Rhigymau o'r Ardal
Rhigymau Ffermydd pella Cwm Llandecwyn yn Ardudwy
Codwyd y rhigymau hyn o ardal Talsarnau a Llandecwyn gan Derfel Roberts, ar ol eu clywed gan ei ddiweddar dad yng nghyfraith, Mr Griffith William (Griff Llaeth) Harlech - un o feibion Nant Pasgen Fawr, Llandecwyn.
Moel y Geifr sydd uchel ei fri,
Cam Bwlch Ucha sydd is na mi,
Tyrd i lawr i Goety Mawr
Bragdy clap a Nant Pasgen Fawr,
'Ronnen a Thallin a Phenbryn Pwll Du
Ty Newydd Llennyrch a Llennyrch yn llu.
Cor Peniel (Capel Methodistaidd Eisingrug, Talsarnau; Arweinydd: John Parry, Fforman Gwaith Mango (Manganis) Graig Ddrwg ger Llyn Eiddew Mawr).
Mae ym Mheniel gôr diguro
Yn cael ei gynnal gan griw Gwaith Mango,
Mae'r arweinydd yn un medrus
Am gael popeth i weithio'n hwylus.
O Dy'n Bwlch daw Bet a Laura
A'r ddwy Miss Edmunds o Blas Ucha;
Gwen a Meg o Foel y Glo
A llais Annie Jordan gryna'r tô.
John Defi sy yno'n fasar trwm,
Y swynol denor o'r Gafael Crwm
Gruffudd John, gymeriad addfwyn,
Yno hefyd, Nel Ysgair 'Nolwyn.
'Sgynolwyn ar lafar, Un eboniad ar y ffurf gywir yn Esgair Wen Olwen.
Roedd dau ôf yn ardal Talsarnau ers talwm a byddai cryn dipyn o gystadlu rhyngddynt mae'n debyg. Gwnaeth un ohonynt sychod i aradr rhyw ffermwr ond y llall gafodd y gwaith o'u trwsio. Dyma bennill i'r achlysur yn syth.
Gof cywrain, gof di-dwrw,
Triniwr stîl a haearn bwrw,
Asio'r swch yn hynod gywra'n
Ar ol y cachwr yng nghardd Edan.