Ar un amser roedd Eisingrug yn ardal hynod o brysur. Mae wedi ei leoli ar y ffordd uchaf rhwng Harlech a Maentwrog cyn bod ffordd ar hyd y gwaelodion. Mae yma gyffordd, a chan fod Eisingrug wedi ei leoli ar ben rhiw serth iawn, roedd yn lle delfrydol i gael melin ar lan afon Moel y Glo. Yn is i lawr yr oedd Yr Efail, ffatri wlan a phandy. Nid oes dim olion ohonynt bellach, ond mae adeilad y felin yn dal i fod. Dros y ffordd i'r felin mae Bryn y Felin, sef cartref Gwyneth Vaughan awdures "O Gorlannau'r Defaid" a "Plant y Gorthrwm".
Yr oedd yma hefyd ddau gapel - capel y Methodistiaid Calfinaidd, Capel Peniel 1903 a Chapel Zion.