Cynhaliwyd Cyngerdd yr Hydref eleni ar Hydref 24ain 2014 a braf iawn oedd gweld y neuadd yn llawn. Cynulleidfa a wyddai mai Gwynfor Williams Gwrach Ynys roddodd y cwch yn y dwr wrth wahodd aelodau o Barti'r Goedlan a Trio Canig pan ddaethant ar draws y naill a'r llall yn Iwerddon o bob man. Gwyddom fel y byddai Gwynfor wrth ei fodd yn dilyn y gemau rygbi rhyngwladol ac ar ol y gemau, ennill neu golli, byddai wrth ei fodd yn morio canu fel rhan o'r dathliadau. Llynedd, tra yn Iwerddon, mewn noson a blas arbennig ar y canu a'r ginis, gwahoddodd Gwynfor y criw i ddod i Dalsarnau i gynnal noson. A dyna fel y bu.
Ond gwyddom ers hynny, wrth gwrs inni i gyd yn ein gwahanol ffyrdd brofi'r chwithdod a'r brofedigaeth o golli Gwynfor. Teimlwyd er ei golli, y byddai Gwynfor am inni fynd ymlaen a'r trefniadau ac y byddai am i bawb ohonom gael hwyl a mwynhau'r noson.
Ac felly bu. Fe gafwyd hwyl - jocs dirifedi gan Tudur Evans arweinydd y noson ac aelod o Barti'r Goedlan o ardal Brithdir. Bu hefyd yn canu ynghyd a'i frawd Bedwyr a'i ferch Arwen. Fe gawsom unawdau grymus gan y ddau ohonynt ac fe gawsom ein cyfareddu gan lais hyfryd Arwen, a'i dewis o ganeuon yn cyffwrdd pob un ohonom. Cafwyd eitemau caboledig gan y triawd o Fon - Trio Canig a'u lleisiau mewn harmoni tyn ac yn gweddu i'w gilydd. Cafwyd sawl datganiad roddodd bleser pur i'r gynulleidfa. Gwerth nodi hefyd y ddau gyfeilydd gan i'r datganwyr a'r gynulleidfa werthfawrogi eu chwarae.
Croesawyd y gynulleidfa a chyflwynwyd yr artistiaid gan Dewi Tudur ac ef hefyd ddiolchodd i bawb a fu'n rhan o'r trefnu mewn fordd ddyheug ac addas i'r amgylchiadau
Cafwyd gwybod gan y trysorydd, Margaret Roberts i'r noson wneud elw o £880 sydd yn swm anrhydeddus er hybu gweithgarwch o fewn y neuadd. Diolch cynnes iawn i bawb ddaeth i gefnogi.
Llongyfarchiadau i Cor Cana Mi Gei
Llongyfarchiadau enfawr i'r côr merched lleol, Cana Mi Gei ar eu llwyddiant yn eu cystadleuaeth gyntaf erioed. Cynhaliwyd Gwyl Gerdd flynyddol yn Ysgol King's, Caer, ers sawl blwyddyn bellach, a phenderfynodd Ann Jones, yr arweinydd, y byddai'r côr yn cystadlu yn adran y corau merched ar ddydd Sadwrn 17eg Mai 2014.
Y beirniad oedd Yr Athro David Hoult, ac fe benderfynodd mai Cana Mi Gei oedd yn haeddu'r wobr gyntaf. Y wobr oedd Cwpan Stamford. Diolch i Ann ac i gyfeilydd y côr, Elin Williams, am eu holl waith.
Eisteddfod yr Urdd
Dymuna Pwyllgor Apel yr Urdd ardal Talsarnau ddiolch yn ddiffuant am bob ccymorth a chefnogaeth i sicrhau ein bod ni wedi cyrraedd y targed o £4,000. Diolch yn arbennig i Gyngor Cymuned Talsarnau am eu cyfraniad hael o £1,500 tuag at yr achos ac i bawb sydd wedi cefnogi digwyddiadau, amleni rhodd a phrynu nwyddau
Economi Ardal Pont Briwet yn Dioddef
Bellach mae pobl ardal Ardudwy yn dechrau dod i gynefino â gorfod teithio i fyny i Faentwrog ac i lawr yn ôl I Penrhyn er mwyn croesi’r Afon Dwyryd. Mae hyn yn golygu 4 milltir i fyny i Faentwrog a 4 milltir pellach i gyrraedd Penrhyn. Mae hyn yn ychwanegu yn sylweddol at yr amser teithio – gryn ugain munud ar gyfartaledd. Ond mae’n rhaid hefyd gofio fod system gonfoi yn gweithredu ar filltir a chwarter o’r ffordd – sef y rhan o’r ffordd sydd yn droellog ac yn arbennig o gul mewn mannau.
Peryglon Ffordd Maentwrog
Yn gynharach y mis hwn, deallwn i ambiwlans a’i golau glas yn fflachio gael ei dal rhwng Llandecwyn a Maentwrog am yn agos i ugain munud gan fod cerbydau mawr llydan yn methu pasio ei gilydd ar y ffordd gul droellog hon. Mae sefyllfa fel hon yn gwbl annerbyniol.
Fel y gwyddoch, mae’n siwr, penderfynwyd cau Pont Briwet i draffig ffordd ers ychydig ddyddiau cyn y Nadolig yn dilyn canfod ceudyllau ar wyneb y ffordd wedi eu creu yn ôl pob sôn gan bydredd yn y coed sy’n cynnal y ffordd.