Hen Garreg fedd Llanfihangel y Traethau

Carreg Fedd Hynafol ym Mynwent Llanfihangel y Traethau

Carreg fedd1  Carreg fedd3 

 

 

 

Ar un adeg yr oedd yr afonydd Glaslyn a’r Ddwyryd yn uno ger Eglwys Llanfihangel ac yn rhedeg i’r môr ar hyd Morfa Harlech. Soniwyd mai yn y cyfnod hwnnw yr adeiladwyd yr Eglwys i geisio, medde nhw, droi trigolion yr Ynys yn Gristnogion.   Yr hyn sydd gywir ydyw i’r Eglwys gael ei hadeiladu fel capel anwes i blwyf Llandecwyn tua chanol y ddeuddegfed ganrif. Daeth Tecwyn Sant i’r ardal hon ar ddechrau’r ganrif a sefydlu eglwys yn y man lle saif Eglwys Llandecwyn heddiw.

Nid oes eglwys arall yng Nghymru wedi’i chysegru i Decwyn Sant.   Tu mewn i Eglwys  Llanfihangel y Traethau   Gyferbyn a drws Eglwys Llanfihangel mae carreg fedd hynafol a diddorol sydd wedi denu sylw llawer o bobl yn y gorffennol gan ei bod yn dyddio’n ôl i 1150. Dyma fel mae’r ysgrif Lladin sydd arni. HI (c) EST SEPULECRU (m) WLEDER MAT(r)IS ODELU Q (n) IP (r) EDIVICAV (it) HANC EC (c) L (esi) A (ni) IN TE (m) P (a) R (a) R (e) EWINI REG (is). Mae’n dweud – ‘Dyma lle y gorwedd Wleder mam Odeleu adeiladodd yr eglwys hon gyntaf yn amser y Brenin Owain.’ Ni wyr neb am Wleder nac Odeleu ond y Brenin Owain oedd Owain Gwynedd.   Mae’r garreg hon yn bwysig am dri rheswm. a) Noda’r cyfnod yr adeiladwyd yr eglwys gyntaf. b) Dyma’r unig garreg o’i bath ym Meirionnydd ac nid oes ond deg o’i bath yng Nghymru. c) Mae’n gofnod cyfoes o wr amlwg yn hanes Cymru

(Diolch am ganiatad Mathew John Jones i gynnwys y testun uchod)