Enw ar y plwyf yw Llandecwyn sydd yn ardal yn ymledu o lefel y mor i fyny hyd at fynyddoedd Y Rhinogydd. Ar un adeg roedd tri chapel ac eglwys o fewn y plwyf. Yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif roedd nifer helaeth o ffermydd yn yr ardal a theuluoedd niferus yn byw ynddynt ac yn cyflogi nifer sylweddol o weision a morynion. Gweithiai nifer ar y badau ar yr Afon Ddwyryd yn cludo llechi i lawr at Ynys Cyngar, ac yn ddiweddarach fel chwarelwyr yn ardal Ffestiniog.
Bellach dyrnaid o ffermydd sydd yn yr ardal a'r boblogaeth yn bennaf yn ardal Cilfor a stâd dai Bryneithin. Mae hefyd ddyrnaid o dai ym Mryn y Bwa Bach ond mae nifer o'r rhai hynny bellach yn dai haf.