Sylwadau o Stiniog gan Ernest Jones yn yr Herald?
HEN WAS YN COFIO'R DYDDIAU O GRWYDRO O UN FFERM I'R LLALL
Hendre Dyfrgi, dyna i chi enw fferm ar y llechweddau uwchben Harlech. Yno oedd Nain yn byw ers talwm iawn a bum yno droeon yn treulio rhan o wyliau haf. Ond wiw imi fynd ymlaen i sôn am yr Hendre rwan dim ond dweud bod Morris Jones, Cilfor, Llandecwyn wedi bod yn byw yno rywbryd ar ôl i Nain symud i fyw i Harlech. A hanes Morris Jones yn was ffarm yn ystod ei ieuenctid sydd gen i heddiw.
Ym Mryn Gwyn, Uwch Artro y ganwyd Morris Jones. Safai Bryn Gwyn yn nes i Lanfair ger Harlech ond, fel yr Hendre, yr oedd Bryn Gwyn gryn bellter o Lanfair fel yr oedd yr Hendre blwc o ffordd o Harlech.
Robert a Margaret Jones oedd ei rieni, a phan symudwyd i fyw i'r Hendre yr oedd peth diffyg dealltwriaeth oherwydd Robert Jones oedd enw fy nhaid. Pan euthum ati i holi yn Harlech am Robert Jones yr Hendre roedd peth cymysgedd yn codi gan mai Robert Jones, tad Morris Jones, Cilfor, oedd pobl yn ei gofio. Mewn gwirionedd doeddwn innau chwaith ddim yn gyfarwydd â'r hen Robert Jones yr Hendre, dim ond gwybod mai ef oedd trydydd gwr fy nain. Ond y mae Morris Jones Cilfor yn cofio fy nain yn iawn ac yn gwybod am yr hen Robert Jones yr Hendre.
Y mae gan Morris Jones gof rhyfeddol o dda. Pan oedd yn byw ym Mryn Gwyn cerddai dair milltir bob dydd i Ysgol Llanfair lle roedd tua thrigain o blant a thair athrawes, Annie Price oedd un ohonynt. Tua diwedd y rhyfel symudodd y teulu i ffermdy bach y Foel a oedd nepell o Hendre Dyfrgi. Golygai hynny newid ysgol. Yr oedd Ysgol Harlech yn un fwy o sbel nag |Ysgol Llanfair ac am y rheswm hwnnw aeth Moris Jones yn ei ôl i Ysgol Llanfair.
Wedi pum mlynedd yn y Foel, symudwyd i Hendre Dyfrgi, fferm 65 acer. Fe hoffwn i fod wedi holi mwy ar Morris Jones am yr Hendre ond yr oedd yn selog am droi at ei hanes fel gwas fferm. Yr unig beth gefais i wybod am yr Hendre oedd bod yno ffynnon yn y seler. Wyddwn i mo hynny ond efallai fod y seler y lle na chaniatawyd i mi fynd iddo.
Beth bynnag, yn yr Hendre yr oedd Morris Jones pan gafodd ei le cyntaf fel gwas ffarm. Nid oedd wedi cael ei benblwydd yn 14 oed ar y pryd. Aeth at Richard Parry, Cefn Main, ar y Morfa yn Harlech. Cyflogodd am wythbunt am chwe mis. Dau o'i brif ddyletswyddau yno oedd mynd â llefrith rownd y tai a mynd i'r traeth ar ôl tywydd garw i hel broc môr. Yr oedd ganddo geffyl i ddragio'r broc o'r traeth i'r ffarm. Cofia Morris Jones fod tir cynhyrchiol iawn yng Nghefn Main ac felly yr oedd digon o waith yno.
Wedi chwe mis yno aeth Morris Jones i'r Rhiwgoch at Morris Evans ac oddi yn i Dyddyn Rhyddid. Fel rheol ni fyddai'n aros yn unlle am fwy na chwe mis gan ei fod eisiau cael profiad o bob gwaith, Ond fe arhosodd yn Nhyddyn Rhyddid am flwyddyn cyn symud at Francis Williams, Gin Shop, Harlech a oedd â fferm ar y morfa.
Yr oedd Morris Jones bellach yn cyflogi yn y ffeiriau. Credai fod Ffair Harlech (dwy bob blwyddyn) y gorau yn y cyffiniau. Ymestynai'r diddordeb yn Ffair Harlech o Faentwrog at Islaw'r Dref, Dolgellau.Yn hanes Morris Jones yr oedd y broses o gyflogi yn cynnwys cerdded y stryd “i roi fy hun ar werth”. Yr oedd ei gyflog wedi codi yn arw erbyn hyn. Pant Mawr oedd ei le nesaf. Rhaid oedd codi'n arbennig o fore yno i fynd i odro ac i werthu llefrith. Hanner blwyddyn yno eto cyn symud i Glan Môr, Talsarnau. Yr oedd gwely winscot yno – un cynnes iawn. Yn amlach na pheidio, mewn llofft stabal y cysgai Morris Jones ond câi fwyta yn y ty-ar fwrdd y gweision.
Wedyn fe ddaeth tymor eto efo John Williams, Pant Mawr. Yr oedd y gwaith yn galed ond byddai 2/6 (hanner coron - sef deuddeg ceiniog a hanner) o ewyllys da iddo pan fyddai cael rhyw hanner diwrnod yn rhydd. At Miss Thomas, Tanrallt, Llanfair, yr aeth Morris Jones nesaf, clamp o ffarm a dipyn o steil o'i chwmpas. Wedyn i Fryn Foel Uchaf, i fyny ar y llechweddau uwchben Dyffryn Ardudwy. Ffarm mewn lle nobl iawn oedd hon a bu yno am ddau dymor. Roedd yn cael rhagor o gyflog yno am nad oedd hi'n hawdd iawn cael gwas.
Un o hanfodion gwas wrth symud i le newydd oedd cael rhywun i olchi ei ddillad, doedd y Meistresi ddim yn gwneud iddynt yn ôl pob golwg. Beth bynnag, fe gafodd Morris Jones ddynes i olchi iddo am bunt y flwyddyn. Gofynnais iddo a oedd yn adnabod Morris Jones Crydd Dyffryn Ardudwy. Na, doedd o ddim. Evan Thomas Llanbedr fyddai yn gwneud esgidiau iddo ef, am dair punt. Cyn mynd i'r Dyffryn bu yn Argoed efo Lewis Lewis.
I Dregwylan, Talsarnau yr aeth o'r Ddyffryn ac yr oedd ei gyflog erbyn hyn wedi cyrraedd punt yr wythnos. Cofier mai dal yn was yr oedd Morris Jones er nad oedd unrhyw swydd ar fferm na allai ei chyflawni yn berffaith. Y bwyd da, iachus, oedd yno sy'n aros ar ei gof. Ond nid oedd Morris Jones yn chwennych swyddi nac awdurdod.
At Roberts Cefn Trefor yr aeth o nesaf. Roedd Roberts yn wr tal cyhyrog a'i bwysau yn 26 stôn. Oddi yno aeth i Benrhyn Isaf, y ffarm a anfarwolwyd gan yr hanes am yr Hwntw Mawr yn mwrdro'r forwyn. A oedd y sôn yn parhau? Oedd, yn wir. Hawlid bod ôl y gwaed i'w weld yno o hyd, ac yr oedd lle yno a elwid Ffynnon Hwntw Mawr lle bu Hwntw yn golchi ei ddwylo.
Soniodd Morris Jones wrthyf am y pla o lygod mawr oedd ym Mhenryn Isaf. Mae Morris Jones wedi gweld llawer coeliwch fi, ond welodd o ddim tebyg i hyn. Deuai'r llygod tua'r un adeg yn y flwyddyn. Roeddynt yn bowld i'w ryfeddu. Deuent i lofft Morris Jones a rhedeg dros ei wely fel cathod a chlywid eu swn ymysg sospyn i lawr grisiau. Er hyn oll arhosodd Morris Jones yn ei le am dri thymor-a oedd yn anarferol o hir yn ei hanes ef.
Wedi symud i Cefn Gwyn, Yr Ynys, y chwain oedd yn ei boeni. “Beth wyt ti yn 'i wneud?” gofynnodd i'w bartner yn y llofft stabal wrth ei weld yn hanner noeth ganol nos. “Lladd chwain,” oedd yr ateb.
Lle nesaf Morris Jones oedd Felinrhyd Fawr efo Griffith Davies. Cafodd waith i dorri y coed un haf a phoenid ef gan y gwybed. Pan holwyd ef sut yr oedd hi'n mynd, “Iawn, ond bod y gwybed ma'n mwyta fi'n fyw” meddai. Ond yr unig gysur gafodd mai chwys oedd y peth gorau i gadw gwybed draw.
Cofia Morris Jones am dric a ddyfeisiodd i'w delpu i gysgu'r nos yn y llofft stabal. Ar brydiau byddai ceffylau'n cadw swn drwy ysgwyd y tsaen, a byddai'n gofalu bryd hynny i roi rhaff iddynt yn lle tsaen. Ychydig o'r meistradoedd oedd yn mynnu bod gweision yn ymuno mewn 'cadw dyletswydd' yn y boreau, Cefn Trefor a Thregwylan, er enghraifft. Gwneid hynny bob dydd ond y Sul. Yng Nghefn Trefor y Mistar fyddai'n gweddio â'r gweision yn darllen pennod.
Yn ei le olaf fel gwas Lasynys Bach, gwelodd Morris Jones mai'r Mistar yno oedd yn cymryd y gwasanaeth i gyd. Ffarm arall lle roedd pwys mawr ar Gadw Dyletswydd oedd Tre Gwylan.
A dyna beth o hanes Morris Jones, Cilfor, fel gwas ffarm. Gadawodd y gwaith hwnnw ymhen y rhawg ond stori arall yw honno.