eu llechio i bob man.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod treth y Cyngor wedi codi i 9.54% gyda £4 miliwn o doriadau ag ei fod wedi cael gwybod bod gan Cyngor Gwynedd £10 miliwn o falansau a £100 miliwn wrth gefn. ‘Roedd wedi cael gwybod bod llawer o dyllau yn y ffordd o amgylch yr ardal oherwydd gwaith Dwr Cymru ag hefyd bydd gwaith sylweddol yn mynd i gael ei wneud ar y ffordd ger Stabl Mail. Hefyd cafwyd wybod bod angen symud arwydd y neuadd yn nes am y Gelli.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £3,441.18 yn y cyfrif rhedegol, a £9,537.16 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
B.T                                     -  £333.59  -  lein ffon camerau CCTV (12.3.24)
Cyllid a Thollad                 - £105.00 –  treth ar gyflog y Clerc
Mrs Annwen Hughes  -  £1,376.40 –   cyflog a chostau 6 mis
Mr. Meirion Griffiths  -     £200.00  -   cynnal a chadw Gardd y Rhiw
Mr. M. J. Kerr                 -   £580.00  -  agor bedd y diweddar Mrs Beryl Price Pugh (bedd newydd)
Mr. M. J. Kerr                 -   £460.00  -  agor bedd y diweddar Dr. John Jones-Morris (ail agor)
Ceisiadau am gymorth ariannol
Pwyllgor Neuadd Bentref    -  £2,000.00
CFFI Meirionnydd               -        £200.00                
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Lisa Birks a wnaeth y Cyng. John Richards gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod. Cytunwyd I drosglwyddo swm o arian o’r cyfrif cadw I’r cyfrif rhedegol.
‘Roedd yn rhaid gwneud y taliadau uchod mewn 2 daliad oherwydd na ddim ond £4,000 yw uchafswm y Cyngor I  wneud taliadau ar lein ar y tro.
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. K. Beale        -   £25.00  -  rhent garej Capel y Graig (Mawrth)
Cylliad a Thollad - £476.01 – ad-daliad T.A.W.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn ateb gan yr uchod ynglyn a mterion a godwyd yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn ateb gan y Swyddog Llwybrau ynglyn ar gwyn oedd wedi ei anfon ato ynglyn a Llwybr y Wern ag yn datgan ei fod wedi trafod cyflwr y llwybr yma gyda’r peirianwyr yn y Cyngor, a fel y gwyr rhai o’r Cynghorwyr fe wnaed gwaith sylweddol i wella’r llwybr yma rai blynyddoedd yn ôl. Mae’r sefyllfa yn cael ei chymhlethu ymhellach gan fod y tir lle saif y llwybr wedi ei ddynodi’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) yn sgil ei natur corsiog a’r planhigion sydd yn tyfu yno. ‘Roedd hefyd yn datgan ei fod wedi cysylltu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod pa waith sydd yn bosib i geisio adfer y sefyllfa, ac fe fydd yn ein diweddaru pan geith ymateb ganddynt. Hefyd yn datgan er gwybodaeth i’r Cyngor bod gatiau newydd wedi eu gosod mewn cydweithrediad gyda’r tir feddianwyr ar lwybrau yn yr ardal sef llwybrau cyhoeddus rhif 18, 21, 33, 35, 36 a 42 a giat wedi ei gosod ar llwybr cyhoeddus rhif 27 (ger Llyn Adar) yn lle’r gamfa ystol oedd wedi dirywio.
427..................................................Cadeirydd
Cyfoeth Naturiol Cymru
Wedi cael ateb ynglyn ar ffens sydd yn rhedeg ar hyd ochor y ffordd rhwng y neuadd ag ystad dai Maes Trefor ag yn datgan ei bod ddim yn gyfrifoldeb iddynt hwy ond hwyrach ei bod yn gyfrifoldeb Cyngor Gwynedd. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon ei ymateb ymlaen i Gyngor Gwynedd ag ei bod wedi cael gwybod ganddynt mae cyfrifoldeb pwyllgor y neuadd oedd y ffens derfyn. ‘Roedd wedi anfon copi o’r e-bost hwn ynghyd a chopi o’r Brydles ymlaen i bob Aelod.
UNRHYW FATER  ARALL
Cafwyd wybod bod y tir ger Rhiw Derwydd wedi cael ei dacluso ag oedd y Cyngor yn ddiolchgar i’r sawl oedd wedi gwneud y gwaith hwn.
Cafwyd wybod bod y safle ger Soar wedi cael ei glerio ond bod cerbyd yn llawn o lanast yn dal yna.
Cafwyd wybod bod y manhole ar y ffordd am Bont Briwet angen sylw ag hefyd y llwybr o Isfryn am Pendle angen sylw.
Cafwyd wybod bod y lloches bws yn Llandecwyn angen gael ei lanhau.
Hysbysfwrdd Llandecwyn angen sylw a cytunodd y Cyng. John Richards ddelio gyda’r mater hwn.
Giat mynwent Llanfihangel y Traethau angen sylw.
Cafwyd wybod bod lle parcio o’r newydd wedi cael ei greu ochor y Gelli ger yr hen neuadd.
Cafwyd wybod bod y kerbs ger 1 Cilfor a rhif 3 ystad Bryn Eithin angen sylw.
Datganwyd pryder bod cerbyd wedi ei barcio yn maes parcio cae chwarae ers peth amser.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd   
DYDDIAD......................................................                   428