Chwilio

Rhestr o hen fythynnod a'u sefyllfa yn y ddau blwyf (Llandecwyn a Llanflhangel y Traethau)

CYFARFOD CYSTADLEUOL LLANFIHANGEL Y TRAETHAU 24 MAWRTH 1928

Ty Gwyn Gamlas

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rwyf yn dechrau yn Tŷ Gwyn, Y Gamlas, yr Ynys, pan yr oedd yma le pwysig iawn ers llawer dydd. Hwn oedd y porthladd yr ochr hyn i'r afon ac adeiladwyd Ilongau yma felly y cyntaf yw :


(1) Tŷ Gwyn, hen dafarn.

(2) Tyddyn Du — safai ar dir Tŷ Gwyn Mawr ar ochr y llwybr sydd yn mynd i fyny am Cefn Gwyn a Chollwyn. Yma bu'n trigo Sian Parry a'i mam; roedd hi'n un o rai foddwyd o gwch y 'Ferry' a gollwyd ar y Traeth, Awst 7fed 1862.

(3) Odyn y Ciw ar dir Tyddyn yr Eglwys, Ile y bu Evans y cariwr yn byw; hwn fyddai yn cario 'goods' i Siopa Harlech o Tŷ Gwyn ac yn gorfoleddu yn y drol wrth ddod adref amser diwygiad '59.

(4) Yr Efail — yn lle mae Minafon yn awr.

(5) Carreg Ro Bach — ar fin y traeth ar dir Carreg Ro Fawr.

(6) Llechollwyn Bach — cegin allan Chollwyn yn awr, ar fin y traeth eto.

(7) Rhyd Goch Isaf —  safai ar ben y rhiw, ochr uchaf i lidiart y ffrwd.

(8) Gwyndy Bach — yn yr Ynys, yn ymyl Cartrefle

(9) Dengrwd — ar dir Penywaen, ar ochr ffordd y Morfa, a chom yr hen dŷ yn derfyn deublwy' (Llanfihangel a Llandanwg).

(10) Cefnrhydd neu Cefnyrhydau — lle dwy fuwch neu dair ar ganol Morfa Harlech ar ochr yr hen hwylfa, lle bu hen Gristion o'r enw Griffith Roberts yn mynd i Capel Uchaf Harlech i addoli, mewn cart a cheffyl gwyn. Griffith Ellis ag Evan Ellis wyf yn gofio ddiweddaraf yno — dau hen Gristion gloyw yn selog yn Eglwys Llanfihangel. Galaswn ysgrifennu llawer am y ddau yma, ond buaswn yn mynd oddi wrth y testun.

(11) Glasfryn Isaf— safai hwn ar ochr y ffordd o Harlech i Dalsarnau, lle mae beudy bach Tanpenmaen yn awr.

(12) Glasfryn Uchaf— ar ben y bryn uwchben Glyn Lodge, lle y bu'r hynafleithydd a bardd Robert Hugh yn trigo; lle a phorfa dwy fuwch.

(13) Dolysgymunech — roedd hwn lle mae Llety'r Wialch yn awr. Byddai yma siop ers llawer dydd ac mae traddodiad mae yma y cyfansoddwyd mesur cerdd gyntaf yn Sir Feirionnydd.

(14) Rhosigor Bach a –

(15) Rhosigor Ganol — un yn agos i ochr y ffordd wrth Bont y Glyn, a'r llall yn y coed yn uwch i fyny.

(16) a (17) Dau hen dŷ gyferbyn å Gafaelgrwn, pedwar o deulu yn byw yn y rhai hyn, rhai yn y llofftydd a'r lleill yn y llawr.

(18) Pandy'r Glyn — yn uwch i fyny ar ochr y ffordd i Eisingrug, lle bu Evan a Betty Rogers yn cadw buwch — oddi yma y collwyd y wlanen oedd allan yn sychu dros nos.

(19) Ffatri y Glyn — yma y trigai W Williams a dau fab talentog a dorrwyd i lawr yn gynnar.

(20) Dipyn uwch roedd Bondwll lle roedd Thomas Griffith, arch draeniwr y Glyn yn byw; magodd tri neu bedwar o longwrs.

(21) Pengarreg — Ile roedd Morgan Prys yn cadw gefail a gwartheg.

(22) Pengarreg Ucha' — yn uwch i fyny, roedd mam Captain Williams, Minafon yn byw yno.

(23) Tynffordd Fawr — ar ochr ffordd rhwng Tyddyn Sion Wyn a'r Eisingrug, Ile y bu Richard Parry yn byw, awdur "Fuchangerdd y WIanen Wen"

(24) Gerllaw ar ben y rhiw roedd Beudy Newydd — hen ferch a'i mam yn byw yma yn gwau sana' i' w gwerthu a magu cathod tri lliw i'r cymdogion.

(25) Yn ymyl Tyddyn Sion Wyn y safai Ty.ddyn Sion Wyn Bach — gyda phorfa buwch, Ile magwyd William Edwards, hen hwsmon Morgan Owen y Glyn am flynyddoedd.

(26) Wrth libart Plasucha' safai Penybont, Ile roedd Doli a'i brawd Tom Jones yn byw. Cafodd Tom Jones dreulio ei ddyddiau yn Plasucha efo'r Edmunds'.

(27) Ochr uchaf i Tynyllwyn safai Caegwndwn.

(28) Wrth groesffordd Maesyneuadd safai Ysgol Bach Ile y trigai Robert Roberts, pen helsmon Mrs Nanney, Maesyneuadd.

Maesyneuadd
(29) Yn nes ymlaen ar i ffordd i Landecwyn safai Dolorcian Bach, fferm fechan rhyw dair o wartheg ag ychydig o ddefaid. Owain Ellis oedd enw yr hen ŵr; ni bu iddo ef a'r hen wraig gael plant, ac nid oeddynt byth yn licio gweld rai diarth yn dod i'r tŷ. "Paid â dod i'r tŷ" meddai'r hen wraig, "neu mi chwerthith y merched ifanc yma am dy ben di" ond doedd yno neb yn y tŷ.

(30) Glan yr Afon — Ile darfu Shion Owen fagu saith neu wyth o blant. Ychydig yn uwch i fyny safai

(31) Bryn Melyn — tair neu bedair o wartheg ag ychydig o ddefaid. Bu Thomas Jones, traeniwr Y Glyn yno yn byw.

(32) I fyny dipyn uwch roedd Tyn y Mynydd Ile roedd yr hen Sion a Gwen yn byw. Yr oeddynt yn lled dlawd. Byddant yn byw llawer yn y gwanwyn a dechrau haf ar ddanadl poethion wedi eu berwi efo pupur a halen a bara.

(33) Yn is i lawr roedd Maescaerau Ucha' Ile y magodd Thomas Rhys lond ty o feibion a merched cryfion. Tad i John Tom, Berthen Gron a Hannah Williams, Soar.

(34) Yn is i lawr roedd Glanrafon Gaerau — beudy yw yn awr.

(35) Yn is i lawr wedyn roedd Cegin y Coety — Ile roedd Simon Jones yn byw.

(36) Ac yn is i lawr wedyn roedd Gwastad Agnes — Ile darfu Charles Jones fagu tua naw o blant. Yr oedd dau o'r meibion yn arddwyr tan gamp. Nid oes yn aros o'r rhai hyn ond Lewis Jones yn Glanymor, Ynys ag Ellen yn Porthmadog.

(37) Yn agos i Caerwych yr oedd Bracdy — Ile magodd Shion Dafydd amryw o ferched ag un mab. Mae amryw o'r wyrion - un yw Daniel Evans, Talsarnau.

(38) Dipyn is saif Glanofer - a

(39) Blaen y Ddôl — porfa buwch Ile bu John Hughes yn byw cyn mynd i Ty'n Llan.

(40) Dipyn yn uwch roedd Aberdeunant Uchaf, porfa buwch. Yn uwch i fyny wedyn roedd

(41) Hendre Cerrig — tair neu bedair o wartheg ag ychydig o ddefaid ag hen galvin o'r enw Robert Richard yno'n byw. Cafodd bedwar ar bymtheg o blant o ddwy wraig. Mae un o leiaf yn fyw, sef Lowri Williams, y crydd, Llanfair.

(42) Bron yn ymyl mae Talrhos — Ile y magodd Griffith William, gynt o Llechwedd Uchaf, ??? ar naw o blant. Yn bellach draw o dipyn yr oedd

Talrhos2

(43) Tŷ Newydd Llennyrch - ychydig bellder wedyn roedd

(44) Tŷ’n y Pant. Bu yr hudoles Mari Fantell Wen yn byw yno am dipyn. Byddai hi a'i chanlynwyr yn mynd mewn dillad gwynion ar hyd y banciau ar ddydd Sul yn gweiddi "Cwio, Cwio, Cwio”! gan gymryd arnynt eu bod uwchlaw rhai dynol ag na fyddai iddi byth farw. Ond marw fy raid, ag mae ei bedd i'w weld heddiw wrth ben dwyreiniol Eglwys Llanfihangel y Traethau.

(45) Yn ymyl roedd Tyn y Gors - Ile roedd rhyw Samson o ddyn yn byw, o'r enw Guto Tyn y Gors. Roedd pedol ei esgid yn 17 modfedd o rownd. Cariodd bwn o beilliad o Faentwrog ar ei gefn heb orffwys ddim ond unwaith ar ochr gallt Felenrhyd Fawr.

(46) Ar dir Felenrhyd Fawr roedd tri o dai o'r enw -

(47) Breichiau — a phorfa buwch yn perthyn i bob un

(48) Mae yn le anial yn ganol y mynydd erbyn hyn. Roedd yna bedwar neu bump arall o fythynnod ar dir Felenrhyd. Ar ochr y ffordd fawr o Maentwrog saif -

(49) Tan yr Allt — ag i fyny ar y top yn nes i Tŷ Newydd, safai –

(50) Muriau Robin - lle y magwyd taid John Richard, yr Ogof, Ynys.

(51) Yn uwch i fyny safai Maes y Llan - lle magwyd mam y Parch D Tecwyn Evans.

(52) Cae Brân — Ile i dair o wartheg ar dir Cefn Trefor Fawr, lle roedd hen goediwr coes gam, tad y Parch Tecwyn Parry M.C. gynt Llanberis, yn byw, ag y magwyd yn ddiweddarach y Parch W G Williams. Ar y ffordd o Dalsarnau i Soar mae —

(53) Beudy Bach a'r -

(54) Garth — ac yn nes draw mae'r -

(55) Castell - lle bu'r hen Saul, cipar y Glyn yn byw. Ac wrth ben Rhosigor mae –

(56) Bryneirin.  Rwyf wedi gorffen wrth 'Rhosigor'. Nid wyf yn ddigon hyddysg i'w rhannu yn eu plwyfi priodol, un ar bymtheg a deugain felly rwyf yn gwybod amdanynt i sicrwydd, ond clywais fod yna bump arall ar dir Felenrhyd Fawr.

Yr eiddoch:
Atgof uwch Anghof.
Mawrth 16eg, 1928.
(Hen daid Anna Wyn Jones, Cricieth a
Lisbeth Wyn James, Llithfaen yw'r awdur)

Dyma restr tai ym Mhlwyf Llandecwyn a Phlwyf Llanfihangel sydd bellach yn furddunod:


Muriau Robin,
Llidiart garw,
Maes Llan,
Mur Mawr,
Y Gegin,
Ffridd Rasus
Gwastas Annas,
Cefn Mine,
Capel Newydd,
Caebran
Hafod y Mynydd,
Capel Bach,
Pensarn,
Bryn Melyn
Garreg Ro Bach
Dolorcan Fawr,
Hendre Cerrig
Penrhyn Uchaf
Bryn Eirin,
Ty Newydd
Breichiau (Mari’r Fantell Wen)
Tynffordd Fawr,
Llennyrch
Bondwll
Efaill Bach
Castell,
Glandwr,
Ffatri Eisingrug
Talysarnau
Ysgoldy Bach,
Penybont,
Blaenddol,
Efail Eisingrug,
Aberdeunant Uchaf,
Bryn Eglwys,
Glanofer (Dorti )
Glasfryn Bach,
Muriau Gwyddil,
Rhwngyddwybont,
Gelli Grin Bach,
Llain Wen,
Nant Pasgan
Cottage House,
Beudy Bach,
Briws,
Berthen Gron,
Gwrach Ynys,
Bracdy.

Casgliad a gyflwynwyd gan Tomi Gwilym Williams