Chwilio

Cystadleuaeth yng Nghyfarfod Capel Brontecwyn Chwefror 5ed 1925

Aberdeunant

 

Hen Furddunod Llandecwyn a’r teuluoedd fu’n byw ynddynt olaf
(gan y ddiweddar Esther Jones, Caerwych)

MAESLLAN: Saif cydrhwng Eglwys Llandecwyn a Thy Newydd. Y trigianydd olaf yno oedd William Owen, taid y Parch Tecwyn Evans. Magodd dyaid o blant, un, sef Griffith Owen yn weinidog gyda’r Wesleaid yn Awstralia. William Owen oedd yn torri beddau ac yn claddu ym mynwent Llandecwyn. Yr oedd yn aelod selog a defnyddiol yn Eglwys Soar. Un o ddisgynyddion Morgan o’r Las ynys oedd ei dad.

MURIAU ROBIN: Safai cydrhwng Ty Newydd a Bronygarth. Y rhai a drigai yno olaf oedd Shon ac Ann Richards. Gweithiai Shon Richards yn Ffestiniog. Masnachai yr hen wraig mewn gwlan a gwerthai ef yn grysau, peisiau linsi ac yn y blaen i wasanaethyddion y gymdogaeth. Magasant dyaid o blant a chadwasant ddwy ddwy fuwch. Ymadawsant i gyffiniau Temadog oddeutu y flwyddyn 1868.

LLAIN WEN: Safai ar dir Gallt Calch. Trigai yno hen wraig oedd yn hoff iawn o hel echwyn. Aethai at Gwen Jones Gallt Calch i chwilio am fenthyg te yn bur aml. Ar ol ei gael yn ol ni fyddai Gwen Jones byth yn ei dywallt ond cadwai ef ar y dresal erbyn y deuai yr hen wreigan i chwilio am fenthyg y tro wedyn. Symudodd oddiyno tua 1860.

HENDY: Safai ar y cae o flaen Tynybonc. Y triganydd olaf oedd Griffith Pirs a’r wraig. Roedd ganddynt dyaid o blant yn mynychu ysgol Tynllan. Ymadawsant i Ffestiniog tua 1868. Cariwyd muriau’r tŷ i wneud tŷ gwair Penbryn Isa.

PENBRYN UCHA: Safai o dan yr un to â’r Penbryn Ucha presennol (yn 1925) a’r llall yn wag erbyn hyn. Ifan ag Ann Wmphra a thyaid o blant oedd yn byw olaf yn yr hen dy. Cadwyd siop fechan ganddynt. Saer maen enwog yn ei ddydd oedd Ifan Wmphra a glanhawr clociau rhagorol, ac yn neilltuol o graff ag arwyddion tywydd. Symudasant i Penrhyn tua 1884.

CAE BRAN: Safai ar dir Tregwylan. Bu Griffith Parry, tad y diweddar Barch Griffith Tecwyn Parry, gweinidog enwog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, yn byw yno. Aeth y tŷ yn wag tua 1912.

EFAIL BACH: Saif lle mae Capel Brontecwyn yn awr yn wynebu at Tynllan. Y rhai olaf i drigo yno oedd Robert a Beti Jones. Chwarelwr oedd Robert Jones ac yn Wesleaid selog a blaenor yn Soar. Ymadawsant i Dalsarnau oddeutu 1868.

CAPEL BACH: Saif ar dir Bwlchfedwen ar ochr y ffordd. Y tiganydd olaf yno oedd Ellen Jones, mam y diweddar William Jones, Allt Galch.

CAPEL NEWYDD: Saif ychydig lathenni ymhellach na Capel Bach. Defnyddiwyd ef yn sgubor gan Bwlchfedwen ar ol hynny. Yno y cedwid yr Ysgol Sul cyn gwneud Brontecwyn. Trigai Luc a Sian Robet yno. Ar ol claddu Luc cadwai Sian Robet siop fechan. Roedd yn hen wraig gofus a pheniog ac yn ddoctores ar fendio llyfrithen ar lygaid. Ar ei hol bu Harri Pritchard a’i wraig yn byw yng Nghapel Newydd a chedwid yr Ysgol Sul yno fel cynt.

DOLORGAN FAWR: Safai ar dir Tynybwlch ar y ffordd rhwng Brontecwyn a Maes y Neuadd. Nid oes ond ei furiau yno heddiw. Y rhai olaf i fyw yno oedd Owen a Shan Ellis, ef yn frawd i Ellis Jones Moel y glo, taid Ellis Edmunds Plas Ucha. Bu Owen Ellis farw yno ac aethpwyd â’i gorff hyd y llwybr trwy Coed Mawr i Llanfihangel. Aeth yr hen wraig i gyffiniau Caernarfon lle bu farw tua 1871.

GWASTAD ANNAS Saif ychydig o’r ffordd sydd yn arwain o Coedty Mawr. Defnyddid ef wedyn yn feudy gan Plas. Y rhai drigai olaf yno oedd Charles ac Elen Jones, tad a mam William Jones, Allt Gallch. Roeddynt yn aelodau ffyddlon yng Nghapel Llenyrch. Symudasant oddi yno tua 1867.

BLAENDDOL sydd erbyn hyn yn furddyn. Safaia ar ochr dde i’r ffordd a arweinia i ben ucha plwy Llandecwyn ar dir Aberdunant. Daeth John Hughes, mab Maesy caerau yno i fyw. Roedd ganddo ardd gampus a chodai datws cynnar o flaen pawb, ac yn neilltuol o lwyddiannus gyda mel. Yr olaf i fyw yno oedd John Roberts, Canol Cae, Penrhyn, ac ymadael oddi yno tua 1889.

GLANOFER Safai ychydig yn uwch i fyny na Blaenddol. Y trigannydd olaf oedd Sian Ifan, tua’r flwyddyn 1860. Perthynai i Seintiau’r Dyddiau Diweddaf a roedd yn hunanol iawn yn ei dull o grefydda.

ABERDUNANT: Y rhai olaf fu’n trigo yma oedd Evan a Catherine Evans ac yma y ganwyd eu mab, Dr. Tecwyn Evans. Symudasant oddi yno yn 1879 i Groes Newydd. Defnyddid y ty yn feudy ar ol hynny.

BRACTY: Safai ar y ffordd i Gaerwych. Bu Sian Gwen yn trigo yno am tua 50 mlynedd. Magodd 11 o blant a roedd yn Wesleaid selog. Ar ei hol daeth Robert a Mary Evans, ef yn wyr i Sian Robat, Capel Newydd, i fyw yno a symudasant i Ffestiniog tua 1881.

Deuwn yn awr at BENTRE COEDTY, yn cynnwys y pum ty canlynol, sef PARC, COLDY, Y GEGIN, Y GEGIN BACH a’r COEDTY. Safent yn bur agos i’w gilydd heb fod yn bell o’r lle y saif y Coedty presennol. Yn y Gegin y trigai Simon Jones, dyn defnyddiol a blaenor gyda’r Wesleaid. Ar ol ei farw symudodd ei wraig at ei merch i Efailnewydd. Y rhai olaf fu’n byw yno oedd William a Sydney Jones a fu’n byw yn Cefn Gwyn, Talsarnau ar ol hynny. Roedd Gegin Bach yn wynebu lle trigai Margaret Jones wedi iddi symud o’r Coedty.

GLANRAFON GAERAU: Safai yng ngwaelod tir Maescaerau. Yr olaf fu’n byw yno oedd Hugh Hughes a symudodd wedi hynny i Maescaerau ar ol claddu ei dad.

MAESCAERAU UCHAF: Safai yn nhir Maescaerau yn nes i’r mynydd. Trigai Thomas Rhys yno, oedd yn daid i Elisabeth Jones, Soar gynt. Magodd dyaid o blant. Roedd yn enwog am wneud cawelli a hefyd fel garddwr. Deuai wagen Ceftrefor Fawr yno o nol llwyth o datws i’w gwerthu yn Nhalsarnau.

BRYN MELYN: Safai ym mhen uchaf tir Coedty Mawr. Trigai Thomas a Shan Jones yno. Magasant dyaid o blant. Roeddynt yn selog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yn Nhalsarnau. Y rhai olaf yno oedd David ac Ann Williams, ef yn fab Moelgeifr. Ymadawsant o Bryn Melyn tua 1890.

Yn ymyl clawdd y mynydd ar dir Coedty gwelir ychydig o olion TY’N MYNYDD. Ymadawodd y teulu oddi yno tua’r flwyddyn 1843.

HEDRE CERRIG: Safai ar y ffordd o Gaerwych i Nantpasgen. Trigai Robert Richards yno ac ar ei ol Willaim a Mary Jones, a symudodd i Allt y Calch. Y rhai olaf fu yno oedd oedd Harri a Jane Jones a symudasant i Hafodwern, Clynnog yn 1894.

Talrhos2

TALRHOS: Safai ychydig uwch i fyny na Hendre Cerrig ar dir Yr Onnen a’r rhai olaf a fu’n byw yno oedd Griffith ac Elin Williams a magasant dyaid o blant. Symudasant oddi yno yn 1882.

TYNYGROES: Safai ar dir Penbryn Pwll Du. Owen a Lisa Davies oedd yn byw yno olaf. Yn yr hen amser yr oedd terfyn y ddau blwyf yn mynd trwy ganol y ty, hynny yw, plwyf Llandecwyn a phlwyf Maentwrog. Byddai ymryson rhwng Cofrestrydd Maentwrog a Harlech am gael mynd yno i gofrestru baban newydd pan enid un. Symudodd Owen a Lisa Davies i Ty Newydd Llenyrch a safai ar dir Llenyrch. Ar eu holau daeth William a Sarah Davies, brawd a chwaer, yno. Buont yno am tua dwy flynedd a symudasant yn 1883.

MUR MAWR: Safai ar dir Llenyrch. Y rhai olaf a fu’n byw yno oedd William y Cowmon a’i wraig. Symudodd oddi yno tua 1843.

TYNPANT: Safai ar dir Caencoed Uchaf a gwelir ei olion heb fod ymhell o glawdd terfyn Llenyrch. Y rhai olaf fu’n byw yno oedd William a Marged Williams. Symudasant oddi yno i Furiau’r Gwyddel tua’r flwyddyn 1860.

Y mae olion dau dy hefyd ar dir Felenrhyd Fawr a elwid yn BREICHIAU, heb fod ymhell oddi wrth ei gilydd. Gwelir eu olion ar ochr chwith i’r ffordd a arweinia o Faentwrog at Llyn Tecwyn. Y rhai olaf a fu’n byw ynor oedd Sion Llwyd a’i briod Catrin Pitar. Symudasant i Capel Bach tua 1866. Mynychai dau o blant o’r Breichiau arall Ysgol Llandecwyn tua 1867, sef Janet a William. Yr oedd y ddau Freichiau yn nodedig am afalau ac eirin.

TYNCEUNANT: Safai yn y coed yn nes at bont Felenrhyd ond mae wedi mynd a’i ben iddo ers amser maith.

TYNYFOEL: Safai ymhen uchaf tir Felenrhyd, yn ymyl Foel Tecwyn Plas. Gwelir yr olion yno heddiw a’r ardd yn ei ymyl.

HENDRE ENGAN: safai i gyfeiriad Felenrhyd Fawr o Ben y Foel. Y rhai olaf fu’n byw yno oedd Griffith Ellis (Guto wyllt) a’i briod. Symudodd oddi yno i Gelli Grin tua 1873.

YSGOL BACH: Safai ger Maesyneuadd lle bu William morris a’i wraig Catrin yn byw. Roedd hen draddodiad mai Lowri Wyn, Maesyneuadd a adeiladodd Ysgol Bach er mwyn i’r plant yn yr ardal gael ysgol i ddysgu trwy’r flwyddyn 1700.

BEUDU’R BONC: Hen furddyn oedd hwn ar dir Penbryn Isa, lle magwyd y Parch Hugh Hughes, Gellidara a’r Parch Tudwal Davies, Brynrodyn.