Ellis Wynne

 
Ellis Wynne - 1671 - 1734 
 
Ar ochr ei dad perthynai i deulu enwog Glyncywarch, Talsarnau, y Wynniaid. Roedd ei fam yn etifeddes y Lasynys, lle y ganed Ellis Wynne, ac yno y treuliodd ei fywyd. Credir iddo gael ei addysg gynnar yng Nghaer, a bu'n fyfyriwr yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Roedd yn wr dysgedig, ac efallai iddo fwriadu dilyn galwedigaeth fel cyfreithiwr, ond fe'i perswadiwyd i gymryd urddau eglwysig. Fe'i ordeiniwyd ar Rhagfyr 31ain, 1704, ac ar Ionawr 1af, 1705, fe'i penodwyd yn Rheithor Llandanwg gyda gofal capelwriaeth Llanbedr. Ym mis Gorffennaf 1711, penodwyd ef yn Rheithor Llanfair, a bu'n y swydd honno hyd ei farw yn 1734. Yn Eglwys Llanfair, ger yr allor, y claddwyd ef. 
 
Ei brif waith oedd 'Gweledigaethauír Bardd Cwsg' a gyhoeddwyd yn 1704, ac a ddaeth yn un o brif glasuron y Gymraeg, ac fe'i hargraffwyd dros ddeg ar hugain o weithiau ers hynny. Yn 1701, cuhoeddwyd cyfieithiad o lyfr Jeremy Taylor, 'Rheol Buchedd Sanctaidd' ac yn 1710, ymddangosodd ei argraffiad o 'Y Llyfr Gweddi Cyffredin' lle y ceir ei emyn mwyaf adnabyddus, 'Myfi yw'r Atgyfodiad Mawr'. 
 
Myfi yw'r adgyfodiad Mawr 
Myfi yw Gwawr y bywyd; 
Caiff pawb am crÍd medd f'arglwydd cry 
Er trengu fyw mewn eil-fyd. 
Ar fawl fy'n byw mewn ufudd grÍd 
Imi, caiff drwydded nefol, 
Ni allo'r Angeu Brenin braw, 
Ddrwg iddaw yn dragwyddol.