Chwilio

Rhyw gynulliad bychan o dai ac un stryd o bedwar ty yw Glanywern wedi ei leoli ar gyffordd. Mae un ffordd - yr A496 yn arwain trwy bentref Yr Ynys i gyfeiriad Harlech ar hyd y gwastadedd tra mae'r llall - y B4573 yn mynd heibio plas Glyn Cywarch -sef cartref Yr Arglwydd Harlech.

O fewn rhyw filltir mae'n mynd heibio'r Lasynys, cartref Y Bardd Cwsg, Ellis Wynne ac yna'n codi'n raddol, yn ffordd gul, droellog i gyrraedd rhan uchaf Harlech.