EGLWYS LLANDECWYN

     EGLWYS LLANDECWYN          (Ionawr 1983)
 
"Hen eglwys wen, gwelais hi,
 A dwrn oes galed arni."      (J.E.)
 
Balch oeddwn o ddarllen yn rhifyn diwethaf o'r Llais fod symudiad ar droed gan y Cyngor Eglwysig i agor Cronfa i adgyweirio Eglwys Llandecwyn sy'n araf adfeilio.  Saif yr eglwys ar y llecyn hyfrytaf gyda'i banorama o olygfeydd o'r traethau hyd Ben Llyn ac ar gylch drwy Eryri hyd y Moelwyn Mawr.  O deithio Llyn ac Eifionydd gal y cyfarwydd ei chanfod ar ben y goleu a'i thwr fel pe'n ymestyn i'r Nef.  Er mor ddymunol ei safle, mae iddo hefyd ei anfanteision gan i halltwynt iawn beunyddiol Bae Ceredigion a hyrddiadau'r Dwyreinwynt dolli yn drwm iawn arni gyda'r blynyddoedd.  Adgyweiriwyd Porth y Fynwent yn ddiweddar gan Gyngor Cymuned Llandecwyn, gan ei ail-doi â hen lechi er cadw ei gymeriad gwreiddiol sydd i bob golwg yn llawer hyn na'r Eglwys bresennol. Nid oes raid bod yn arbenigwr ychwaith i ganfod fod Ty'n Llan, sydd ar ei phwys, yn llawer hyn.  Yn wir, mae dyddiad annelwig 16?? ar y talcen gorllewinol, ond credaf fod rhannau ohono yn dyddio'n gynharach hyd yn oed.  Tros y ffordd iddo a'r Porth mae llecyn gwyrddlas lle'r arferid fel wrth bob llan gynt, ymgasglu o'r plwyfolion i amryfal hap-chwarae fel ymaflyd codwm, ymladd ceiliogod a chynnal ffeiriau a gwyliau mabsant etc.  Oedd, roedd y llecyn hwn ar fîn y gefnffordd yn gyrchfan poblogaidd yn siwr gan y bu Ty'n Llan yn dafarn ac yn ysgol yn ei dro, a thrist yw teimlo fod y ffordd yn cael ei di-arddel gan yr awdurdodau a'r hen Seintwar mewn perygl o gael ei thynnu i lawr yn ein hoes ni ac mae arnom gyfrifoldeb i'w cadw.
 
Bu addoli ar y llecyn hwn er y chweched ganrif ac yn ôl haneswyr, gall yr Eglwys bresennol fod y trydydd, os nad y pedwerwydd adeilad ar y safle.  Er nad oes gofnod ar gael, Eglwys Geltaidd ydoedd yn ei hanfod a gysegrwyd yn ddiweddarach i Decwyn Sant, fel "Mihangel", "Tanwg", "Brothen" a "Twrog", cyfnod cyntefig y gornel hon o Ardudwy.  Am  y clawdd a'r fynwent ceir cae helaeth a symol wastad a elwir hyd heddiw yn Gae Maen Tecwyn, ac yn ôl traddodiad roedd yno gynt faen enfawr lle cyrchai'r ardalwyr i wrando ar wr doethach na'r rhelyw o'i gyfoeswyr yn traethu Gwirioneddau a gafodd gymaint o argraff fel yng nghwrs amser y codwyd math o adeilad i gysgodi'r allor lle'r arferid cyfarfod i addoli.  
 
Er y gallai'r adeilad cynharaf fod o goed, y tebygrwydd yn ôl damcaniaeth a glywais gan hen gymeraidau Plas Llandecwyn ydoedd i'r maen gael ei dorri i fyny a'r cerrig gael eu defnyddio i godi'r ail eglwys.  Fe dystia'r garreg a'r ysgrifen hynafol arni, a symudwyd o fur mewnol y gangell rai blynyddoedd yn ôl, y bu addoli yma er yn gynnar iawn.  Gyda llaw, er y deallir y priodoldeb o ddiogelu'r trysor o garreg hon, gresyn na fyddai modd ei harddangos yn rhywle saff er mwyn i blwyfolion Llandecwyn a'r cyhoedd sydd â diddordeb mewn hynafiaethau gael golwg arni.
 
Ym 1880, yr un flwyddyn ag y codwyd Capel Brontecwyn ar Groesffordd Bryn y Bwa Bach, ychydig yn is i lawr y ffordd, fe ail-adeiladwyd yr Eglwys.  Dyna i chwi weithgarwch a theryngarwch mewn adeg dlawd o gyferbynu moethau a difaterwch heddiw.  Diddorol yn wir ydyw
ceisio amgyffred y costau o'i hail-adeiladu heddiw wrth gwrw golwg tros fantolen y derbyniadau a'r taliadau ynglyn â'r gwaith 103 o flynyddoedd yn ôl.  Talwyd am y gwaith i gyd £493 lls. 2c., a derbyniwyd £470 1s. 7c. o gyfraniadau.  Talwyd fel a ganlyn i'r crefftwyr :
R Williams a J Hughes, Seiri Maen 213 16 1
Evan Jones Williams (Saer Coed, Pentre Ffarm 50  0 0
        sef hen daid Mrs Mair Griffiths, Groesnewydd
        gynt, ac Evan Vaughan Jones, Penrhyndeudraeth)
 
Talwyd £2 7 6 i Robert Lloyd am hoelion a.y.y.b. a chymeraf mai siopwr hen siop y Post, Talsarnau, yn awr ydoedd gan imi glywed mai'r cyfenw Lloyd hwn a roddodd enw i'r Stryd Fawr a elwid Lloyd Terrace ers talwm.  Talwyd £111 18. 10. i J H Williams a'i Feibion am goed, £10 i Lewis Hughes am baentio a gwydro, £30 0. 9c i T Humphreys am doi a phlastro, £40 16s
am fanion a £12 12s o dâ cofrestru (a diddorol fyddai deall beth oedd y tâ hwn).  O gyfartalu'r holl daliadau am lawer o waith a defnyddiau, onid yw'r tâl o £21 i'r Pensaer (di-enw) yn afresymol?
 
Diddorol iawn hefyd ydoedd bwrw golwg trwy restr y tanysgrifwyr.  Ar ben y rhestr ceir W E Oakeley, Tanyblwch - £50.  Er mor sylweddol y swm, teimlid nad oedd ond cyfran bitw iawn o'r elw enfawr a lifai i'w goffrau'r dyddiau rheini am ychydig iawn o gydnabyddiaeth i'r rhai a rwygai'r cyfoeth o erfeddion selerydd y Moelwyn.  Ceir enwau perchnogion Ystadau yn y plwyf fel Oakeley Tanybwlch, sef Arglwydd Harlech, W T Poole Esq., Captain Kirkby, Maesyneuadd, G E Haigh Esq, Grimsby (Caerffynnon), R D Wood Esq., Rugby, a Jones Esq., Ynysfor.  Deuwn hefyd ar draws cyfenwau dieithr fel Adamson, Parnell, Hesketh, Fletcher, Digby, Kirle-Hall, Platt etc., ac annodd ydyw deall eu cysylltiadau â'n plwyf gwledig a'i Eglwyd.  Fel y deuwn i lawr y rhestr at gyfraniadau llai'r plwyfolion, loes yw canfod enwau tyddynnod a bythynnod a furddunodd ers llawer blwyddyn, fel Brynmelyn ar dir Coedty Mawr, Blaen Ddol ac Aberdeunant ar dir Caerwych.  Muriau'r Gwyddel, nad oes hyd yn oed garreg yn aros i ddynodi'r fan lle bun, gan y cludwyd yr oll i godi Plasdy Penbryn Pwll Du.  Er mor chwith ydyw canfod yr hen gartrefi annwyl a gofiaf hyd alled y plwyf yn hafotai bellach, rhoddais ochenaid o ddiolch yn ddistawb bach wrth ddarllen enwau'r lleoedd a ddeil ar eu traed yn ddestlus os mai mwg penwythnos a gyfyd o'u cyrn ac mai heulan haf a'u deffry ar dro.
 
Ar waelod eithaf y rhestr ceir £1 3s 8c a ddisgrifir yn fyr fel "Minor Sums", a gallaf deimlo balchder ambell i wraig weddw ddi-gefn wrth estyn ei swllt hithau gan ei bod yn werth ei ffroffedu yn wyneb angen at achos mor deilwng.
 
Pe byddai ond ein hedmygedd o baerth ein hynafiaid tros y canrifoedd hyt at eu hymdrech fawr olaf ym 1880 yn gofalu am le i addoli yn wyneb anfanteision na allwn eu dirnad, mae'n ddyletswydd arnom fel plwyfolion, heb son amdanon fel credinwyr, i drosglwyddo a gawsom i'r rhai sy'n dod ar ein holau.  Nid yn ungi bwydo angen ysbrydol bywyd ardall fel wnaeth ye Eglwys hon am ganrifoedd a'r capeli yn ddiweddarch, feithrin a gwarchod ein hiaith a'n diwylliant.  Onid ydyw'r cefnu ar y rhain yn cerdded law yn llaw â chyflwr cobrydus y 'pethe' heddiw.  Ofnaf fy mod yn ddigon hen ffaswin i orfod proffwydo y bydd tranc y naill yn sicfrhau difancoll y llall.