Hanes Suddo'r Fferi

 
Trychineb Cwch Fferi
 
Dydd Iau y 7fed o Awst 1862 roedd un o gychod fferi Rees Jones yn dychwelyd o Borthmadog i Harlech gyda naw o deithwyr a dwy hanner casgen o borter. Roedd y gwynt wedi codi'n eithaf garw o gyfeiriad y de-orllewin ond ni thybiai neb er hynny bod unrhyw berygl. Tua chanol y daith cododd y gwynt yn gryfach gan greu tonnau cryf ac roedd y cwch yn amhosib i'w drin. Yn fuan llanwodd y cwch â dwr a throdd ar ei ben i waered gan daflu pawb i ganol y môr gwyllt.
 
Roedd cwch fferi arall yn dod heb fod ymhell ac yn hwylio mor gyflym a phosib gan obeithio gallu achub y teithwyr druan. Disgrifiodd criw y fferi honno eu bod yn gallu gweld y bobl ar wyneb y dwr am ychydig funudau gyda'u breichiau i fyny ac yn sgrechian yn ddychrynllyd. Dau yn unig a achubwyd sef Rees Jones, perchennog y fferi ac Ann Lewis, Llechwedd, Harlech. Bu i'r wyth arall orfod ildio i'r dyfnderoedd. Fore Gwener daethpwyd o hyd i saith corff ar y traeth.
 
Ddydd Llun yr 11eg, cynhaliwyd cwest o flaen Griffith Williams (crwner), rheithgor gydag Edmwnd Edwards, Plas Uchaf, pen rheithiwr. Y rheithfarn oedd - 'boddwyd trwy ddamwain'.
 
Y rhai a gollodd eu bywyd oedd - John a Rees Jones, dau forwr a meibion Robert Jones, Felin y Brenin, Dyffryn Ardudwy; Arthur Jones, wyr Rees Jones, ceidwad y fferi; Dorothy, gwraig Evan Lloyd, Llechwedd; Griffith a John Edwards, meibion William Edwards, Cwrt Rasus; Ann Williams, Llanllyfni a Jane Parry, yr Ynys na chafwyd hyd i'w chorff.
 
 
 
Canodd Ieuan o Eifion faled hir am y drychineb a dyma rai oír penillion:
 
Ar unwaith Gymru annwyl
Yn suful cydnesewch,
Rhyw destun prudd alarnad
Ar ganiad yma gewch.
 
Am ddyfroedd mawr y canaf
Fel gallaf yn ddi-gudd;
Brynhawn dydd Iau bu'n galed
Sef Awst y seithfed dydd.
Roedd deg mewn cwch yn croesi
Mewn fferi, y Traeth Mawr,
A'u bwriad oedd yn union
Am Feirion wiwlon wawr.
 
Hwy aent iír cwch yn llawen
Gan feddwl cyrraedd tir,
Ond wyth o'r deg fu foddi
O'r fath galedi clir.
Y cwch pryd hyn ddymchwelodd
Gan nerth y gwyntoedd mawr,
A'i donnau gwyllt aflonydd
Anedwydd oedd yr awr.
 
'Rolygfa oedd dorid calon
I ddynion mae'n ddiau
Gweld deg heb obaith bywyd,
Er hynny achubwyd dau;
Rees Jones a gwaraig mae'n hysbys
Yn ol ewyllys Duw,
Un Robert Parry ddarfu
Eu codi i fyny'n fyw.
 
Dau fab o Forfa Harlech
A dau o'r Dyffryn draw,
Ac wyr Rees Jones y fferi
Hwn oedd o'r lle gerllaw;
Y wraig o ardal Harlech
Jane Parry o'r Ty Gwyn
Merch arall o Lanllyfni
Maent oll dan gloau'r glyn.
 
 
 
Canfod Corff Jane Parry Yn Dilyn Damwain Fferi
 
North Wales Chronicle, (Oct 4th 1862) Cyfieithiad o'r hyn ymddangosodd yn y papur.
 
PORTMADOC.
 
CORFF WEDI EI GANFOD. - Bydd ein darllenwyr yn cofio'r trychineb enbyd ddigwyddodd rai wythnosauín ol i Fferi Porthmadog, pan ysgubwyd wyth person i ddifancoll heb na meddwl na pharatoad. Cafwyd hyd i'r cyrff i gyd namyn un, sef un Jane Parry, hetwraig, oedd yn byw yn Nhygwyn, ar ochr Meirionnydd o'r afon. Roedd achos y ferch hon yn drist a phruddglwyfus i'r eithaf. Hi oedd prif gymorth ei mam oedd yn weddw, ac roedd hi'n uchel iawn ei pharch gan bawb ac edrychid arni fel merch ifanc ddoeth a da. Roedd hi ar fin bod yn briod â chapten llong a phwrpas ei thaith i Borthmadog oedd i brynu gwisg briodas ac ati, gan freuddwydio am y priodfab a ddisgwyliai amdani. Ddydd Gwener diwethaf, roedd hen wr o'r enw Griffith Morris, ffermwr bychan yn byw ym Morfa Bychan, yn casglu gwymon ar hyd lan y môr pan ganfu gorff yr ymadawedig yn gorwedd ar y traeth, ac fel y digwyddodd fe'i hadnabu. Cododd y corff a'i gosod yn y drol, ac anelodd yn ddi-oed am Borthmadog i roi gwybod i'r heddlu am yr amgylchiadau. Daeth llawer o bobl i amgylchynu'r drol, ac roedd teimlad o dristwch i'w deimlo gan bawb am farwolaeth mor anamserol. Aed â'r corff i Eglwys y Plwyf Ynyscynhaearn, i ddisgwyl am drengholiad gan y crwner, o flaen H. Hunter Hughes, Ysw., ddigwyddodd ddydd Sadwrn diwethaf lle nodwyd rheithfarn o 'Caed wedi Boddi'.