Darganfod Un o Gychod Prin y Ddwyryd

 

CwchyDdwyryd2

Mae’n debyg na welwyd gymaint o fynd a dod i lawr i’r glastraeth rhwng Talsarnau ac Ynys Gifftan ers yr amser hwnnw pan gafwyd hyd i forfil  fethodd ddychwelyd i’r môr gyda’r llanw beth amser yn ôl. Dros y Sul hwn, Hydref 24ain 1986, fel y tro hwnnw, gwelwyd nifer o drigolion Talsarnau ac eraill yn troedio i lawr i gyfeiriad Ynys Gifftan a gellid teimlo’r cywreinrwydd a’r chwilfrydedd yn yr awyr – pawb yn holi ac yn trafod yr hyn oedd wedi dod i’r golwg. Testun a chanolbwynt yr holl sylw oedd yr hen gwch a ddarganfuwyd yn y tywod rhwng Ynys Gifftan a’r Clawdd Llanw. Mae’n debyg iddo fod yn gorwedd yno heb i neb fod yn gwybod dim amdano er y cyfnod hwnnw pan ddaeth oes y cychod cario llechi i ben tua 1845.

Mae’n debyg i’r stori gychwyn oherwydd diddordeb Mr Hefin Jones, Swn yr Wylan mewn hanes a hen bethau. Yn dilyn iddo wrando ar ddarlith gan Merfyn Williams, Pennaeth Plas Tanybwlch yn ymwneud â hanes y Ddwyryd cyffrôdd hyn yr awydd i geisio dod o hyd i olion neu greiriau. Ychydig a ddychmygodd y byddai’n cael y fath lwyddiant. Aeth Hefin allan un diwrnod yn yr haf am dro i lawr i’r traeth gyda’i gi.

Yno sylwodd ar ddarnau o goed a’u pennau i’w gweld yn sefyll yn uwch na lefel y dr mewn pwll un o’r ffosydd sy’n arwain at yr afon. Meddyliodd y gallai’r coed hyn fod yn rhan o un o’r cychod hynny fu’n cario llechi yn y cyfnod cynnar yn hanes y chwareli llechi rhwng tua 1800 a 1845.

Dyna gychwyn yr holl beth . . . . . . . . Wedi i Hefin Jones gysylltu â Merfyn Williams yngyln â’r hyn y credai oedd yn y tywod, cysylltodd yntau yn ei dro a’r Adran Forwrol ym Mhrifysgol Bangor, a chyda Owain Roberts, Amlwch sydd yn arbenigwr ar bob math o wahanol fathau o gychod a llongau. Athro yn Amlwch yw Owain Roberts ac oherwydd ei brofiad, ei arbenigedd a’i wybodaeth yn y maes yma, derbyniodd radd anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn ddiweddar. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am arwain y gwaith o godi cwch llechi ddarganfuwyd yn Llyn Padarn dro’n ôl. Roedd diddordeb Owain Roberts yn y cwch yn amlwg o’r cychwyn ac wrth durio i’r tywod a chael mwy i’r golwg, roedd yn gweld y cwch hwn yn un arbennig ac yn ymdebygu i’r cychod hynny oedd yn gyffredin ar un adeg yn hwylio ar hyd glannau ac aberoedd y gwledydd Celtaidd.

CwchyDdwyryd7

Doedd dim enghraifft o’r cychod hyn ar gael ar hyn o bryd. Roedd y bow yn ei dyb ef yn ddiddorol ac oherwydd y siâp crwn oedd iddo, - yn anarferol yn hynny o beth. Yn amlwg, roedd i’r cwch hwn fast a gariai hwyliau ac mae’n debyg mai cario llechi oedd ei brif bwrpas. Wrth gloddio a gwagio’r canol o dywod blynyddoedd, doi darnau diddorol i’r golwg bob hyn a hyn; ambell i ddarn pren ac iddo siâp neu batrwm arbennig roddai fwy o wybodaeth i Owain Roberts, neu ddarnau o lechi a gadarnhâi sylwadau cynharach ganddo.A’r tywydd yn deg a’r haul yn gynnes, braf iawn oedd gweld cymaint yn troi tua’r traeth, unai o ran cywreinrwydd neu i droi yno gyda welingtons a rhawiau i gynnig cymorth. Ymunodd hefyd arbenigwyr morwrol o Fangor ac o Loegr, rhai o wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri ac aelodau Grp Hanes Lleol Blaenau Ffestiniog ynghyd â nifer o bobl leol yr ardal. Roedd yno un hefyd oedd yn gwirioneddol fwynhau’r cyfan – Mr Tomi Gwilym Williams o Dalsarnau sydd â

CwchyDdwyryd8

 diddordeb arbennig mewn hanes lleol ac yn un a dreuliodd lawer o amser i lawr ar y traeth gydol ei oes yn gosod leins ac yn tryfera.

Bonws yn wir oedd y darganfyddiad i Tomi Gwilym. Wrth sgwrsio cawn wybod gan Tomi Gwilym Wil

liams i’w fam fod yn cofio yr hyn sy’n lasdraeth heddiw fod yn dywod, lawer ohono ac i rai o’i deulu fod yn gosod leins pysgota heb fod yn bell oddi wrth y clawdd llanw a dal ambell i gath fôr. Dyna gan gymaint y newid fu mewn cyfnod cymharol fyr. Roedd gan Tomi Gwilym Williams, er nad yn anghytuno o gwbl ac Owain Roberts ddamcaniaeth ddiddorol ei hun am yr hyn y credai ef y gallai’r cwch hwn fod.

Yn wir roedd lawer o ddamcaniaethu yn mynd ymlaen ymysg y criw wrth iddynt frwydro i wagio’r dr, mwd a thywod. Dyma ddamcaniaeth Tomi Gwilym. Tua’r un cyfnod pan oedd y cychod cludo llechi yn teithio rhwng Trwyngarnedd neu Gelli Grin a Phorthmadog, roedd cwch yn cael ei ddefnyddio yn lleol fel ‘ferry’ rhwng T Gwyn Gamlas, Yr Ynys a Phorthmadog – yn cario nwyddau a phobl yn ôl a blaen. Un prynhawn ar Awst 7fed 1862 a’r fferi yn dychwelyd o Borthmadog, fe gododd yn storm ac fe gollwyd wyth o fywydau. Rees Jones oedd dyn y fferi ar y pryd a chollodd yr yn y drychineb. Bu ef ei hun yn ddigon lwcus i gael ei achub gydag un  arall.

CwchyDdwyryd6

 

Ymhle’n union y suddodd y cwch hwnnw tybed? Ysgwn i a oes mwy o wybodaeth ar gael am y digwyddiad yma? Damcaniaeth arall a gynigwyd oedd honno oedd yn awgrymu mai’r Cwch Du oedd hwn.

Un o’r llu cychod arferai gario llechi i lawr y Ddwyryd oedd y Cwch Du fentrodd i lawr yr afon i ddannedd storm, yn groes i bob rhybudd ac argoel tywydd. Y ddau oedd yn ei chanlyn ar y pryd oedd Thomas Jones Y Pant, a Griffith Rhisiart Gwaen Gwella, y ddau o’r Penrhyn. Rhywle yng nghyffiniau Ynys Gifftan fe symudodd y llwyth llechi, dymchwelodd y cwch a chollodd y ddau eu bywydau.

Tybed pa mor agos i Ynys Gifftan ddigwyddodd hyn? A ydyw hi’n bosib’ mai’r cwch hwn ydi’r Cwch Du? 

CwchyDdwyryd5

Ar y llaw arall, efallai i’r hen gwch weld blynyddoedd o wasanaeth yn teithio’r chwe milltir bob ffordd yn rheolaidd rhwng y Gelli Grin ac Ynys Cyngar a phan lwyddodd y lein a’r tren bach ar ôl brwydr hir i roi’r cychwyr allan o waith, iddo gael ei adael ar ddiwedd ei oes i’w gladdu’n raddol gan yr elfennau – pwy a wyr? Er cymaint y defnydd wnaed o’r cychod bach hyn, a nifer ohonynt yn ôl pob sôn wedi eu hadeiladu ar lannau’r Ddwyryd, ychydig o wybodaeth sydd amdanynt – a does yr un enghraifft ar gael mewn amgueddfa yn unman. Hawdd yw deall felly fod Owain Roberts a’r criw yn bur gynhyrfus ynglyn â’r darganfyddiad.

Wedi dod o hyd iddo, gobeithio, ar ôl llwyddo i’w gael o’r tywod, ac ar ôl iddo gael ei drin a’i atgyweirio, y bydd ymhen amser yn cael ei arddangos mewn amgueddfa for

wrol ym Mhorthmadog fel y bydd ar gael yn hwylus i ni i’w weld fel y gallwn ni fynd a dangos i’n plant beth o hanes a’n ffordd o fyw yn yr amser a fu.

Cychod Cario Llechi - Ychydig o Ffeithiau Mae’n debyg mai Chwarel y Diphwys oedd un o’r chwareli cyntaf i agor ym Mlaenau Ffestiniog, ac yn ystod y blynyddoedd cyntaf, arferid cario’r llechi o’r chwareli i lawr i Faentwrog ar gefnau ceffylau ac mewn troliau. Llwythid y llechi wedyn i gychod bychain oddi ar y ceiau oedd ar lan yr afon Ddwyryd er mwyn eu cludo tybed pam?

 

 

Cyfeiriai pobl y cyfnod at gychwyr Y Traeth Bach fel “Y Philistiaid” – tybed pam? Dyma sut y disgrifiwyd y gwaith gan un:

Rwy’n cofio’r badau ar eu hynt
A’u hwyliau gwynion yn y gwynt 
Yn cario llechau hardd i lawr 
Cyn bod y gledrffordd fel yn awr
Ac weithiau rhwyfo blin y gwaith
Er ceisio cyrraedd pen y daith.
Mor bybyr oedd y dynion iach
Er llwydd trafnidiaeth y Traeth Bach.

Tybed nad ydy’r pennill hwn o eiddo Evan Dafydd, Y Morfa yn disgrifio peth o’r hyn sy’n nodweddiadol am natur a dycnwch y gyr hynod hyn. Dyma restr o rai o enwau’r cychod: Cwch Du, Cwch Gwyn, Cynffon Twrch, Darn, Gagre, Hagnu, Hector, Magog, Neptune, Pelican, Star, Swallow, Twrog, Tyro, Y Garreg Wen, Y Werddon, Yr Albion. Yn ogystal â hwylio ar hyd y Ddwyryd, roedd adeiladu cychod a llongau hefyd yn ddiwydiant pwysig yn yr ardal. Mae cofnod am nifer o longau wedi eu hadeiladu rhwng 1761 a 1821 – gymaint â 53 ohonynt. Mesurai’r hiraf – yr “Unity” 67 troedfedd o hyd a 21 troedfedd o led tra’r oedd y lleiaf – y “Stag” yn 29 troedfedd o hyd a 9 troedfedd o led – yn debyg iawn i fesuriadau’r cwch ddoed o hyd iddo ar y traeth.

Nodir y mannau canlynol fel rhai o’r lleoedd yr adeiladwyd llongau ynddynt: Abergafran; Aber Iâ; Archollwen (Llechollwyn?); Carreg Ro; Trwyngarnedd; T Gwyn, Yr Ynys; Ysgyrnolwyn.

Cyfnod diddorol a phrysur iawn oedd y cyfnod hwn ond gyda dyfodiad y rheilffordd rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog daeth dechrau diwedd y cychod bach. Er iddynt gystadlu’n frwd a brwydro’n galed am eu heinioes am nifer o flynyddoedd colli’r dyddfu eu hanes i ddatblygiadau mwy modern – y peiriant stêm. Fel canlyniad mae’n debyg i hynny, fe gynyddodd chwareli’r Blaenau rhwng 1831 1 1881 o 7 chwarel i dros 20, ac erbyn diwedd y ganrif roedd tua 4,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant llechi. Ychydig feddyliodd Hefin Jones wrth fynd i wrando ar ddarlith i Blas Tanybwlch (lle bu perchnogion rhai o’r chwareli’n byw un adeg!) y byddai’n arwain at greu’r fath ddiddordeb ac yn rhoi yr holl foddhad i bobl eraill wrth iddynt ymhél yn hanes y diwydiant llechi. Rhyfedd o fyd . . . . . . . Wrth lunio’r ychydig sylwadau hyn ym 1986, yr unig fwriad oedd ceisio rhoi rhywbeth ar bapur fyddai ar gof a chadw i gofio’r digwyddiad o gael hyd i’r hen gwch, a hwyrach ysgogi mwy o ddiddordeb.

Diolch i Hefin Jones am fod yn ddigon effro i weld a sylweddoli. Gobeithio y deil i wrando ar ddarlithoedd ac i fynd â’i gi am dro . . . . . .