Byw ar Ynys

Byw ar Ynys

Nid yw’n hysbys pwy yw awdur yr erthygl hon ac os oes rhywun â gwybodaeth mi fyddem yn falch iawn o glywed gennych. Nid yw ansawdd y lluniau yn dda chwaith ond rydym wedi eu cynnwys am eu gwerth.

 Ynys Gifftan o gyfeiriad Pont Briwet

Faint ohonom sydd wedi teimlo, ambell dro, fel rhoi’r byd i gyd yn grwn am gael dianc i fyw ar ynys ymhell o gyrraedd pawb. Dyna fu hanes Mr Huw Williams, Minytraeth, Minffordd – treulio dros drigain mlynedd o’i fywyd ar Ynys Gifftan. Nid dianc yno wnaeth o ond cael ei eni arni am fod ei rieni wedi mynd yno i fyw tua deng mlynedd cyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

ynys gifftan02

Sut fywyd oedd bywyd plentyn yno? Wel, nid oedd fawr o drefn ar ei addysg gan mai’r llanw a reolai ei oriau yn yr ysgol. Ambell i ddiwrnod fe fyddai hi’n tynnu am unarddeg cyn y gallai gyrraedd Talsarnau. Wedi croesi i’r tir mawr fel petae, yr oedd ganddo filltir helaeth i’w cherdded. Wedi cyrraedd yn ôl adre, cadwai’r llanw ei ffrindiau draw a rhaid oedd iddo ddifyru ei hun gyda’i frawd a’i chwaer. Pan ganiatai’r tywydd hynny, aent ati i osod lein a dal lledod. Afon yn llawn dichell yw afon Dwyryd a chan y gwyddai ei fam hynny’n dda, ni swcrai fawr ar y plant i fynd i ymdrochi, dim ond o fewn golwg y ty. O’r herwydd, nid oeddynt fawr o nofwyr. Syndod arall oedd deall nad oedd cwch ar yr ynys. Ni ellid ei ddefnyddio ond ar ben llanw, ac ni adawai ddigon o amser i fynd a dod i’r pentref. Mwy hwylus o lawer oedd car a cheffyl i gario blawd a bwydiach i’r da byw at ddrws y ty.

 

ynys gifftan01

Heblaw’r ceffyl, yr oedd gan y teulu rhyw ddwy fuwch neu dair i’w cynnal mewn llefrith a menyn yn ogystal ag ieir a gwyddau. Digon tenau yw’r borfa ar y caeau ond fe gedwid defaid arnynt, er nad oeddynt yn ddigon i roi bywoliaeth i Huw Williams na’i dad o’i flaen. O’r herwydd aethai ei dad i’r chwarel yn Stiniog a thorri ei goes yno heb gael ceiniog o iawndal. Bu farw pan oedd ei fab yn ddim ond llefnyn tair ar ddeg oed. Dygnodd ei fam i fagu ei theulu. Byddai’r bechgyn yn cario eithin i danio’r popty brics ac yn cario gwair hefo car llusg a chan gribinio pob blewyn prin ohono a’i gario weithiau ar eu cefnau. Yn bymtheg oed aeth Huw Williams i weini ffarmwrs yn y Dyffryn ac yno y cyfarfu a’r ferch a briododd a mynd â hi i fyw ar yr ynys. Blynyddoedd caled oedd ugeiniau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac, fel ei dad o’i flaen, aeth yn chwarelwr i’r Blaenau. Talai un geiniog ar ddeg y dydd am ei gario yno o Dalsarnau a hynny o gyflog o ddwy bunt a chwe cheiniog yr wythnos.

Ond gwell ganddo oedd gwaith y tir, galeted ydoedd, ac am flynyddoedd bu’n fugail yng Nghefn Trefor yn ogystal a gofalu am y tir ar yr Ynys. Bywyd caled oedd ond eto’n fywyd diddan.

ynys gifftan04

Nid oedd cymdogion agos. Meddyliwch sut y byddai hi arnoch pe byddai raid i chi ddrochi’ch traed i fynd i fenthyca chwarter o de at Mrs Jones drws nesa. Lord Harlech yw’r meistr tir ac yr oedd llun ohono yn y gegin yn y ty. A’r enw Gifftan? Wel, mae’n debyg mai rhodd gan y Frenhines Ann i’r Lord oedd yr ynys – medda nhw! Eglurhad arall ac yn fwy tebygol o fod a sail iddo mai Ynys Gidan yw'r ffurf gywir. Enw ar afr ifanc yw "gidan" ac mae fferm o'r enw Aber Gafran yr ochr arall i'r afon.

Ar ôl ymddeol, daeth Mr a Mrs Williams i fyw i Finffordd gan fod iechyd Mrs Williams yn fregus. Nid lle hawdd i feddyg fynd yno yw’r ynys er i’r Dr Pritchard fynd yno am bedwar o’r gloch y bore pan gafodd Huw Williams boenau pendics. ‘Dwn i ddim a fu raid iddo ef drochi ei draed a’i peidio! Bu farw Mrs Williams rai blynyddoedd yn ôl ond mae Huw Williams yn dal i gadw ei olwg ar yr ynys fel petae. Nid oes neb yn byw yno bellach na dim i’w glywed ond cri’r gwylanod a llepian y dwr ar y creigiau. I Huw Williams, ‘lle bum yn chwarae gynt’ ydyw, lle hefyd y gwnaeth ddiwrnod o waith caled. Mae’n haeddu cael hoe ar fin y traeth bellach. Nid Ynys yr Hud yw pob ynys wedi’r cwbl.