Pan benderfynwyd codi clawdd llanw yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg rhwng Ty Gwyn Y Gamlas â Phont Y Glyn, fe beidiodd Yr Ynys a bod yn ynys. Bellach, tir sych gwastad sydd i'r de o'r ynys honno, a hwnnw'n dir amaethyddol erbyn hyn. Yr unig bethau sy'n bodoli heddiw i gyfleu mai ynys oedd yno yw'r enwau, megis Yr Ynys, Gwrachynys, Rhyd Goch a'r enwog Lasynys ble arferai Ellis Wynne Y Bardd cwsg, fyw.
Ar y codiad tir uwchben Afon Dwyryd ar draws yr afon, mwy neu lai o Bortmeirion y saif Eglwys Llanfihangel y Traethau, mewn llecyn tawel, hyfryd. Yn ei mynwent mae llawer o drigolion yr ardal yn gorffwys yn cynnwys nifer helaeth o forwyr a chapteiniaid llongau sy'n cyfleu'r berthynas agos fu rhwng yr ardal â'r môr.